Porsche
Math | cynhyrchydd cerbydau |
|---|---|
Math o fusnes | Aktiengesellschaft |
Aelod o'r canlynol | American Chamber of Commerce in Germany e.V. |
| ISIN | DE000PAG9113 |
| Diwydiant | diwydiant ceir |
| Sefydlwyd | 1931 |
| Sefydlydd | Ferdinand Porsche, Anton Piëch, Adolf Rosenberger |
| Cadeirydd | Wolfgang Porsche |
| Aelod o'r canlynol | American Chamber of Commerce in Germany e.V., Arbeitsgemeinschaft Industriebau, Allianz Industrie Forschung, Bwcon (Germany), German Startups Association, BME, Bundesvereinigung Logistik, Deutsches Aktieninstitut, Deutsche Gesellschaft für Nachhaltiges Bauen – DGNB e.V., Deutsche Gesellschaft für Personalführung, Deutsche Gesellschaft für Qualität, DIN Deutsches Institut für Normung e. V., Deutsches Netzwerk Wirtschaftsethik, German Association for the Protection of Intellectual Property, Deutsches Institut für Compliance, Don Bosco Mondo, Fédération Internationale de l'Automobile, Research Association for Combustion Engines, Cymdeithas Fraunhofer, Gesellschaft für Datenschutz und Datensicherheit / German Association for Data Protection and Data Security, GSM Association, Kompetenzzentrum Technik-Diversity-Chancengleichheit, Stifterverband für die Deutsche Wissenschaft, Verband der Automobilindustrie, Verband Deutsches Reisemanagement e.V., World Federation of Advertisers, Wettbewerbszentrale e.V., Bundesdeutsche Arbeitskreis für Umweltbewusstes Management, DECHEMA, British-German Society, German Design Council, RIPE, Aktionskreis gegen Produkt- und Markenpiraterie e.V., aba Arbeitsgemeinschaft für betriebliche Altersversorgung e.V., Arbeitsgemeinschaft für wirtschaftliche Verwaltung e.V., Charging Interface Initiative (CharIN) e.V., Förderverein Round Table Mediation & Konfliktmanagement der Deutschen Wirtschaft e.V., VDI Verein Deutscher Ingenieure e. V., Vereinigung Baden-Württembergische Wertpapierbörse e.V., Bundesverband der Unternehmensjuristen |
| Pencadlys | Stuttgart |
Pobl allweddol | Oliver Blume (Prif Weithredwr) |
| Cynnyrch | car |
| Refeniw | 33,138,000,000 Ewro (2021) |
Incwm gweithredol | 5,314,000,000 Ewro (2021) |
| Cyfanswm yr asedau | 51,382,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2021) |
| Perchnogion | Volkswagen AG (1) |
Nifer a gyflogir | 36,996 (2021) |
Rhiant-gwmni | MDAX, DAX, German Entrepreneurial Index, MDAX Volkswagen AG |
Is gwmni/au | Porsche Digital |
| Lle ffurfio | Stuttgart |
| Gwefan | https://www.porsche.de/, https://www.porsche.co.il/, https://www.porsche.com, https://www.porsche.com/germany/, https://www.porsche.com/france/, https://www.porsche.com/swiss/de/, https://www.porsche.com/swiss/fr/, https://www.porsche.com/swiss/it/, https://www.porsche.com/italy/, https://www.porsche.com/luxembourg/fr/, https://www.porsche.com/usa/, https://www.porsche.com/japan/jp/, https://www.porsche.co.jp |
- Gofal: Erthygl ar wnaethurwr ceir, a brand ceir Porsche AG yw hon. Ceir hefyd Porsche Automobil Holding SE, sef prif ddaliwr cyfranddaliadau Volkswagen AG.
Cwmni gweithgynhyrchu ceir Almaenig ydy Dr. Ing. h.c. F. Porsche AG, a dalfyrir fel arfer yn Porsche AG (ynganiad Almaeneg: [ˈpɔʁʃə] (
gwrando)), sy'n gwerthu ceir moethus a chyflym. Yn Stuttgart y lleolwyd pencadlys y cwmni, a'i berchennog yw Volkswagen AG - a phrif berchennog Volkswagen AG yw Porsche Automobil Holding SE. Ymhlith y ceir cyfredol mwyaf nodedig mae: 718 Boxster/Cayman, 911, Panamera, Macan a'r Cayenne.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Volkswagen AG
Sefydlwyd y cwmni gwreiddiol gan Ferdinand Porsche dan yr enw "Dr. Ing. h. c. F. Porsche GmbH" (Gesellschaft mit beschränkter Haftung) yn 1931,[1] gyda'i brif swyddfa yn Kronenstraße 24 yng nghanol Stuttgart.[2] Ymgynghorwyr ceir oeddent i ddechrau, ac nid oedden nhw'n cynhyrchu ceir.[1] Ond yna crewyd 'car y bobl', neu'r "Volkswagen"[1] a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel 'y chwilen'.
Logo'r cwmni
[golygu | golygu cod]Sylfaenwyd logo'r cwmni ar arfbais talaith rydd Württemberg, a oedd yr adeg honno'n rhan o'r Almaen, gyda Stuttgart yn Brifddinas. Unwyd y rhain gydag arfbais Stuttgart ei hun er mwyn i'r testun sillafu "Porsche" a "Stuttgart"; oherwydd ei fod yn cynnwys testun, ni ellir, felly ei ddiffinio fel 'arfbais'.
- Logo Porsche
- Gwladwriaeth y Weimar: arfbais Württemberg
- Arfbais Stuttgart
Datblygu'n siâp gwahanol
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, esblygodd y math 356 o'r 'Chwilen': crewyd injan arbennig, y trawsyrrwr a'r croglin (suspension) a chyn hir roedd y rhan fwyaf o'r darnau wedi'u gwneud yn arbennig ar gyfer ceir a ddaethpwyd i'w hadnabod fel ceir Porsche. Dyluniwyd y corff main ei olwg gan Erwin Komenda, a oedd cyn hynny wedi dylunio corff 'y Chwilen'. Un o'r pethau sydd wedi goroesi ers y cyfnod hwn, yw'r injan cefn a oerir gan aer.
Yn 1964, wedi ychydig o lwyddiant yn y byd rasio, gyda modelau fel y 550 Spyder, a'r 356 teimlwyd ei bod yn bryd ail-gynllunio ar raddfa fawr a lansiwyd y 911. Unwaith eto cafwyd injan cefn a oerir gan aer, 6-silindr o fath "boxer". Arweiniwyd y gwaith hwn gan fab hynaf Ferry Porsche sef Ferdinand Alexander Porsche (F. A.).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 J. P. Vettraino (23 Rhagfyr 2008). "Porsche at 60: The little sports-car company that could". Autoweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 30 Ionawr 2009.
- ↑ "Historie - Porsche Engineering". Porsche Engineering. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-17. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.