SEAT

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
SEAT, S.A.[1]
Math o fusnes
Sociedad Anónima
Diwydiant Ceir
Rhagflaenydd Sociedad Española de Automóviles de Turismo (S.E.A.T.)
Sefydlwyd 9 Mai 1950
Sefydlydd Instituto Nacional de Industria
Pencadlys Martorell, Sbaen
Sawl lleoliad
Martorell, Sbaen
Zona Franca (Barcelona)
El Prat de Llobregat, Sbaen
Ardal gwerthiant
Bydeang, ag eithro'r UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd ac India.
Pobl allweddol
Francisco Javier García Sanz (Cadeirydd),[2]
Luca de Meo
Alejandro Mesonero-Romanos
Cynnyrch Ceir a rhannau ar gyfer ceir
Gwasanaethau Cynllunio a chynhyrchu ceir SEAT a cheir Volkswagen AG
Gweithwyr
12,700 (2015)
Rhiant-gwmni Volkswagen AG
Rhaniadau SEAT Sport
seat.com

Gwneuthurwr ceir Sbaenaidd ydy SEAT, a sefydlwyd ym 1950 gan yr Instituto Nacional de Industria (INI), gyda chymorth gan Fiat, mae erbyn hyn yn un o is-gwmniau Grŵp Volkswagen, sy'n grŵp Almaenig (gydag Audi a Lamborghini).[3] Lleolir pencadlys SEAT ym Martorell ger Barcelona, Catalwnia.[4] Mae'r enw SEAT yn acronym o Sociedad Española de Automóviles de Turismo (Cymraeg: Cwmni Ceir Teithiol Sbaenaidd).

Erbyn 2000 roedd SEAT yn cynhyrchu dros 500,000 uned y flwyddyn; hyd at 2006 roeddent wedi cynhyrchu cyfanswm o 16 miliwn o geir,[5] gan gynnwys dros 6 miliwn o'r ffatri ym Martorell, ac roedd tri-chwarter eu cynhyrchiad blynyddol yn cael ei allforio i saith gwlad dramor.[6]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynodd SEAT gan gynhyrchu ceir o fodelau Fiat ond wedi eu hail-fathodynnu, gan amrywio ychydig yn weledol ar gynnyrch y rhiant-gwmni Eidalaidd. Roedd hyn yn cynnwys y SEAT Panda (a ailenwyd yn ddiweddarach yn SEAT Marbella), a oedd yn seiliedig ar y Fiat Panda. Daeth y SEAT 600, a oedd yn seiliedig ar y Fiat 600, yn gar cyntaf ar gyfer nifer o deuluoedd Sbaenaidd, gan ddod yn symbol o'r Gwyrth Sbaenaidd.

Erbyn 1967, SEAT oedd gwneuthurwr ceir mwyaf Sbaen. Yn ystod y flwyddyn honno, roedd Fiat wedi cynyddu eu cyfran yn y cwmni o 6% i 36%. Yr un adeg, lleihaodd cyfran yr Instituto Nacional de Industria eu cyfran rheoli - o 51%, i 32%. Prynwyd y cyfran a oedd yn weddill (32%) gan chwe phrif fanc. Er nad oedd Fiat yn berchennog gyda chyfran reoli, cysidrwyd mai hwy oedd yn rheoli'r cwmni: roedd y cytundeb hefyd yn cynnwys addewid gan Fiat i helpu twf SEAT, a datblygiad model newydd (y SEAT 133 o bosibl).[7]

Yn ystod y cyfnod a ddilynodd, parhaodd y gwneuthurwr i ddomeiddio'r farchnad ceir yn Sbaen, gan gynhyrchu dros 282,698 o geir, mwy na 58% o'r cyfanswm a gynhyrchwyd yn Sbaen, yn 1971 er gwaethaf yr aflonyddwch y flwyddyn honno a achoswyd gan streiciau a llifogydd difrifol yn y gwaith a leolwyd ar yr arfordir ym Marcelona.[8] Ond gyda dim ond 81 o geir i pob mil o bobl yn Sbaen, cysidrwyd fod digonedd o le i ymestyn ymhellach a bu SEAT yn wynebu'r bygythiad o gynnydd yn y gystadleuaeth, gan y bu gwenuthurwyr eraill mawr yn ystyried sefydlu neu ehangu eu cynhyrchiad yn y farchnad Sbaenaidd, a oedd yn parhau i gael ei amddiffyn yn gryf.[8]

Yn ystod yr 1980au cynnar, bu trafodaethau helaeth ynglyn ag ariannua rheolaeth y cwmni, rhwng y prif cyfranddeliwr, sef llywodraeth Sbaen, a Fiat: roedd SEAT angen buddsoddiad cyfalaf mawr ond nod oedd Fiat yn fodlon gwneud y buddsoddiad hwn. Ym 1982, daeth y berthynas rhwng Fiat a SEAT i ben wedi dros 30 mlynedd. Y SEAT Ronda oedd y car newydd cyntaf i gael ei gynhyrchu odan bathodyn newydd SEAT heb ymglymiad Fiat ym 1982. Roed hwn yn fersiwn o'r Fiat Ritmo ond wedi ei ail-steilio, ac achosodd hyn i Fiat gychwynachos cyfreithiol yn erbyn SEAT, gan eu bod yn honi ei fod yn llawer rhy debyg i'r Ritmo. Er mwyn dod a'r ddadl i ben, dangosodd llywydd SEAT, Juan Miguel Antoñanzas, gar Ronda i'r wasg gyda'r holl ddarnau a oedd yn wahanol i'r Rimto wedi eu paentio mewn melyn llachar er mwyn tynnu sylw at y gwahaniaethau. Bu sôn ar y pryd mai'r rheswm fu Fiat mor flin, oedd gan fod dyluniad y Ronda yn debyg iawn i'r ail-steilio roeddent wedi bwriadu ei gynhyrchu ar gyfer y Fiat Ritmo, a bu'n rhaid iddynt ei sgrapio.

Ychydig flynyddoedd wedi i Fiat dynnu allan o'r cwmni, arwyddodd Audi AG, un o is-gwmniau Grŵp Volkswagen, gytundeb i gydweithredu gyda SEAT, gan ddodd yn gyfranddalwr mawr ym 1986, ac yn berchennog ar 100% o'r cwmni ym 1990. Yn ystod canol y 2000au, trosglwyddwyd perchnogaeth SEAT o'r is-gwmni Audi AG, fel ei bod yn is-gwmni uniongyrchol i'r cwmni daliad Volkswagen AG.

Dewis modelau[golygu | golygu cod y dudalen]

Modelau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Y SEAT Marbella, un o fodelau cynharaf SEAT.
  • SEAT 600|600/800
  • SEAT 850|850
  • SEAT 1200 Sport|1200 Sport
  • SEAT 1400|1400
  • SEAT 1430|1430
  • SEAT 1500|1500
  • SEAT 124|124
  • SEAT 127|127
  • SEAT 128|128
  • SEAT 131|131
  • SEAT 132|132
  • SEAT 133|133
  • SEAT Fura|Fura
  • SEAT Panda|Panda
  • SEAT Ritmo|Ritmo
  • SEAT Ronda|Ronda
  • SEAT Terra|Terra
  • SEAT Inca|Inca
  • SEAT Málaga|Málaga
  • SEAT Marbella|Marbella
  • SEAT Arosa|Arosa
  • SEAT Córdoba|Córdoba
  • SEAT Toledo|Toledo

Modelau cyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Y SEAT Ibiza, y car SEAT sy'n gwerthu fwyaf.

Enwir y modelau cyfredol ar ôl enwau llefydd Sbaenaidd fel rheol.

Modelau cysyniadol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • SEAT Proto|Proto T (1989) & C , TL (1990)
  • SEAT Concepto T|Concepto T (1992) & Cabrio (1993)
  • SEAT Bolero|Bolero (1998)
  • SEAT Formula|Formula (2000)
  • SEAT Salsa|Salsa/Salsa Emoción (2000)
  • SEAT Tango|Tango/Tango Racer (2001)
  • Seat Cupra GT|Cupra GT (2003 )
  • SEAT Altea Freetrack|Altea Freetrack prototeip (2007)
  • SEAT Tribu|Tribu prototype (2007)
  • SEAT Bocanegra|Bocanegra (2008)
  • SEAT León Twin drive|León Twin drive 2009)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato