Ávila

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ávila
Avila 001.jpg
Escudo de Ávila.svg
Math bwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
Es-Ávila.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Ávila Edit this on Wikidata
Poblogaeth 57,657 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Jesús Manuel Sánchez Cabrera Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Villeneuve-sur-Lot, Rueil-Malmaison, Teramo, Rhodes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Province of Ávila Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd 231.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1,132 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Adaja Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Herradón de Pinares, Tornadizos de Ávila, Riofrío, Gemuño, El Fresno, La Colilla, Martiherrero, Bularros, Marlín, Monsalupe, Cardeñosa, Mingorría, San Esteban de los Patos, Tolbaños, Berrocalejo de Aragona, Mediana de Voltoya, Ojos-Albos, Santa María del Cubillo, Navalperal de Pinares Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 40.654347°N 4.696222°W Edit this on Wikidata
Cod post 05001–05006, 05001 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Ávila Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Jesús Manuel Sánchez Cabrera Edit this on Wikidata
Arfbais Ávila

Dinas yng ngorllewin Sbaen yw Ávila, yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León, a phrifddinas talaith Ávila. Mae'n enwog am y mur sy'n amgylchynu'r ddinas, sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ac am y nifer fawr o eglwysi.

Saif ar fryn creigiog, 1,182 medr uwch lefel y môr. Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid, pan oedd Óbila yn un o gaerau (castros) llwyth y Vetones. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid y ddinas yn Abila neu Abela. Gellir gweld llawer o olion o'r cyfnod hwn. Yn ddiweddarach daeth yn ddinas Fisigothaidd, ac roedd mynachlog wedi ei sefydlu yma cyn 687. Yn ddiweddarach cipiwyd hi gan y Mwslimiaid, a daeth yn ddinas strategol bwysig, gyda llawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Cristionogion a geisiai ei chipio. Yn y cyfnod yma yr adeiladwyd y muriau, rhwng yr 11g a'r 14g.

Mae Ávila yn enwog fel man geni'r santes Teresa o Ávila. Yma hefyd y ganed Isabel I, brenhines Castilla, y cerddor Tomás Luis de Victoria a'r athronydd a llenor Jorge Santayana. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1985.

Muriau Ávila .