Trochydd gyddfddu
| Trochydd gyddfddu Gavia arctica | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Gaviiformes |
| Teulu: | Gaviidae |
| Genws: | Gavia[*] |
| Rhywogaeth: | Gavia arctica |
| Enw deuenwol | |
| Gavia arctica | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Trochydd gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: trochyddion gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Gavia arctica; yr enw Saesneg arno yw Black-throated diver. Mae'n perthyn i deulu'r Gaviidae (Lladin: Gaviidae) sydd yn urdd y Gaviiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. arctica, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop, gogledd Asia ac weithiau yng ngorllewin Alaska. Fel rheol mae'n tueddu i nythu ar lynnau mwy na'r Trochydd Gyddfgoch. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a gellir eu gweld ar yr arfordir neu ar lynnoedd mawr. Pysgod yw ei brif fwyd.
Mae ganddo wddw du, pen llwyd, cefn tywyll ac mae'n wyn oddi tano. Yn y gaeaf mae'n wyn ar y gwddw, ac yn aderyn llawer twyllach na'r Trochydd Gyddfgoch. Nid yw'r Trochydd Gyddfddu yn nythu yng Nghymru ond mae ambell un i'w weld ar yr arfordir yn ystod y gaeaf; er ei fod yn llai cyffredin na'r Trochydd gyddfgoch a'r Trochydd mawr.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r trochydd gyddfddu yn perthyn i deulu'r Gaviidae (Lladin: Gaviidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Trochydd gyddfddu | Gavia arctica | |
| Trochydd gyddfgoch | Gavia stellata | |
| Trochydd mawr | Gavia immer | |
| Trochydd pigwyn | Gavia adamsii | |
| Trochydd y Môr Tawel | Gavia pacifica |

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.




