Porsche Panamera

Oddi ar Wicipedia
Porsche Panamera
Brasolwg
GwneuthurwrPorsche AG
Cynhyrchwyd2009–presennol
Blwyddyn2010–presennol
Corff a siasi
DosbarthCar moethus (F)
GosodiadInjan-blaen, gyrriant olwynion cefn

Car moethus 4-drws a sedan a gynhyrchir gan gwmni Porsche yw'r Porsche Panamera, a welodd olau dydd am y tro cyntaf ar 13 Ebrill 2009.[1][2][3] Mae'r math symlaf yn yrriant dwy olwyn cefn, ond ceir math gyrriant 4-olwyn hefyd.

Fe'i cyflwynwyd i'r byd ar 13 Ebrill 2009 yn Sioe Gerbydau, Shanghai.[4] Yn 2011, cafwyd fersiwn heibrid a disl. Trawsnewidiwyd hwnnw yn Ebrill 2013, a'i ddadorchuddio, unwaith eto, yn Sioe Gerbydau, Shanghai.[5]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Car cysyniadol Porsche 989 yn Amgueddfa Porsche yn Stuttgart, yr Almaen
Porsche Panamera S Hybrid yn Sioe Gerbydau Geneva, 2011.

Tarddiad yr enw Panamera (fel y Porsche Carrera) yw'r ras a elwir yn Carrera Panamericana. Cychwyn cynllunio'r car cysyniadol, yn niwedd y 1980au.

Fel yr SUV Porsche Cayenne (y gwneuthuriad mwyaf poblogaidd), achosodd lansiad y Panamera gryn gyffro gan y purwyr a ffans Porsche. Fe'i gwelwyd fel ymgais i boblogeiddio'r cwmni, ac yn wahanol i weddill y teulu oherwydd fod ganddo 4-drws, mae'n gar maint-llawn, trwm (4,000 pwys; 1,800 kg) a'i injan wedi'i lleoli ym mlaen y car. I rai, mae'n edrych fel y 911 wedi'i stretsio.[6] Mae tu fewn y 911 yn foel, heb fawr o gyfarpar na botymau, gyda pherfformiad yr unig ystyriaeth, bron. Ar y llaw arall mae gan y Panamera du fewn moethus iawn, gyda'r technoleg ddiweddaraf a chlustogwaith lledr, meddal, clud.[7][8]

Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Cynhyrchir cyrff y ceir yn Leipzig, yr Almaen a'r injans yn Stuttgart cyn eu cludo at y cyrff yn Leipzig lle cant eu rhoi at ei gilydd. Felly hefyd y Cayenne a'r Macan.[9] Rhwng 2009 a 2016, adeiladwyd y cyrff yn ffatri Volkswagen yn Hannover.[10]

Yn 2009 y cychwynodd y Panamera rowlio o'r ffatri.[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "First Test: 2010 Porsche Panamera S". Motor Trend. Hydref 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-13. Cyrchwyd 2010-08-07. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. Porsche ready new Panamera saloon (2009-03-20). "Porsche ready new Panamera saloon - Cars and Motorbikes - Mirror.co.uk". Blogs.mirror.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-13. Cyrchwyd 2010-10-03.
  3. "First Drives » First Drive: 2010 Porsche Panamera". CanadianDriver. 2009-12-24. Cyrchwyd 2010-10-03.
  4. "2010 Porsche Panamera: 20 New Photos". Left Lane. 2008-11-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-05. Cyrchwyd 2008-11-30.
  5. "2013 Porsche Panamera revealed: in pictures". MSN Autos. 3 Ebrill 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-06. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
  6. "2010 Porsche Panamera Reviews by Cars.com Experts and Consumers". Cars.com. Cyrchwyd 2010-10-03.
  7. "2010 Porsche Panamera Reviews, Prices + Rankings | U.S. News Cars". Usnews.rankingsandreviews.com. Cyrchwyd 2010-10-03.
  8. "2010 Porsche Panamera - Test drive and new car review - 2010 Porsche Panamera". Cars.about.com. 2010-06-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 2010-10-03.
  9. "Porsche moves full production of Panamera to Leipzig". Automotive Logistics. 2016-07-05. Cyrchwyd 2016-12-20.
  10. "Future: Porsche Panamera". Motor Trend. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-06. Cyrchwyd 2008-02-02. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  11. Kaufmann, Alex (2008-11-24). "Porsche Panamera official details". Motorauthority.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-15. Cyrchwyd 2010-10-03.