Thomas Foulkes
Thomas Foulkes | |
---|---|
Ganwyd | 1731 Llandrillo |
Bu farw | 15 Mai 1802 Machynlleth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pregethwr |
Roedd Thomas Foulkes (1731, - 15 Mai, 1802) yn gynghorydd, sef bregethwr cynnar, oedd a chysylltiadau cryf gyda dwy blaid y Methodistiaid, Y Methodistiaid Wesleaidd a'r Methodistiaid Calfinaidd. [1]
Cefndir ei grefydd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas Foulkes yn Llandrillo, Sir Feirionnydd. Tyddynwyr oedd ei rieni. Pan oedd tua 23 mlwydd oed symudodd i Gaer i weithio fel saer coed. Yng Nghaer daeth yn gyfeillgar â gŵr ieuanc o'r enw Robert Roberts, yr hwn a fu wedi hynny yn weinidog Wesleaidd. O dan ddylanwad ei gyfaill dechreuodd mynychu Capel Wesleaidd yr Octagon. Ymunodd â chymdeithas y Wesleaid yn Neston, Swydd Gaer lle clywodd John Wesley [2] yn pregethu ym 1756 gan ddod dan deimladau ysbrydol dwys.[3]
Ychydig wedi ei dröedigaeth yng Nghaer symudodd i'r Bala i agor siop. Gan nad oedd achos Wesleaidd yn Y Bala, ymunodd a seiat y Methodistiaid Calfinaidd yno, a dechreuodd cynghori i'r enwad hwnnw.[4] Gan fod dwy blaid y Methodistiaid, ar y pryd, yn parhau i fod yn gymdeithasau o fewn Eglwys Loegr, mi fyddai'n anghyfreithiol i aelodau oedd heb eu hordeinio'n offeiriaid Eglwys Loegr pregethu. I osgoi eu herlyn galwyd y pregethwyr lleyg yn Gynghorwyr a'r hyn roeddynt yn dweud wrth gymdeithasau a seiadau yn air o gyngor yn hytrach na phregeth.
Priodasau
[golygu | golygu cod]Priododd Thomas Foulkes teirgwaith, roedd pob un o'i wragedd a chysylltiadau pwysig yn hanes datblygiad Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Margaret, ferch Humphrey Jones oedd ei wraig gyntaf, bu eu priodas ym 1758. Roedd Humphrey Jones yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Y Bala ac yn gyfaill a gohebydd i Howel Harris. Bu Margaret farw o wewyr esgor ym 1759, ni fu plentyn byw o'r briodas. Ym 1761, priodwyd Foulkes â Jane, gweddw David Jones a mam Sarah Jones, a ddaeth wraig i Thomas Charles [5] ym 1783. Bu Jane farw ym 1785.
Roedd Thomas a Sarah Charles, hefyd, yn cadw siop yn y Bala, gan nad oedd gan Thomas bywoliaeth eglwysig, er gwaetha'r ffaith ei fod yn offeiriad Eglwys Loegr; y siop oedd unig gynhaliaeth y teulu. Er mwyn peidio gorfod cystadlu am fusnes efo'i llysferch a'i fab yng nghyfraith enwog symudodd Thomas Foulkes i Fachynlleth gan agor siop yno.
Trydedd wraig Thomas Foulkes oedd Lydia, merch i Simon Lloyd, Plas yn Dre'r Bala a chwaer i Simon Lloyd (1756 - 1836) [6] un o offeiriaid cyfoethogaf y Methodistiaid. Bu iddynt wyth o blant.
Deuoliaeth
[golygu | golygu cod]Er ei fod wedi dod yn gynghorydd i'r Methodistiaid Calfinaidd, parhaodd Thomas Foulkes i ddanfon arian i achos y Methodistiaid Wesleaidd, ac i John Wesley ei hun. Talodd am gyfieithu a chyhoeddi cyfieithiadau John Evans o Brif Feddyginiaeth Wesley ym 1759 ac o'i Reolau yr Unol Gymdeithasau ym 1761.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ym 1802 daeth Owen Davies a John Hughes i Fachynlleth ar ran y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg newydd, croesawodd Foulkes nhw i'w gartref a threfnodd iddynt bregethu yn y capel Calfinaidd lleol. Cafodd strôc yn ystod pregeth Davies a bu farw ychydig ddyddiau yn niweddarach, gan ei esgeuluso o'r frwydr daeth wedi hynny rhwng yr enwadau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "FOULK(E)S, THOMAS (1731 - 1802), cynghorwr Methodistaidd bore | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-30.
- ↑ "Wesley [Westley], John (1703–1791), Church of England clergyman and a founder of Methodism". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/29069. Cyrchwyd 2020-03-30.
- ↑ Yr Eurgrawn Wesleaidd Rhagfyr 1829
- ↑ Jones, John Morgan Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II. Gwasg Lewis Evans, Abertawe (1897). Tudalen 91. Y Tadau Methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant
- ↑ "CHARLES, THOMAS ('Charles o'r Bala'; 1755 - 1814). | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-30.
- ↑ "LLOYD, SIMON (1756 - 1836), clerigwr Methodistaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-30.