Volkswagen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Volkswagen
Logo Volkswagen.png
Math Rhan o Volkswagen AG
Sefydlwyd 1937
Pencadlys Yr Almaen Wolfsburg, Yr Almaen
Pobl blaenllaw Martin Winterkorn, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli
Diwydiant Ceir
Cynnyrch Ceir
Refeniw Green Arrow Up.svg 197.007 billion (2013)
Incwm net Green Arrow Up.svg 2.75 biliwn (2006)
Gweithwyr 324 900 (2006)
Arwyddair Das Auto (Y Car)
Gwefan Volkswagen Rhyngwladol

Gwneuthurwr ceir o'r Almaen yw Volkswagen, (VW; ynganiad Almaeneg: [ˈfɔlks.vaːɡən]) sydd a'i bencadlys yn Wolfsburg, Yr Almaen ac a sefydlwyd yn 1937. Volkswagen yw cwmni craidd Grŵp Volkswagen (a sefydlwyd yn 1975) ac a oedd yn Awst 2015 yr ail gwneuthurwr ceir mwyaf yn y byd, ar ôl Toyota.[1] Yn 2012 roedd proffid y cwmni'n 21.7 biliwn. Ymhlith y ceir a werthir gan Grŵp Volkswagen mae: Audi, Bentley, Bugatti, Lamborghini, Porsche, SEAT, Škoda yn ogystal â'u brand (VW) eu hunain.

Mae'r enw'n golygu "car y bobl" mewn Almaeneg, hen arwyddair y cwmni oedd "Aus Liebe zum Automobil" sef cyfieithiad o: "am gariad tuag at y car", slogan newydd y cwmni ydy "Volkswagen - Das Auto" sef "Volkswagen - y Car".

Yn Awst 2015 roedd gan VW dri char yn y rhestr 10-gorau'r byd erioed, yn ôl y wefan 24/7 Wall St. sef: Golf, Volkswagen Beetle, a'r Volkswagen Passat.

Hanes a cheir[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at 1937 roedd ceir y byd yn eitemau drud iawn a dim ond y cyfoethog oedd yn medru eu fforddio; un Almaenwr o bob 50 oedd yn medru fforddio car. Newidiodd hyn pan awgrymodd Hitler y dylid creu ceir fforddiadwy, a datblywgyd y Volkswagen Käfer (neu'r 'chwilen') gan Erwin Komenda, un o weithwyr Porche. Yn 2015 roedd y Chwilen yn dal i gael ei werthu gan y cwmni. Cychwynwyd eu cynhyrchu yn 1938 yn Wolfsburg, ond ataliwyd y gwaith pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel, dan arweiniad un o swyddogion y fyddin Brydeinig, Ivan Hirst, cynhyrchwyd 20,000 Chwilen i bersonel y fyddin. Erbyn 1946, roedd y ffatri'n cynhyrchu 1,000 o geir y mis. Newidiwyd enw'r car i "Volkswagen" ac enw'r dref i "Wolfsburg".

Primer
prototeip o'r W30; cynlluniwyd gan Porsche. 1937.
Y "Kraft-durch-Freude-Wagen" ("Cryfder Drwy Hapusrwydd"); car teulu. 1938
Volkswagen Schwimmwagen
Volkswagen Schwimmwagen a gynhyrwchyd yn ystod y Rhyfel. 1942–44.
Math 1, diwedd y Rhyfel, dechrau'r "Beetle". 1945.
Volkswagen Karmann Ghia. 1955–1974.
Rhai o'r ceir cynnar a gynhyrchwyd gan Volkswagen dros y blynyddoedd 1937-1955.

Cynigwyd trosglwyddo'r cwmni am ddim i gynhyrchwyr ceir Americanaidd (Ford) a Phrydeinig (Rootes) ond troi eu trwyn wnaethant gan ddweud fod y Chwilen yn gar hyll. Cymerwyd y ffatri drosodd gan Lywodraeth yr Almaen dan reolaeth Heinrich Nordhoff un o weithwyr Opel. Aethpwyd ati i ddylunio cerbyd mwy a adnabyddwyd yn swyddogol fel y 'Transporter', 'Kombi' neu 'Microbus'; yng ngwledydd Prydain, galwyd ef yn 'Camper' a daeth y cyntaf allan o'r ffatri yn 1950.

Twyll allyriad tocsig ceir diesel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Medi 2015 ymddiheurodd Martin Winterkor, Cadeirydd Volkswagen am dwyll gan y cwmni a oedd yn effeithio dros 11 miliwn o'u ceir.[2] Daeth y cyhuddiad yn wreiddiol gan Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchfyd Unol Daleithiau America ar 18 o Fedi, fod y cwmni wedi gosod meddalwedd o fewn yr Uned Reoli a oedd yn lleihau'r allyriad o NOx (mono-nitrogen ocsid NO a NO2) yn ystod profion dan reolaeth.[3] Ar deithiau arferol, roedd y ceir yn allyru hyd at 40 gwaith yn fwy nag a ganiateir gan ddeddfau UDA ac Ewrop.[4] Ar ddiwrnod cynta rhyddhau'r cyhuddiad hwn, dirywiodd bris cyfranddaliadau'r cmwni 20%.[5]

Yn ystod yr wythnosau dilynol profwyd ceir eraill a sylweddolwyd fod ceir sawl cwmni arall yn allyru nwyon tocsig i'r amgylchedd. Yn Leeds profodd Uned Astudiaethau Cludiant y Brifysgol bedwar car a gwelwyd fod allyriant y ceir hyn hefyd llawer uwch na chyfyngiad y Comisiwn Ewropeaidd. Mewn cymhariaeth, roedd car Golf VW sawl gwaith uwch na'r cyfyngiad hwn o 0.08 gram o NOx y cilometr (km).

Cwmni Logo NOx y cilometr (km) Sawl gwaith dros y cyfyngiad Ewropeaidd?
Mercedes-Benz Mercedes benz silverlogo.png 0.42 5.3 gwaith mwy
BMW BMW.svg 0.45 5.6 gwaith mwy
Mazda Mazda logo with emblem.svg.png 0.49 6.1 gwaith mwy
Ford Ford Motor Company Logo.svg 0.54 6.8 gwaith mwy

Ceir cyfredol Volkswagen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Volkswagen Caddy
  • Volkswagen Eos
  • Volkswagen Fox
  • Volkswagen Golf Mk6
  • Volkswagen Golf Mk5
  • Volkswagen Golf Mk5
  • Volkswagen Jetta
  • Volkswagen Multivan
  • Volkswagen New Beetle
  • Volkswagen New Beetle
  • Volkswagen Passat]
  • Volkswagen Passat CC
  • Volkswagen Phaeton
  • Volkswagen Polo
  • Volkswagen Scirocco
  • Volkswagen Sharan
  • Volkswagen Touran
  • Volkswagen Tiguan
  • Volkswagen Touareg
  • Volkswagen Routan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]