Porsche

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Porche)
Porsche AG
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
Aktiengesellschaft
Aelod o'r canlynol
Fédération Internationale de l'Automobile
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1931
SefydlyddFerdinand Porsche, Adolf Rosenberger
Aelod o'r canlynolFédération Internationale de l'Automobile, Cymdeithas Fraunhofer
PencadlysStuttgart
Pobl allweddol
Peter Schutz (Prif Weithredwr)
Cynnyrchcar
Refeniw33,138,000,000 Ewro (2021)
Incwm gweithredol
5,314,000,000 Ewro (2021)
Cyfanswm yr asedau51,382,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2021)
PerchnogionVolkswagen AG (1)
Nifer a gyflogir
36,996 (2021)
Rhiant-gwmni
MDAX, DAX Volkswagen AG
Lle ffurfioStuttgart
Gwefanhttps://www.porsche.de/, https://www.porsche.co.il/, https://www.porsche.com, https://www.porsche.com/germany/, https://www.porsche.com/france/, https://www.porsche.com/swiss/de/, https://www.porsche.com/swiss/fr/, https://www.porsche.com/swiss/it/, https://www.porsche.com/italy/, https://www.porsche.com/luxembourg/fr/, https://www.porsche.com/usa/, https://www.porsche.com/japan/jp/ Edit this on Wikidata
Gofal: Erthygl ar wnaethurwr ceir, a brand ceir Porsche AG yw hon. Ceir hefyd Porsche Automobil Holding SE, sef prif ddaliwr cyfranddaliadau Volkswagen AG.

Cwmni gweithgynhyrchu ceir Almaenig ydy Dr. Ing. h.c. F. Porsche AG, a dalfyrir fel arfer yn Porsche AG (ynganiad Almaeneg: [ˈpɔʁʃə] (Ynghylch y sain ymagwrando)), sy'n gwerthu ceir moethus a chyflym. Yn Stuttgart y lleolwyd pencadlys y cwmni, a'i berchennog yw Volkswagen AG - a phrif berchennog Volkswagen AG yw Porsche Automobil Holding SE. Ymhlith y ceir cyfredol mwyaf nodedig mae: 718 Boxster/Cayman, 911, Panamera, Macan a'r Cayenne.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y cwmni gwreiddiol gan Ferdinand Porsche dan yr enw "Dr. Ing. h. c. F. Porsche GmbH" (Gesellschaft mit beschränkter Haftung) yn 1931,[1] gyda'i brif swyddfa yn Kronenstraße 24 yng nghanol Stuttgart.[2] Ymgynghorwyr ceir oeddent i ddechrau, ac nid oedden nhw'n cynhyrchu ceir.[1] Ond yna crewyd 'car y bobl', neu'r "Volkswagen"[1] a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel 'y chwilen'.

Logo'r cwmni[golygu | golygu cod]

Sylfaenwyd logo'r cwmni ar arfbais talaith rydd Württemberg, a oedd yr adeg honno'n rhan o'r Almaen, gyda Stuttgart yn Brifddinas. Unwyd y rhain gydag arfbais Stuttgart ei hun er mwyn i'r testun sillafu "Porsche" a "Stuttgart"; oherwydd ei fod yn cynnwys testun, ni ellir, felly ei ddiffinio fel 'arfbais'.

Datblygu'n siâp gwahanol[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, esblygodd y math 356 o'r 'Chwilen': crewyd injan arbennig, y trawsyrrwr a'r croglin (suspension) a chyn hir roedd y rhan fwyaf o'r darnau wedi'u gwneud yn arbennig ar gyfer ceir a ddaethpwyd i'w hadnabod fel ceir Porsche. Dyluniwyd y corff main ei olwg gan Erwin Komenda, a oedd cyn hynny wedi dylunio corff 'y Chwilen'. Un o'r pethau sydd wedi goroesi ers y cyfnod hwn, yw'r injan cefn a oerir gan aer.

Yn 1964, wedi ychydig o lwyddiant yn y byd rasio, gyda modelau fel y 550 Spyder, a'r 356 teimlwyd ei bod yn bryd ail-gynllunio ar raddfa fawr a lansiwyd y 911. Unwaith eto cafwyd injan cefn a oerir gan aer, 6-silindr o fath "boxer". Arweiniwyd y gwaith hwn gan fab hynaf Ferry Porsche sef Ferdinand Alexander Porsche (F. A.).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 J. P. Vettraino (23 Rhagfyr 2008). "Porsche at 60: The little sports-car company that could". Autoweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 30 Ionawr 2009.
  2. "Historie - Porsche Engineering". Porsche Engineering. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.