T. Marchant Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas Marchant Williams)
T. Marchant Williams
FfugenwThe Acid Drop Edit this on Wikidata
Ganwyd1845 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cyfreithiwr, newyddiadurwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata

Golygydd ac awdur oedd Thomas Marchant Williams (184527 Hydref 1914), a oedd yn adnabyddus wrth yr enw T. Marchant Williams. Roedd yn Rhyddfrydwr a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru yn chwarter olaf y 19g a dechrau'r 20fed. Oherwydd ei ffraethineb ddeifiol a amlygid yn ei feirniadaeth o'r bywyd gwleidyddol, enillodd y llysenw The Acid Drop.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Brodor o Aberdâr ym Morgannwg oedd T. Marchant Williams. Hyfforddodd i fynd yn athro ysgol yng Ngholeg y Normal, Bangor. Yn ddiweddarach bu ymhlith y myfyrwyr cyntaf i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd yrfa wrth y Bar yn nes ymlaen. Yn 1904 fe'i urddwyd yn farchog.

Fel canlyniad i ddarlith gan Hugh Owen yng Nghaernarfon yn 1880, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynnwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Roedd yn aelod diwyd o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hefyd.

Bu'n olygydd y cylchgrawn cenedlaetholgar dylanwadol The Nationalist, a rhoddai hynny llwyfan iddo fynegi ei farn olygyddol ar bynciau mawr y dydd yng Nghymru a'r tu hwnt. Cyhoeddodd sawl ysgrif a llyfr dychanol ar wleidyddiaeth Cymru, yn Saesneg, a chyhoeddod gyfrol o gerddi Cymraeg hefyd.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • The Land of My Fathers (1889). Nofel ddychanol.
  • The Welsh Members of Parliament (1894). Cyfres o frasluniau beirniadol.
  • Odlau Serch a Bywyd (1907). Cerddi.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.