Tomás Luis de Victoria
Tomás Luis de Victoria | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1548 ![]() Ávila ![]() |
Bu farw | 27 Awst 1611 ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr ![]() |
Swydd | côr-feistr ![]() |
Mudiad | cerddoriaeth y Dadeni ![]() |
Cyfansoddwr o Sbaen yng nghyfnod y Dadeni oedd Tomás Luis de Victoria (1548 – 20 Awst 1611).[1]
Ganwyd yn nhref Sanchidrián yn nhalaith Ávila, Teyrnas Castilla. Roedd yn gôr-fachgen yng nghôr cadeirlan Ávila cyn iddo gael ei anfon yn 1565 i'r Collegium Germanicum (coleg diwynyddol Almaeneg ei iaith) yn Rhufain, lle mae'n debyg iddo astudio wrth draed Giovanni Pierluigi da Palestrina, cyfansoddwr mwyaf adnabyddus ei ddydd.
Roedd Victoria yn ganwr ac yn organydd yn eglwys S. Maria di Monserrato (1569–tua 1574), a dysgodd yn y Collegium Germanicum cyn iddo dod yn maestro di cappella (cyfarwyddwr cerdd) yno yn 1575. Fe'i hordeiniwyd yn offeiriad yn 1574.
Yn y 1580au dychwelodd i Sbaen, lle gwasanaethodd fel caplan i Maria o Awstria, gweddw Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ym Madrid.
Y cyfansoddwr Sbaenaidd mwyaf blaenllaw ei ddydd ydoedd. Dim ond cerddoriaeth eglwysig i destunau Lladin a liniodd. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i weithiau yn ystod ei oes, gan gynnwys casgliad moethus o 32 o'i offerennau yn 1600.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Christopher Baker (2002). Absolutism and the Scientific Revolution, 1600-1720: A Biographical Dictionary (yn Saesneg). Greenwood Publishing Group. t. 391. ISBN 978-0-313-30827-7.