William Charles Evans
Gwedd
William Charles Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1911 Bethel |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1988 Llangaffo |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biocemegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Arloeswr o Gymru ym maes biocemeg oedd William Charles Evans (1 Hydref 1911 - 24 Gorffennaf 1988) a anwyd ym Methel ger Caernarfon, Gwynedd. Deuai ei dad, a oedd yn saer maen, o Fethel, Llanddeiniolen. Graddiodd mewn cemeg ym Mhrifysgol Bangor a ffisioleg ym Mhrifysgol Manceinion.
Yn gynnar yn ei yrfa bu'n ymchwilydd meddygol yn Llundain ac yn darlithio mewn cemeg amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dychwelodd i Fangor yn 1951 yn athro ar yr adran fiocemeg a gwyddor pridd. Roedd wrth ei fodd gyda biodiraddiad cemegau gwenwynig a chlwy rhedyn mewn gwartheg.