Troellwr llydanbig Awstralia
Troellwr llydanbig Awstralia Podargus strigoides | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Caprimulgiformes |
Teulu: | Podargidae |
Genws: | Podargus[*] |
Rhywogaeth: | Podargus strigoides |
Enw deuenwol | |
Podargus strigoides |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Troellwr llydanbig Awstralia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: troellwyr llydanbig Awstralia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Podargus strigoides; yr enw Saesneg arno yw Tawny frogmouth. Mae'n perthyn i deulu'r Troellwyr llydanbig (Lladin: Podargidae) sydd yn urdd y Caprimulgiformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. strigoides, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Awstralia.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r troellwr llydanbig Awstralia yn perthyn i deulu'r Troellwyr llydanbig (Lladin: Podargidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Troellwr llydanbig Awstralia | Podargus strigoides | |
Troellwr llydanbig Blyth | Batrachostomus affinis | |
Troellwr llydanbig Borneo | Batrachostomus cornutus | |
Troellwr llydanbig Dulit | Batrachostomus harterti | |
Troellwr llydanbig Gould | Batrachostomus stellatus | |
Troellwr llydanbig Hodgson | Batrachostomus hodgsoni | |
Troellwr llydanbig Jafa | Batrachostomus javensis | |
Troellwr llydanbig Papwa | Podargus papuensis | |
Troellwr llydanbig Sri Lanka | Batrachostomus moniliger | |
Troellwr llydanbig manfrech | Podargus ocellatus | |
Troellwr llydanbig mawr | Batrachostomus auritus | |
Troellwr llydanbig pengwyn | Batrachostomus poliolophus | |
Troellwr llydanbig y Philipinau | Batrachostomus septimus |
Adnabod
[golygu | golygu cod]Profiad Twm Elias ohono:
Aderyn tua maint colomen, gyda chuddliw gwych. Ceg/pig anhygoel o lydan a’i lygaid bron iawn iawn ar gau. Yn ystod y dydd bydd yn gorwedd ar hyd cangen yn hytrach na ar ei thraws ac felly yn edrych fel cainc fer ar y gangen. Aderyn lled gyffredin, fe’i gwelais ar goeden isel yn agos at waelod craig fawr goch Uluru. Ar ddaliad mawr (‘fferm’ wartheg dros filiwn acer) perthynas imi yng ngorllewin Queensland roedd teulu o rhain ar y coed eucaluptus mawr (coed cysgod i’r tŷ). Roedd fy nghyfnither a’i theulu yn falch o’u cael. Yr ‘owls’ oedd hi yn eu galw am mai adar y nos ydynt. Dyma enw cyffredin arnynt yn Queensland, w’n i ddim am weddill Awstralia' (Cymuned Llên Natur FB[1]
Tacsonomeg
[golygu | golygu cod]Disgrifiwyd y troellwr llydanbig gyntaf ym 1801 gan y naturiaethwr Seisnig John Latham. Mae ei epithet penodol ‘’strigoides’’ yn deillio o ‘’strix’’, y Lladin am 'tylluan' ac ‘-oides', “ffurf'’. Mae troellwyr llydanbig Awstralia yn perthyn i genws y troellwyr llydanbig Podargus, sy'n cynnwys y ddwy rywogaeth arall o droellwyr llydanbig a geir yn Awstralia, y troellwr llydanbig manfrech a throellwr llydanbig Papwa. Mae'r troellwyr llydanbig yn ffurfio grŵp wedi'i ddiffinio'n dda o fewn trefn urdd y Caprimulgiformes. Er eu bod yn gysylltiedig â thylluanod, eu perthnasau agosaf yw'r adar olew, potẃau, y tylluan droellwyr y nos, a throellwyr go iawn. Daw'r dystiolaeth ffosil gynharaf o droellwyr llydanbig o Gyfnod daearegol yr Eosén ac mae'n awgrymu eu bod wedi gwyro oddi wrth eu perthnasau agosaf yn ystod yr Oes Trydyddol cynnar. Ar hyn o bryd, cydnabyddir tair isrywogaeth o droellwr llydanbig Awstralia.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.