Ursula Gertrud von der Leyen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ursula Gertrud von der Leyen
Ursula von der Leyen presents her vision to MEPs 2 (portrait crop).jpg
Ffugenw Rose Ladson Edit this on Wikidata
Ganwyd Ursula Gertrud Albrecht Edit this on Wikidata
8 Hydref 1958 Edit this on Wikidata
Ixelles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Addysg Meddyg Meddygaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Feddygol Hannover
  • Prifysgol Göttingen
  • Prifysgol Hanover Edit this on Wikidata
Galwedigaeth meddyg, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Federal Minister of Defence, Bundesminister, Federal Minister of Labour and Social Affairs, Bundesminister, Aelod o Bundestag yr Almaen, Member of the Landtag of Lower Saxony, Aelod o Bundestag yr Almaen, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ysgol Feddygol Hannover
  • Ysgol Feddygol Hannover Edit this on Wikidata
Taldra 161 Centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Christian Democratic Union Edit this on Wikidata
Tad Ernst Albrecht Edit this on Wikidata
Mam Adele Albrecht Edit this on Wikidata
Priod Heiko von der Leyen Edit this on Wikidata
Plant David von der Leyen, Sophie von der Leyen, Maria Donata von der Leyen, Victoria von der Leyen, Johanna von der Leyen, Egmont von der Leyen, Gracia von der Leyen Edit this on Wikidata
Llinach Von der Leyen family Edit this on Wikidata
Gwobr/au language adulterator award, Big Brother Awards, Big Brother Awards Edit this on Wikidata
Gwefan https://www.ursula-von-der-leyen.de Edit this on Wikidata
Llofnod
Ursula von der Leyen signature.svg

Gwleidydd o'r Almaen yw Ursula Gertrud von der Leyen ("Cymorth – Sain" ynganiad  g. Albrecht, 8 Hydref 1958), ac ymgeisydd ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[1] Cyn hynny, gwasanaethodd fel Gweinidog Amddiffyn yr Almaen rhwng 2013 a 2019; mae'n aelod o blaid "yr Undeb Cristnogol Democrataidd" (CDU) canol-dde, hi yw'r fenyw gyntaf yn hanes yr Almaen i ddal y swydd Gweinidog Amddiffyn.

Cafodd ei geni a'i magu ym Mrwsel, lle'r oedd ei thad Ernst Albrecht yn un o'r gweision sifil Ewropeaidd cyntaf wedi ei benodiad yn 1958. Magwyd Ursula yn ddwyieithog mewn Almaeneg a Ffrangeg; mae hi o dras Almaeneg ac Americanaidd. Symudodd i Hanover yn 1971, pan drodd ei thad at wleidyddiaeth; daeth yn Brif Weinidog talaith Niedersachsen yn 1976.

Bu Ursula yn byw dan yr enw "Rose Ladson" fel myfyriwr economeg yn Llundain ar ddiwedd y 1970au. Ar ôl graddio fel meddyg o Ysgol Feddygol Hanover yn 1987, bu'n arbenigo mewn iechyd menywod. Fel mam i saith o blant, roedd yn wraig tŷ yn ystod rhannau o'r 1990au ac yn byw am bedair blynedd yn Stanford, California (UDA), gan ddychwelyd i'r Almaen yn 1996.

Ar ddiwedd y 1990au daeth yn rhan o wleidyddiaeth leol rhanbarth Hanover a bu'n weinidog cabinet yn llywodraeth Niedersachsen, lle bu ei thad, o 2003 i 2005. Yn 2005 ymunodd â'r cabinet ffederal, yn gyntaf fel Gweinidog Materion Teulu ac Ieuenctid o 2005 i 2009, yna'n Weinidog dros Lafur a Materion Cymdeithasol o 2009 i 2013, cyn olynu Thomas de Maizière yn Weinidog Amddiffyn yn 2013. Hyd ar Gorffennaf 2019, hi oedd yr unig weinidog sydd wedi gwasanaethu yn ddi-dorr yng nghabinet Angela Merkel ers iddi ddechrau gweithio. Yn flaenorol, fe'i hystyriwyd yn brif gystadleuydd i olynu Merkel fel Canghellor ac fel y ffefryn i ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.

Ar 2 Gorffennaf 2019, cynigiwyd Ursula von der Leyen gan y Cyngor Ewropeaidd fel eu hymgeisydd ar gyfer swydd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Os caiff ei ethol gan Senedd Ewrop, hi fydd y fenyw gyntaf i ddal y swydd, a'r Almaenwr cyntaf ers Walter Hallstein.[2][3][4]

Ursula Albrecht yn 2014.

Ei barn ar rai materion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yn 2005 cyflwynodd y Kinderförderungsgesetz, sef Deddf Datblygu Plant, a glustnododd 4.3 biliwn Ewro i greu strwythurau gwarchod plant, drwy'r Almaen.[5]
  • Sefydlodd yr Elternzeit, a roddodd hawliau i'r tad, yn dilyn genedigaeth y plentyn, i ddau fis o gyflog i fod adref gyda'r plentyn a'r fam.
  • Sefydlodd fesurau a fyddai'n blocio rhai gwefannau a oedd yn cynnwys pornograffi plant; rhestr a gynhelir gan Swyddfa Troseddi Ffederal yr Almaen, y BKA. Yn dilyn hyn, cafodd y llysenw "Zensursula", gair cyfansawdd o sensoriaeth (Almaeneg: "Zensur") a'i henw bedydd ("Ursula").[6][7]
  • Mae Von der Leyen wedi gwthio polisi tramor mwy pendant na'i rhagflaenwyr.[8][9] Un enghraifft drawiadol oedd y penderfyniad ym Medi 2014 i anfon arfau i luoedd diogelwch y Cwrdiaid ac i luoedd milwrol Irac. Torrodd hyn dabŵ hirsefydlog yr Almaen o beidio ag anfon arfau i barth lle ceir gwrthdaro.[10]
  • Galwodd ar NATO i gefnogi gwledydd y Baltig yn anghydfod y Crimea.[11]
  • Mae Von der Leyen wedi cefnogi cydweithio gyda Saudi Arabia er bod sawl plaid arall yn yr Almaen yn beirniadu'r Sawdis am y trais yn Yemen, a'u bod yn torri hawliau dynol. Yn 2016, bu llawer yn llawdrwm ohoni, wedi iddi ymweld â Saudi Arabia, heb wisgo penwisg. ei hateb i hyn oedd, "Mae'n fy nghythruddo i pan fydd menywod yn cael eu gwthio i wisgo'r abaya."[12]
Ewrop
  • Mewn cyfweliad yn 2011 gyda Der Spiegel, mynegodd von der Leyen ei bod yn well ganddi math o "Wladwriaethau (neu 'Daleithiau') Unedig yn Ewrop (Saesneg gwreiddiol: a united states of Europe) - sy'n rhedeg yn debyg i wladwriaethau ffederal y Swistir, yr Almaen neu'r UDA" a fyddai'n manteisio ar faint Ewrop drwy gytuno ar faterion craidd yn ymwneud â chyllid, treth a gwleidyddiaeth economaidd.[13]
  • Yn 2015, dadleuodd von der Leyen y dylid ffurfio byddin yr UE fod yn y tymor hir. Dywedodd hefyd ei bod wedi ei hargyhoeddi ynglŷn â nod llu milwrol cyfunol, Ewropeaidd, yn union fel yr oedd yn argyhoeddedig "efallai nad fy mhlant i, ond yna y gwêl fy wyrion "Unol Daleithiau Ewropeaidd".[14]
  • Yn dilyn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016, dadleuodd fod y DU wedi "parlysu" ymdrechion Ewropeaidd i integreiddio polisi diogelwch a "blocio popeth yn gyson gyda'r label 'Ewrop' arno." Mae hi wedi disgrifio Brexit fel "swigen wedi byrstio yn llawn o addewidion gwag."[15]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: language adulterator award (2014), Big Brother Awards (2017), Big Brother Awards (2009)[16][17][18]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ursula von der Leyen, C-reaktives Protein als diagnostischer Parameter zur Erfassung eines Amnioninfektionssyndroms bei vorzeitigem Blasensprung und therapeutischem Entspannungsbad in der Geburtsvorbereitung, doctoral dissertation, Hanover Medical School, 1990[19]
  • Ursula von der Leyen, Maria von Welser, Wir müssen unser Land für die Frauen verändern. Bertelsmann, Munich, 2007, ISBN 978-3-570-00959-8
  • Ursula von der Leyen, Liz Mohn, Familie gewinnt. Bertelsmann Foundation, 2007, ISBN 978-3-89204-927-2

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. thetimes.co.uk; adalwyd 9 Gorffennaf 2019]
  2. Barigazzi, Jacopo; Herszenhorn, David M.; Bayer, Lili (2 Gorffennaf 2019). "EU leaders pick Germany’s von der Leyen to lead Commission". POLITICO europe. https://www.politico.eu/article/eu-european-leaders-pick-germany-defense-minister-ursula-von-der-leyen-to-lead-commission-charles-michel-council/.
  3. Donahue, Patrick; Bodoni, Stephanie (2 Gorffennaf 2018). "EU Leaders Tap Germany’s Von Der Leyen as Commission Chief". Bloomberg. https://www.bloomberg.com/news/articles/2019-07-02/eu-leaders-tap-germany-s-von-der-leyen-to-be-commission-chief. Adalwyd 8 Gorffennaf 2019.
  4. "Consolidated version of the Treaty on European Union - TITLE III: PROVISIONS ON THE INSTITUTIONS - Article 17". eur-lex.europa.eu (yn Saesneg). Official Journal of the European Union. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2019.
  5. "BMFSFJ - Pressemitteilungen - Ursula von der Leyen: "Der Weg zum Ausbau der Kinderbetreuung ist frei"". web.archive.org. 23 Mawrth 2010.
  6. Focus Online: "Kinderpornografie: Der Traum von der Internetsperrung" (Almaeneg)
  7. Reißmann, Ole (16 Hydref 2009). "Stoppschild für Zensursula" (yn German). Spiegel.de. Cyrchwyd 6 Medi 2011.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  8. Alison Smale (1 Chwefror 2014), "Spurred by Global Crises, Germany Weighs a More Muscular Foreign Policy", New York Times.
  9. "German foreign policy: No more shirking", The Economist, 8 Chwefror 2014.
  10. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' nytimes.com
  11. "German defense chief von der Leyen calls for stronger NATO backing in Ukraine crisis", Deutsche Welle, 23 Mawrth 2014.
  12. "German minister causes controversy after refusing to wear hijab on Saudi visit". The Jerusalem Post. 14 Rhagfyr 2016. https://www.jpost.com/Middle-East/German-minister-causes-controversy-after-refusing-to-wear-hijab-on-Saudi-visit-475391.
  13. Helen Pidd (12 March 2014), "Ursula von der Leyen: Germany's next chancellor?", The Guardian.
  14. "Juncker calls for collective EU army", Deutsche Welle, 8 Mawrth 2015.
  15. MoD Siemoniak: EU needs new security strategy Polskie Radio, 31 Mawrth 2015.
  16. https://vds-ev.de/wp-content/uploads/2015/10/sprachpanscher_2014.pdf; dyddiad cyrchiad: 6 Ionawr 2019.
  17. https://bigbrotherawards.de/2017.
  18. https://bigbrotherawards.de/2009.
  19. "DNB, Katalog der Deutschen Nationalbibliothek" (yn Almaeneg). Portal.d-nb.de. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2011.