Sawdi Arabia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Saudi Arabia)
Jump to navigation Jump to search
Teyrnas Sawdi Arabia
المملكة العربية السعودية
Al-Mamlakah al-Arabiyah as-Sa'ūdiyah
Baner
Motto: لا إله إلا الله، محمد رسول الله
"Lā ʾilāha ʾillā l–lāh, Muḥammadun rasūlu l–lāh"
"Nid oes duw ond Duw; Mohammed yw Ei Broffwyd"[lower-alpha 1] (Shahada)
Anthem: السلام الملكي (offerynol)
"as-Salām al-Malakiyy"
"Y Saliwt Brenhinol"

Prifddinas
(and Y ddinas fwyaf)
Riyadh
24°39′N 46°46′E / 24.650°N 46.767°E / 24.650; 46.767
Ieithoedd swyddogol Arabeg[4]
Grwpiau ethnig  90% Arab
10% Asiad-Affricanaidd
Demonym
  • Sawdi Arabiad
  • Sawdi (anffurfiol)
Llywodraeth Unedol, Cenedl Islamaidd, Brenhiniaeth
 -  Brenin Salman bin Abdulaziz
 -  Tywysog Sawdi Arabia Muqrin bin Abdulaziz
 -  Dirprwy Dywysog Muhammad bin Nayef
Cyfreithiol Dim[lower-alpha 2]
Gwladwriaeth
 -  Sefydlu'r Frenhiniaeth 1932
(87 blynedd yn ôl)
 (1932) 
Arwynebedd
 -  Cyf 2,149,690[4] km2 (13fed)
870,000 mi sgwâr 
 -  Dŵr (%) 0.7
Poblogaeth
 -  2014 amcan. 30,770,375[5] (41fed)
 -  Dwysedd 12.3/km2 (216fed)
31/mi sgwâr
GDP (PPP) 2014 amcan.
 -  Cyfanswm $1.652 triliwn[6] (14fed)
 -  Y pen $53,935[6] (11fed)
GDP (nominal) 2014 amcan.
 -  Cyfanswm $777.870 biliwn[6] (19fed)
 -  Y pen $25,401[6] (31fed)
HDI (Mynegai Datblygiad Dynol) (2013) 0.836 (34fed)
Arian Saudi riyal (SR) (SAR)
Rhanbarth amser Arabia Standard Time (AST) Amser +3)
Gyrru ar y Y dde
Parth rhyngrwyd lefel uchaf
Côd deialu +966

Gwlad fawr ar orynys Arabia yn ne-orllewin Asia yw Teyrnas Sawdi Arabia neu Sawdi Arabia (Arabeg: المملكة العربية السعودية; sef Al Mamlaka al ʻArabiyya as Suʻūdiyya). Hi yw'r wlad Arabaidd fwyaf yng Ngorllewin Asia gydag oddeutu 2,150,000 km2 (830,000 mi sg) a'r ail wlad Arabaidd fwyaf, yn dilyn Algeria. Y gwledydd cyfagos yw Irac a Ciwait i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r gogledd-orllewin, Oman, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig i'r dwyrain a Iemen i'r de-orllewin. Mae gan Saudi arfordir ar lan Y Môr Coch i'r gorllewin a Gwlff Persia i'r dwyrain. Anialwch yw'r rhan fwyaf o ganolbarth y wlad. Riyadh yw'r brifddinas. Mae ei phoblogaeth oddeutu 28.7 million, gyda 8 miliwn o'r rheiny o'r tu allan i'r wlad.[7][8][9][10]

Cyn i Ibn Saud uno'r wlad yn 1932 roedd pedair ardal: Hejaz, Najd a rhannau o Ddwyrain Arabia (Al-Hasa) a De Arabia (ardal 'Asir).[11] Llwyddodd i wneud hyn drwy gyfres o ymosodiadau milwrol gan gychwyn yn 1902 pan gymerodd Riyadh drwy rym milwrol; Riyadh oedd hen ddinas ei hynafiaid - sef y teulu'r Saud. Brenhiniaeth absoliwt yw'r wlad ers hynny, wedi'i llywodraethu gydag Islamiaeth yn ganllaw gadarn a dylanwad y Wahhabi.[12] Gelwir Sawdi Arabia weithiau'n "Wlad y Ddau Fosg", sef Al-Masjid al-Haram (yn Mecca), a Al-Masjid an-Nabawi (ym Medina), y ddau le mwyaf cysegredig yn Islam.

Domineiddir y byd olew gan Sawdi Arabia, fel cynhyrchydd a gwerthwr olew ac yno mae'r ail ffynhonnell fwyaf o olew drwy'r byd.[10] Oherwydd yr arian a ddaw o'r diwydiant olew, ystyrir y wald yn wlad gyfoethog iawn a'r economi'n 'incwm uchel'. Hon yw'r unig wlad Arabaidd sy'n aelod o'r grŵp G-20 a rhestrir hi'n 4ydd safle o ran gwariant y wlad ar arfau.[13][14] Mae'n aelod o Gyngor Gweithredol y Gwlff, Mudiad Cydweithio islamaidd ac OPEC.[15]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwleidyddiaeth y wlad, ers ei sefydlu yn 1932, yn cael ei rheoli gan y frenhiniaeth absoliwt; olynwyd Ibn Saud gan ei feibion: Saud (1953-64), Faisal (1964-75), Khalid (1975-82), Fahd (1982-2005), Abdullah (2005-2015) a Salman (2015 - y presennol).

Mae'r 'Arwydd' neu'r 'Faner' Frenhinol, yn cynnwys geiriau mewn math o Arabeg a elwir yn Thulutheg, cleddyf symbolaidd ac arfbais y teulu brenhinol yn y gornel dde isaf, mewn aur.

Royal Standard of the King

Ceir arni ddatganiad Islamaidd o'u ffydd (neu'r shahada):

لَا إِلٰهَ إِلَّا الله مُحَمَّدٌ رَسُولُ الله
lā ʾilāha ʾillā-llāh, muhammadun rasūlu-llāh
Nid oes duw ond Duw; Muhammad yw negesydd (neu broffwyd) Duw.[16]

Yn ôl gorchymyn brenhinol 1992, mae'n rhaid i'r brenin gydymffurfio gyda chyfraith Islamaidd Sharia, a'r Coran, ac mae'r Coran a'r Sunnah (Traddodiadau Mohammed) ar y cyd yn cael eu hystyried fel Cyfansoddiad swyddogol y wlad. Ni chaniateir unrhyw bleidiau gwleidyddol. Mae'r 'Economist' yn graddoli'r wlad - allan o gyfanswm o 167 o wledydd - fel y pumed gwlad mwayf awdurdodol a llym; o ran 'damocratiaeth mae'n ei rhestru fel y gwaethaf oll (2013).[17]

Gan fod enw'r wlad ("Saudi") yn dod o'r gair Arabeg as-Suʻūdīyah, sef enw'r teulu "Saud" (آل سعود), fe'i hystyrir yn ansoddair sy'n ddatganiad pwerus mai eiddo'r teulu Saud, mewn gwirionedd, yw'r wlad.[18][19] Sefydlydd y teulu (o ran cofnodi'r enw) oedd Muhammad bin Saud]].[20] yn y 18g. Mae'r gwledydd hynny nad ydynt yn cydnabod hawl y teulu Saudi i reoli'r wlad (e.e. Iraq) yn galw'r wlad "Tir yr Haramayn" (sef "Tir y Ddau Le Sanctaidd" - Mecca a Medinia.[21]

Hawliau dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Merched

Gwahaniaethir o ran rhyw yn swyddogol. Ni chaniateir i fenywod yrru car. Heb ganiatâd dyn ni chaniateir i ferched ychwaith wneud cais am basbort, teithio i unrhyw fan, derbyn addysg uwch na phriodi.[22]

Rhyddid i fynegiant

Rheolir penodiadau i swyddi allweddol y wasg gan y Llywodraeth e.e. golygyddion papurau newydd, cynhyrchwyr teledu. Cosbir unrhyw feirniadaeth o'r Llywodraeth neu'r teulu brenhinol gan ddeng mlynedd o garchar.

Y gosb eithaf

Yn 2013, yn ôl Amnest Rhyngwladol lladdwyd 79 o bobl yn gyhoeddus am dorri'r gyfraith, y rhan fwyaf drwy dorri eu pennau.

Hawliau hoywon

Mae gweithredoedd hoyw yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon, a chosbir hoywon gyda'r gosb eithaf, neu ysbaddiad cemegol.

Crefyddau eraill

Nid oes hawl i ddinesydd Shia ddal swyddi mewn rhai meysydd fel dysgu hanes mewn ysgolion. Ychydig iawn o ddinasyddion Shia sy'n cyrraedd y sector uwchradd a nemor dim o fewn system llywodraeth y wlad.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Arabeg yw iaith y wlad. Mae'r trigolion bron i gyd yn Arabiaid Mwslim ac mae'r wlad yn cynnwys Mecca, dinas sanctaidd Islam.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "God". Islam: Empire of Faith. PBS. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2010.
  2. "Islam and Christianity", Encyclopedia of Christianity (2001): Arabic-speaking Christians and Jews also refer to God as Allāh.
  3. Gardet, L. "Allah". Encyclopaedia of Islam Online.
  4. 4.0 4.1 Saudi Arabia dyfyniad allan o The World Factbook
  5. "Official annual projection" (PDF). 2014. Cyrchwyd 1 Gorff. 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 "Saudi Arabia". International Monetary Fund . Cyrchwyd 2 Tachwedd 2014.
  7. Gwefan Saesneg CIA World Factbook
  8. Saudi Arabia profile
  9. "Saudi Arabia Launches New Housing Scheme To Ease Shortage".
  10. 10.0 10.1 "Demography of Religion in the Gulf". Mehrdad Izady. 2013.
  11. Madawi Al-Rasheed (2013). A Most Masculine State: Gender, Politics and Religion in Saudi Arabia. p. 65.
  12. Focus on Islamic Issues – Tud 23, Cofie D. Malbouisson – 2007
  13. The Military Balance 2014: Top 15 Defence Budgets 2013 (IISS)
  14. "The 15 countries with the highest military expenditure in 2013 (table)" (PDF). Stockholm International Peace Research Institute. Cyrchwyd 14 Ebrill 2014.
  15. "The erosion of Saudi Arabia's image among its neighbours". Middleeastmonitor.com. 2013-11-07. Cyrchwyd 2014-04-04.
  16. "About Saudi Arabia: Facts and figures ". The Royal Embassy of Saudi Arabia, Washington D.C. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
  17. (2013 edition behind paywall) Democracy index 2012 Democracy at a standstill (PDF). The Economist Intelligence Unit. 2012. Cyrchwyd 13 Hydref 2014.
  18. Wilson, Peter W.; Graham, Douglas (1994). Saudi Arabia: the coming storm. p. 46. ISBN 1-56324-394-6.
  19. Kamrava, Mehran (2011). The Modern Middle East: A Political History Since the First World War. p. 67. ISBN 978-0-520-26774-9.
  20. Hariri-Rifai, Wahbi; Hariri-Rifai, Mokhless (1990). The heritage of the Kingdom of Saudi Arabia. p. 26. ISBN 978-0-9624483-0-0.
  21. "Islamic State sets sights on Saudi Arabia". http://www.bbc.com/news/world-europe-30061109. BBC. Check date values in: |accessdate= (help); External link in |website= (help); Missing or empty |url= (help); |access-date= requires |url= (help)
  22. Papur yr Independent; 24 Ionawr 2015 tudalen 5
  1. Cyfieithir y Shahada ar adegau fel: "Nid oes yr un duw ond Alah", gan ddefnyddio'r gair Arabeg "Allah" yn hytrach na'i gyfieithiad. Ystyr y gair Arabeg "Allah" yw y Duw.[1][2][3]
  2. Mae 'Cynulliad Sawdi Araia' yn gorff sy'n cynghori'r Brenin.
Flag of Saudi Arabia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sawdi Arabia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato