Fédération Internationale de l'Automobile
| Enghraifft o: | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, sefydliad |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 20 Mehefin 1904 |
| Aelod o'r canlynol | Global Association of International Sports Federations, Association of IOC Recognised International Sports Federations, European New Car Assessment Programme |
| Ffurf gyfreithiol | association déclarée |
| Pencadlys | Paris |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Gwefan | https://fia.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01kw30 |
Cymdeithas sy'n cynrychioli buddiannau sefydliadau moduro a defnyddwyr ceir modur yw Fédération Internationale de l'Automobile (FIA). Fe'i sefydlwyd ar 20 Mehefin 1904. Mae'r FIA yn fwyaf adnabyddus fel y corff llywodraethu ar gyfer ddigwyddiadau rasio ceir, megis Fformiwla Un. Mae'r FIA hefyd yn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ledled y byd.
Mae 246 o sefydliadau mewn 145 o wledydd ledled y byd yn aelodau'r FIA. Mae pencadlys y ffederation ym Mharis, ac mae ganddo swyddfeydd yn Genefa, y Swistir, a Valleiry, Ffrainc.
Ei rôl amlycaf yw trwyddedu Fformiwla Un, Pencampwriaeth Rali'r Byd, Pencampwriaeth Dygnwch y Byd, Cwpan Ceir Teithio'r Byd, Pencampwriaeth Ralicross y Byd, Fformiwla E, ac amryw o ddigwyddiadau rasio eraill. Ynghyd â'r Fédération Internationale de Motocyclisme (FIM) mae'n ardystio ymdrechion i dorri record cyflymder ar dir. Cydnabu'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol y ffederasiwn dros dro yn 2011, a rhoddodd gydnabyddiaeth lawn yn 2013.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol