John Geoffrey Jones

Oddi ar Wicipedia
John Geoffrey Jones
Ganwyd14 Medi 1928 Edit this on Wikidata
Porth Tywyn Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbarnwr Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr cylchdaith, dirprwy farnwr cylchdaith Edit this on Wikidata
TadWyndham Christopher Jones Edit this on Wikidata
MamLilias Rosalind Christina Johns Edit this on Wikidata

Barnwr o Gymro oedd Yr Anrhydeddus Farnwr John Geoffrey Ramon Owen Jones QC (14 Medi 192814 Mehefin 2014).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Jones ym Nhywyn Bach (Porth Tywyn), Sir Gaerfyrddin, yn fab i Wyndham C. Jones, cyfarwyddwr cwmni trydanol, a Lilias R. C. Jones (g. Johns). Yr oedd gan ei fam ddau frawd: yr hynaf oedd Howard Johns, a ddaeth yn rheithor dau o blwyfi Swydd Rydychen; roedd yr iau, Mervyn Johns, yn actor a ddaeth yn seren ffilmiau Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn dad i'r actores Glynis Johns.

Mynychodd Jones Ysgol Sant Mihangel, a oedd yn ysgol breswyl annibynnol yn Llanelli. Darllenodd y gyfraith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Prifysgol Llundain.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Galwyd Jones i'r Bar yn Gray's Inn ym 1956, a pharhaodd i ymarfer y gyfraith yng Nghaerlŷr o 1958 i 1970 ac yn Llundain o 1970. Ar 14 Ionawr 1975, cafodd ei dyngu i mewn gan yr Arglwydd Ganghellor fel barnwr cylchdaith, a neilltuwyd i Gylchdaith Canolbarth Lloegr a Rhydychen. Bu'n gweithio yn y Llys Troseddol Canolog yn Llundain.[2]

Priododd Sheila Gregory ym 1954.

Rhwng 1985 a 2000, gwasanaethodd Jones fel llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a Lloegr, ac o 1996 i 1999, ef oedd cadeirydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.[1]

Ym 1989, anrhydeddodd Polytechnig Caerlŷr Jones drwy ei wneud yn Gymrawd Academaidd Hŷn er Anrhydedd. Dyfarnwyd Doethur Legum Er Anrhydedd iddo gan Brifysgol De Montfort ym 1996.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]