Trochydd mawr
| Trochydd Mawr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Gaviiformes |
| Teulu: | Gaviidae |
| Genws: | Gavia |
| Rhywogaeth: | G. immer |
| Enw deuenwol | |
| Gavia immer (Brünnich, 1764) | |
Mae'r Trochydd Mawr (Gavia immer) yn un o aelodau mwyaf teulu'r Trochwyr, tua 73–88 cm o hyd a 122–148 cm ar draws yr adenydd ac yn pwyso rhwng 2.7 a 6.3 kg .
Mae'n nythu ar draws Canada a rhannau gogleddol yr Unol Daleithiau ac yng Ngwlad yr Iâ. Mae'n nythu yn agos i ddŵr, ar lynnoedd fel rheol ac yn dodwy dau wy. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac mae'n weddol gyffredin ar y môr ger glannau gogledd-orllewin Ewrop.
Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda pen du, bol gwyn a marciau du a gwyn ar y cefn. Yn y gaeaf mae llai o ddu a mwy o wyn ar y pen a'r gwddf. Pysgod yw ei brif fwyd, ac maent yn cael eu dal trwy blymio i'r dŵr, weithiau hyd at ddyfnder o 200 troedfedd. Yn y tymor nythu mae gan yr aderyn yma alwad nodweddiadol iawn.
Mae'r aderyn yma yn weddol gyffredin o gwmpas glannau môr Cymru yn y gaeaf. Y lle gorau i'w gweld yw o gwmpas Aberdesach lle gellir gweld hyd at 30 ohonynt ambell dro.
Aelodau eraill y teulu
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Trochydd gyddfddu | Gavia arctica | |
| Trochydd gyddfgoch | Gavia stellata | |
| Trochydd mawr | Gavia immer | |
| Trochydd pigwyn | Gavia adamsii | |
| Trochydd y Môr Tawel | Gavia pacifica |





