Ted Breeze Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ted Breeze Jones
Ganwyd 1929 Edit this on Wikidata
Manod Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Athro, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Clawr Ted - Dyn yr Adar (Gwasg Gomer; 2000)

Athro, naturiaethwr ac awdur oedd Ted Breeze Jones (19293 Gorffennaf 1997).[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Ted yn ardal Cae Clyd, Manod o Flaenau Ffestiniog. Mynychodd ysgolion y Manod a Maenofferen cyn symud i Ysgol Ramadeg Ffestiniog ym 1940. Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed a bu farw ei dad yn fuan wedyn. Symudodd rhyw filltir i fyny'r ffordd i Flaenau Ffestiniog, lle cafodd ei fagu gan ei fodryb a'i ewythr.[2] Yn 1946 aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Normal, Bangor. Bu yno hyd 1948, pryd yr ymunodd â’r Llu Awyr i gwblhau ei ddwy flynedd o "wasanaeth cenedlaethol".

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yna cychwynodd ar ei yrfa fel athro, gan ddechrau am ychydig yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog, cyn symud i ysgol gynradd Trawsfynydd am ddwy neu dair blynedd. Oddi yno symudodd i Ysgol y Bechgyn, Maenofferen; ac yna, ym 1963, i ysgol gynradd y Manod. Yno y bu nes iddo ymddeol, yn gynnar, tua 1983. Priododd ag Anwen yng nghapel y Wesleaid, Talsarnau ym 1974 a symudasant i fyw i Landecwyn, ger Talsarnau.

Roedd Ted yn o naturiaethwyr amlycaf Cymru gan ymddangos yn gyson ar y cyfryngau. Roedd hefyd yn adarydd, ffotograffydd, darlithydd ac awdur. Roedd yn aelod o banel rhaglen BBC Radio Cymru Seiat Byd Natur a chyfrannodd i nifer o raglenni teledu.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 68 mlwydd oedd, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd a phenderfynu sefydlu Cymdeithas Ted Breeze Jones, er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur.[1]

Llyfryddiaeth (dethol)[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Ted Breeze Jones - 'Dyn yr Adar'. Cymdeithas Ted Breeze.
  2. Dyn 'i fryd ar Gyfeillion pluog. , Daily Post, 7 Rhagfyr 2002. Cyrchwyd ar 28 Medi 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]