Ursula Kuczynski
| Ursula Kuczynski | |
|---|---|
| Ffugenw | Ruth Werner |
| Ganwyd | Ursula Maria Kuczynski 15 Mai 1907 Berlin |
| Bu farw | 7 Gorffennaf 2000 Berlin |
| Man preswyl | Shanghai, Moscfa, Dwyrain Berlin |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor, ysgrifennwr, asiant deallusrwydd, newyddiadurwr, gwrthryfelwr milwrol, ysbïwr |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Linkspartei.PDS |
| Tad | Robert René Kuczynski |
| Priod | Rudolf Hamburger, Len Beurton |
| Plant | Maik Hamburger |
| Gwobr/au | Urdd Karl Marx, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Urdd y Faner Goch, Urdd y Faner Goch, Urdd Cyfeillgarwch, Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl |
Awdures o'r Almaen oedd Ursula Kuczynski (15 Mai 1907 - 7 Gorffennaf 2000) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, newyddiadurwr a gwrthryfelwr milwrol.
Fe'i ganed yn Schöneberg, Prwsia (rhan o Berlin erbyn heddiw) a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Friedhof Baumschulenweg.[1][2][3][4] Roedd Maik Hamburger yn blentyn iddi ac roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen a Phlaid Asgell Chwith, y PDS. Ymhlith yr enwau eraill a ddefnyddiodd roedd Ruth Werner, Ursula Beurton ac Ursula Hamburger.[5][6][7]
Roedd yn weithredwr Comiwnyddol o'r Almaen a weithiai i'r Undeb Sofietaidd yn y 1930au a'r 1940au fel ysbïwr. Mae'n fwyaf adnabyddus fel y person a edrychai ar ôl y gwyddonydd niwclear Klaus Fuchs.
Symudodd i Ddwyrain yr Almaen ym 1950 pan ddaeth yr wybodaeth amdani i'r fei, a chyhoeddodd gyfres o lyfrau yn ymwneud â'i gwaith sbïo, gan gynnwys ei hunangofiant, Sonjas Rapport. Cyfeirir ati'n aml gyda'r llysenw hwn, "Sonja", a awgrymwyd yn wreiddiol gan ei 'gofalwr' Richard Sorge yn y 1930au,[5][8] "Sonja Schultz"[6] neu wedi iddi symud i Loegr, "Sonya".[7]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Roedd Ursula Maria Kuczynski yn ail o'r chwe phlentyn a aned i'r economegydd a'r demograffydd nodedig Robert René Kuczynski a'i wraig Berta Gradenwitz (Kuczynski), a oedd yn arlunydd.[9] Roedd y plant yn alluog ac roedd y teulu'n llewyrchus, yn ariannol.[9] Byddai ei brawd hŷn, Jürgen yn ddiweddarach yn dod yn hanesydd-economegydd nodedig ac roedd ganddo yntau berthynas honedig gyda'r gymuned ysbïo.[7][10]
Magwyd Ursula mewn fila bach yn chwarter Schlachtensee yn ne-orllewin Berlin. Pan oedd yn un ar ddeg oed, glaniodd rôl sgrîn yn y fersiwn sinema o "Tŷ y Tair Chwaer" (Almaeneg: Das Dreimäderlhaus; 1918).[11]
Mynychodd ysgol uwchradd y Lyzeum yn Berlin-Zehlendorf ac yna, rhwng 1924 a 1926, ymgymerodd â phrentisiaeth fel prynnwr-a-gwerthwr llyfrau. Roedd hi eisoes, ym 1924, wedi ymuno â Chynghrair Gweithwyr Am-ddim (AfA-Bund), ac ym 1924 hefyd ymunodd â'r Comiwnyddion Ifanc (KJVD) a Chymorth Coch yr Almaen (Rote Hilfe). Ym mis Mai 1926, mis ei phen-blwydd yn 19 oed, ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol yr Almaen. [12]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Karl Marx, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen (1977), Urdd y Faner Goch (1937), Urdd y Faner Goch (1969), Urdd Cyfeillgarwch (2000), Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022.
- ↑ Rhyw: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022.
- ↑ Dyddiad geni: "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- 1 2 "GESTORBEN Ruth Werner". Der Spiegel (online). 10 Gorffennaf 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-19. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- 1 2 Bernd-Rainer Barth; Karin Hartewig. "Werner, Ruth (eigtl.: Ursula Maria Beurton) geb. Kuczynski * 15.05.1907, † 07.07.2000 Schriftstellerin, Agentin des sowjetischen Nachrichtendienstes GRU". Bundesstiftung zur Aufarbeitung der SED-Diktatur: Biographische Datenbanken. Cyrchwyd 1 Ionawr 2015.
- 1 2 3 Richard Norton-Taylor (11 Gorffennaf 2000). "Ruth Werner: Communist spy who passed the west's atomic secrets to Moscow in the cause of fighting fascism". The Guardian (online). Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ Eckhard Mieder (3 Chwefror 2001). "Wenn die Sonja Russisch tanzt Der letzte Rapport der Ruth Werner. Orte eines geheimen Lebens: SCHANGHAI. DAS HOTEL". Berliner Zeitung (online). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-26. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- 1 2 Thomas Karny (11 Mai 2007). ""Sonja" – Stalins beste Spionin". Wiener Zeitung (online). Cyrchwyd 3 Ionawr 2015.
- ↑ Ilko-Sascha Kowalczuk. "Kuczynski, Jürgen * 17.9.1904, † 6.8.1997 Wirtschaftshistoriker". Bundesstiftung zur Aufarbeitung der SED-Diktatur: Biographische Datenbanken. Cyrchwyd 1 Ionawr 2015.
- ↑ "Ruth Werner (I) (1907–2000)". IMDb. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022.