Mervyn Johns
Mervyn Johns | |
---|---|
Johns yn The Halfway House (1944) | |
Ganwyd | 18 Chwefror 1899 Penfro |
Bu farw | 6 Medi 1992 Northwood |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Tad | William Johns |
Mam | Margaret Anne Samuel |
Priod | Diana Churchill, Alyce Steele-Wareham |
Plant | Glynis Johns |
Actor cymeriad theatr, ffilm a theledu o Gymru oedd David Mervyn Johns (18 Chwefror 1899 - 6 Medi 1992). Daeth yn seren ffilmiau Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r cyfnod wedi'r rhyfel. Roedd yn un o brif gynheiliaid ffilmiau Ealing Studios.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Johns ym Mhenfro yn fab i William Johns, casglwr treth y tlodion a Margaret Ann, ei wraig.[1] Roedd wedi bwriadu hyfforddi fel meddyg ond torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar draws ei gynlluniau. Bu'n gwasanaethu fel aelod o'r Corfflu Hedfan Brenhinol (rhagflaenydd yr Awyrlu Brenhinol). Ar ôl y rhyfel aeth I RADA i hyfforddi'n actor.[2]
Roedd Johns yn frawd i'r academydd o Rhydychen, Howard Johns, a ddaeth yn rheithor dau o blwyfi sir Swydd Rydychen, ac yn ewythr i'r barnwr John Geoffrey Jones.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Mervyn Johns ei yrfa yn y theatr yn y 1920au, cyn gwneud ei ffilm gyntaf ym 1934.[3] Ymhlith dwsinau o'i rolau ffilm oedd warden yr eglwys yn Went the Day Well? (1942), y pensaer ofnys Walter Craig yn y ffilm ddirgelwch Dead of Night (1945) a Bob Cratchit yn Scrooge (1951) gydag Alastair Sims. Gwnaeth Johns lawer o ymddangosiadau teledu hefyd, mewn cyfresi fel The Avengers, Danger Man a Dixon of Dock Green. Roedd yn adnabyddus am chware dynion bach bach eiddil, ofnus, difyr ond yn aml deimladwy mewn dros 100 o ffilmiau a rhaglenni teledu..[2]
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd Johns ddwywaith yn briod. Ei wraig gyntaf oedd y pianydd cyngerdd Alys Steele. Bu iddynt un ferch, yr actores Glynis Johns,[4] a aned yn Ne Affrica, â ymddangos gyda'i thad yn y ffilmiau The Halfway House (1944) a The Sundowners (1960). Ar ôl marwolaeth Alys ym 1970, priododd Johns yr actores Diana Churchill ym 1976.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu Johns farw yn Northwood, Middlesex yn 93 mlwydd oed.
Ffilmograffi
[golygu | golygu cod]- Lady in Danger (1934) yn chware rhan gohebydd
- The Guv'nor (1935) yn chware rhan rheolwr banc (heb gredyd)
- Foreign Affaires (1935) yn chware rhan cyfieithydd llys
- Pot Luck (1936) yn chware rhan gwyliwr nos (heb gredyd)
- In the Soup (1936) yn chware rhan Meakin (heb gredyd)
- Everything Is Thunder (1936) yn chware rhan Karl (heb gredyd)
- Dishonour Bright (1936) yn chware rhan gwerthwr cardiau post (heb gredyd)
- Song of the Forge (1937) (heb gredyd)
- Storm in a Teacup (1937) yn chware rhan beili llys (heb gredyd)
- Night Ride (1937) yn chware rhan glöwr (heb gredyd)
- The Last Curtain (1937) yn chware rhan Hemp
- Almost a Gentleman (1938) yn chware rhan Percival Clicker
- Jamaica Inn (1939) yn chware rhan Thomas yng ngiang Syr Humphrey
- The Midas Touch (1940) (heb gredyd)
- Convoy (1940) yn chware rhan His Mate
- Girl in the News (1940) yn chware rhan James Fetherwood
- Saloon Bar (1940) yn chware rhan Wickers
- The Next of Kin (1942) yn chware rhan No 23: Mr Davis
- The Foreman Went to France (1942) yn chware rhan Swyddog ffiniau (heb gredyd)
- Went the Day Well? (1942) yn chware rhan Charlie Sims
- The Bells Go Down (1943) yn chware rhan Sam
- My Learned Friend (1943) yn chware rhan Grimshaw
- San Demetrio London (1943) yn chware rhan Greaser John Boyle
- The Halfway House (1944) yn chware rhan Rhys
- Twilight Hour (1945) yn chware rhan Major John Roberts
- Dead of Night (1945) yn chware rhan Walter Craig
- Pink String and Sealing Wax (1945) yn chware rhan Mr. Sutton
- They Knew Mr. Knight (1946) yn chware rhan Tom Blake
- The Captive Heart (1946) yn chware rhan Pte. Evans
- Captain Boycott (1947) yn chware rhan Watty Connell
- Easy Money (1948) yn chware rhan Herbert Atkins
- Counterblast (1948) yn chware rhan Dr. Bruckner the Beast of Ravensbruck
- Quartet (1948) yn chware rhan Samuel Sunbury
- Edward, My Son (1949) yn chware rhan Harry Sempkin
- Helter Skelter (1949) yn chware rhan Ernest Bennett
- Diamond City (1949) yn chware rhan Hart
- Tony Draws a Horse (1950) yn chware rhan Alfred Parsons
- Scrooge (1951) yn chware rhan Bob Cratchit
- The Magic Box (1951) yn chware rhan Goitz
- The Tall Headlines (1952) yn chware rhan Uncle Ted
- The Oracle (1953) yn chware rhan Tom Mitchum
- Valley of Song (1953) yn chware rhan Parch Griffiths
- The Master of Ballantrae (1953) yn chware rhan MacKellar
- Romeo and Juliet (1954) yn chware rhan Ffreier Laurence
- The Blue Peter (1955) yn chware rhan Captain Snow
- 1984 (1956) yn chware rhan Jones
- The Intimate Stranger (1956) yn chware rhan Ernest Chaple
- Moby Dick (1956) yn chware rhan Peleg
- Find the Lady (1956) yn chware rhan Hurst
- The Counterfeit Plan (1957) yn chware rhan Louie Bernard
- Doctor at Large (1957) yn chware rhan Smith
- The Vicious Circle (1957) yn chware rhan Dr. George Kimber
- The Surgeon's Knife (1957) yn chware rhan Mr. Waring
- The Gypsy and the Gentleman (1958) yn chware rhan Brook
- The Devil's Disciple (1959) yn chware rhan Parch Maindeck Parshotter
- Danger List (1959) yn chware rhan Mr. Ellis
- Once More, with Feeling! (1960) yn chware rhan Mr. Wilbur Jr.
- Never Let Go (1960) yn chware rhan Alfie Barnes
- The Sundowners (1960) yn chware rhan Jack Patchogue, maer Cawndilla
- No Love for Johnnie (1961) yn chware rhan Charlie Young
- The Rebel (1961) yn chware rhan Rheolwr galeri yn Llundain
- Francis of Assisi (1961) yn chware rhan Y Brawd Juniper
- The Day of the Triffids (1962) yn chware rhan Mr. Coker
- 55 Days at Peking (1963) yn chware rhan Gweinidog
- 80,000 Suspects (1963) yn chware rhan Buckridge
- The Old Dark House (1963) yn chware rhan Potiphar Femm
- The Victors (1963) yn chware rhan Dennis
- A Jolly Bad Fellow (1964) yn chware rhan Willie Pugh-Smith
- The Heroes of Telemark (1965) yn chware rhan Col. Wilkinson
- Who Killed the Cat? (1966) yn chware rhan Henry Fawcett
- The National Health (1973) yn chware rhan Rees
- House of Mortal Sin (1976) yn chware rhan Y Tad Duggan
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1901 Pembre Sir Benfro. Cyfeirnod: RG13/ 5091; Ffolio: 62; Tudalen: 21
- ↑ 2.0 2.1 Independent 12 Medi 1992 Obituary: Mervyn Johns adalwyd 16 Chwefror 2019
- ↑ Mervyn Johns Archifwyd 2021-07-21 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Chwefror 2019
- ↑ Silverscreen -Mervyn Johns adalwyd 16 Chwefror 2019
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Mervyn Johns ar IMDb