Neidio i'r cynnwys

Rachel Thomas

Oddi ar Wicipedia
Rachel Thomas
Ganwyd10 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Alltwen Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1995 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes oedd Rachel Thomas (10 Chwefror 19058 Chwefror 1995) sy'n adnabyddus am chwarae rhan y Fam nodweddiadol Gymreig ac am y cymeriad Bella Davies yn yr opera sebon Pobol y Cwm.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rachel Thomas ym mhentre yr Alltwen ger Pontardawe, yn ferch i Emily Thomas, morwyn. Fe'i magwyd gan chwaer ei mam Mary a'i gŵr David Roberts. Er mae Thomas oedd cyfenw ei fam, fel Rachel Roberts roedd hi'n cael ei hadnabod cyn priodi.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Yr Alltwen ac yn Ysgol y Sir Ystalyfera.

Roedd Rachel yn gobeithio mynd i goleg hyfforddi i ddod yn athrawes gymwysedig ond doedd amgylchiadau teuluol ddim yn caniatáu. Bu'n gweithio fel athrawes heb gymhwyster yn Ysgol Ferched Abercledin, Gilfach Goch ac Ysgol Rhos, Pontardawe.

Ym 1933 darlledwyd gwasanaeth capel ar y radio o gapel yr Annibynwyr, Minny Street, Caerdydd. Gofynnwyd i Rachel, fel un o aelodau'r capel i ddarllen darn o'r Beibl yn y gwasanaeth. Gwnaeth ei allu i leisio a chymeriadu wrth ddarllen y darn argraff ar Sam Jones, cynhyrchydd rhaglenni Cymraeg Radio'r BBC. Ym 1934 cafodd cynnig rhan yn y ddrama gomedi Cymraeg gyntaf i'w darlledu ar y radio gan y BBC, Y Practis, gan Leyshon Williams. Wedi hynny bu'n perfformio yn rheolaidd am weddill ei hoes.

Fe roedd hi'n actores a ddaeth yn adnabyddus am chwarae rhan y Fam Gymreig (a'r Famgu yn eu blynyddoedd hwyrach) a fe ymddangosodd ar gynhyrchiadau ffilm a theledu yn Gymraeg a Saesneg.

Ymddangosodd yn ffilmiau cynnar fel The Proud Valley (1940) gyda Paul Robeson, Blue Scar (1949) a Tiger Bay (1959). Yn 1943, fe ymddangosodd fel Maria Petrovitch yn y ffilm ryfel Ealing Undercover, hanes y mudiad gwrthsafiad guerilla yn Iwgoslafia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1954 roedd hi'n rhan o gast gwreiddiol drama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas a ddarlledwyd ar BBC Radio. Roedd hi'n chwarae rhan Rosie Probert, Mary Ann Sailors a Mrs. Willy Nilly; a chwareodd ran Mary Ann Sailors yn y fersiwn ffilm o 1972.[2][3]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym 1931 priododd Hywel John Thomas, prifathro cyntaf Ysgol Eglwys Wen, Caerdydd. Bu iddynt un ferch, Delyth Mariel. Bu farw deuddydd cyn ei phen-blwydd yn 90 oed ar ôl cwympo yn ei chartref yng Nghaerdydd.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ffrancon, Gwenno (2016). "THOMAS, RACHEL (1905-1995), actores". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 8 Medi 2018.
  2. (Saesneg) Under Milk Wood ar wefan Internet Movie Database
  3. "Rachel Thomas; Actress, 90", New York Times, 10 Chwefror 1995. Accessed 5 Medi 2015

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]