The Halfway House (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
The Halfway House
Poster y ffilm
Cyfarwyddwyd ganBasil Dearden
Cynhyrchwyd ganMichael Balcon
Awdur (on)Angus MacPhail
Diana Morgan
Seiliwyd arDrama The Peaceful Inn gan Dennis Ogden
Yn serennuMervyn Johns
Glynis Johns
Tom Walls
Françoise Rosay
Cerddoriaeth ganLord Berners
SinematograffiWilkie Cooper
Golygwyd ganCharles Hasse
StiwdioEaling Studios
Dosbarthwyd ganABPC (DU)
Rhyddhawyd gan
  • 14 Ebrill 1944 (1944-04-14) (DU[1])
Hyd y ffilm (amser)95 munud[2]
GwladY Deyrnas Unedig
IaithSaesneg

Mae The Halfway House yn ffilm ddrama Brydeinig o 1944 a gyfarwyddwyd gan Basil Dearden ac yn serennu Mervyn Johns, ei ferch Glynis Johns, Tom Walls a Françoise Rosay.[3] Mae'r ffilm yn adrodd hanes deg o bobl sy'n cael eu dennu i aros mewn hen dafarn yng nghefn gwlad Cymru. Saethwyd golygfeydd lleoliad ym Mhriordy Barlynch ar y ffin rhwng Dyfnaint a Gwlad yr Haf.[3]

Plot[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae pobl yn cydgyfarfod yn yr Halfway House, tafarn yng nghefn gwlad Cymru. Yng Nghaerdydd, mae arweinydd cerddorfa enwog, David Davies, yn cael ei gynghori gan feddyg i ganslo taith a gorffwys, neu bydd yn farw o fewn tri mis. Yn Llundain, mae Richard a Jill French yn dadlau am addysg eu merch ifanc Joanna, sy'n eu clywed yn cytuno i ysgaru. Yna mae Richard a Jill yn mynd ar wyliau ar wahan. Rhyddheir y Capten Fortescue o Garchar Parkmoor; cafodd ei garcharu gan gwrt marsial am ddwyn cronfeydd ei gatrawd. Mewn porthladd yng Nghymru, mae capten llong masnach, Harry Meadows, a'i wraig o Ffrainc, Alice, yn ffraeo am eu mab ymadawedig, a gafodd ei ladd gan un o gychod tanddwr yr Almaen. Mae Oakley, sy'n werthwr yn y farchnad du, yn gadael Llundain am daith pysgota, tra bod Margaret a'i chariad y diplomydd Gwyddelig Terence yn mynd ar drên o Fryste.

Mae Oakley a Fortescue yn cyfarfod ar y ffordd; mae'n ymddangos eu bod yn adnabod ei gilydd. Er bod Fortescue wedi cael trosolwg trwyadl o'r tirlun gyda'i ysbienddrych gan chwilio am yr Halfway House, mae'n methu gweld yr adeilad. Yn sydyn mae'r dafarn yn ymddangos allan o nunlle, ymddengys bod y perchennog, Rhys, hefyd yn ymddangos allan o nunlle. Mae'n dweud wrth Davies ei fod wedi bod yn ei ddisgwyl. Pan fydd Oakley yn arwyddo'r gofrestr, mae'n sylwi bod blwyddyn wedi mynd heibio ers dyddiad y llofnod blaenorol. Mae papurau newydd yn y dafarn yn flwydd oed hefyd.

Mae eraill yn cyrraedd; mae Mr a Mrs Meadows yn gofyn am ystafelloedd ar wahân. Mae Rhys yn gweini te i Alice galarus yn ei hystafell. Mae hi'n synnu o weld dim adlewyrchiad o Rhys yn y drych pan fydd yn gadael yr ystafell. Mae Mr French yn sylwi bod llawysgrifen ei wraig yn y gofrestr ac yn amau bod Joanna wedi trefnu iddyn nhw aros yn yr un lle. Yn ddiweddarach, mae Fortescue yn eistedd y tu allan pan mae'n sylwi nad yw Gwyneth, merch Rhys, yn bwrw unrhyw gysgod, er bod Joanna, sy'n sefyll gerllaw, yn gwneud. Mae Joanna yn trefnu i ffugio boddi, gyda chymorth Capten Meadows, i geisio aduno ei rhieni; mae'r tric bron yn mynd o chwith. Mae Margaret a Terence yn cweryla gan fod Terence yn awyddus i dderbyn swydd ddiplomyddol yn Berlin (Gan fod Iwerddon yn wlad niwtral yn yr Ail Ryfel Byd).

Wrth y bwrdd cinio, mae Rhys yn dweud sut y cafodd y dafarn ei bomio gan awyren flwyddyn yn ôl a'i llosgi. Wrth helpu Gwyneth i olchi'r llestri wedyn, mae hi'n ddweud wrth Davies ei fod am "ddilyn hi a'i thad". Mae o'n ddeall ei hystyr. Mae Alice yn trefnu seance, yn groes i ddymuniad ei gŵr. Mae'r bwrdd yn symud o'i wirfodd ond mae'r capten yn troi'r radio ymlaen, gan dorri'r naws. Ar ôl i Alice ymadael mewn hwyliau drwg, mae Richard yn esbonio i'r lleill ei fod am i'w fab orffwys mewn hedd. Mae Rhys yn awgrymu ei fod yn dweud hynny wrth ei wraig; mae'n gwneud ac mae'r cwpl yn cymodi. Mae darllediadau'r radio o 1942 yn argyhoeddi pawb eu bod rywsut wedi mynd yn ôl blwyddyn mewn amser. Mae Rhys yn esbonio bod angen saib arnyn nhw i gyd i ystyried eu bywydau. Mae'r cyrch awyr yn dechrau fel y disgrifiodd Rhys. Mae prif bryder Richard French am ddiogelwch ei wraig a'i ferch a chasineb newydd Terence at yr Almaenwyr yn eu haduno gyda'r merched yn eu bywydau, tra bod Fortescue ac Oakley yn edifarhau am eu ffyrdd troseddol. Mae'r gwesteion yn ymadael a'r dafarn sydd bellach wedi ei ddymchwel gan y bomiau.

Cast[golygu | golygu cod]

  • Mervyn Johns fel Rhys
  • Glynis Johns fel Gwyneth, ei ferch
  • Tom Walls fel Capt. Meadows
  • Françoise Rosay fel Alice Meadows
  • Esmond Knight fel David Davies
  • Guy Middleton fel Fortescue
  • Alfred Drayton fel Oakley
  • Valerie White fel Jill French
  • Richard Bird fel Sgwadron-bennaeth French
  • Sally Ann Howes fel Joanna French, eu merch
  • Philippa Hiatt fel Margaret
  • Pat McGrath fel Terence
  • C. V. France fel y Cyfreithiwr
  • Roland Pertwee fel Llywodraethwr Carchardai
  • Eliot Makeham fel dilledydd
  • John Boxer fel y Meddyg
  • Rachel Thomas fel lletywraig
  • Joss Ambler fel Pinsent
  • Jack Jones a Moses Jones fel Porthorion Cymreig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Times, 14 Ebrill 1944, tud. 6: "Picture Theatres, Regal, The Halfway House".
  2. BBFC: The Halfway House (1944) Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 6 Medi 2015
  3. 3.0 3.1 "The Halfway House". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06. Cyrchwyd 2019-07-29.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]