T.G. Walker

Oddi ar Wicipedia
T.G. Walker
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnaturiaethydd Edit this on Wikidata

Roedd T.G. Walker yn athro, yn naturiaethwr ac yn awdur a dreuliodd ei oes yn Sir Fon. Roedd yr un mor huawdl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd ei lyfrau a’i erthyglau niferus yn gyfryngau gwerthfawr i boblogeiddio byd natur ymysg plant a phobl ‘gyffredin’. Gwnaeth Walker, neu ‘Wac’ (yn y 30au-50au) a’i ‘ddisgibl’ disglair Ted Breeze Jones (50au-90au), y ddau yn athrawon cynradd brwdfrydig, fwy dros godi ymwybyddiaeth bositif o fyd natur yn yr 20g na neb arall.

Y Naturiaethwr[golygu | golygu cod]

Roedd yn adarydd o fri. Cyhoeddodd yn Gymraeg a Saesneg. Dyma enghraifft:

On January 11th, 1949, at Rhoscolyn, Anglesey, a large falcon was seen swooping on and killing a gull. The falcon followed its prey to the ground, but was prevented from completing its meal by a cottager who then placed two steel gins close to the carcase. When it returned to the spot the falcon stepped into one of the traps. It rose in the air with the trap dangling from one foot, the powerful bird having pulled the anchoring pin clean out of the ground in its efforts to get away. The weight of the trap proved too much for the bird and it was captured uninjured, but it was eventually killed and sent to me for identification. It was a young female, measuring 23 inches in length, with a wing-span of 51 inches, and weighed three and a half pounds. It was examined by Mr. C. F. Tunnicliffe as well as by myself and we agreed that it was a gyr-falcon...Mr. Tunnicliffe made a series of full-scale drawings of the bird...we were informed that it was definitely a Greenland Falcon (Falco rusticolus candicans*).[1]

Cafodd y corff hwn ei ddylunio gan yr arlunydd C.F. Tunnicliffe.

Er mai adarydd ydoedd yn bennaf roedd ganddo ddiddordeb eang ym myd natur:

Mercher 26 Hydref 1949 ... Trwy'r post bore heddiw o Gaernarfon, dyma barsel bychan yn cynnwys y ffrwyth a adwaenir y Saeson wrth yr enw Medlar. Enwau da arno yn Gymraeg yw Cerien, Afal Tindoll, a Merys. Ar y goeden meryswydden y tyf yr afal rhyfedd hwn, y ffrwyth yn gyfryw na ddichon ei ddefnyddio cyn iddo fod yn or-aeddfed neu ar fin mynd yn ddrwg. Gan amlaf defnyddir y Merys i wneud jeli neu geulfwyd.[2]

Yr Athro[golygu | golygu cod]

Bu'n brifathro yn Ysgol Henblas, Llangristiolus, Mon. Roedd parch ato fel athro, a bu bob amser yn frwdfrydig i danio brwdfrydedd y plant mewn byd natur.

Dyma gofnododd Walker yng Nghofnodion Ysgol Henblas ar 3 Tachwedd 1954 ar ôl storm fawr:

Henblas, Llangristiolus: a full gale from the south has raged without a break. Trees are down, traffic has been disorganised, damage has been wrought to the school roof[3]

"Roedd o hefyd yn brifathro arna i am ryw flwyddyn yn Ysgol Henblas. Dwi’n cofio fod gen i dipyn o’i ofn!"[4]

Yr Awdur[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd lawer o lyfrau natur i blant yn bennaf ac roedd yn golofnydd cyson yn y Cymro. Dyma ddetholiad ohonynt:

  • Hanes Ysgol Henblas 1942 : W O Jones, Argraffydd, Llangefni
  • Dau Blwyf Llangristiolus - Cerrigceinwen: (Cyhoeddwr ?) Mai 1944
  • Llyfr Adar: Gwasg y Brython 1950 [1]
  • Llyfr Anifeiliaid: Gwasg y Brython 1950 [2]
  • Adar y Glannau: Gwasg Prifysgol Cymru 1955
  • Birds of the Welsh Coast: University of Wales Press 1956 [3]
  • Ar Faes a Morlan: Hughes a'i Fab, Caerdydd 1950

Ysgrifennodd hefyd llawer o erthyglau byrion yn Cymru'r Plant, Y Clorianydd a Herald Môn

Dyma enghraifft o'i ddawn:

Enillodd y gornchwiglen enw iddo’i hun fel cyfaill gorau’r amaethwr am ei bod yn ymborthi’n gyson ar bob math o gynrhon, llyngyrod a lindys sy’n niweidio’r cnydau. Chwi glywsoch sôn, yn ddiamau, am yr aflwydd a ddaw o dro i dro ar ddefaid; “Liver Fluke” yw’r enw Saesneg arno, ond Clwy’r Dŵr a ddywedwn ni yng Nghymru amdano. Rhyw greadur bach tebyg i leden sydd wrth wraidd yr helbul, yn datblygu o’r tu mewn i iau’r ddafad ac yn ei lladd mewn amser. Y mae dechreuad lleden fach yr iau megis ŵy bychan bach, y mymryn lleiaf erioed, yn llai na phen pin; ac y mae yntau’n byw ar falwoden fechan a ymbortha ar laswellt. Pan fydd y ddafad yn pori, fe lynca’r falwoden ynghyd â’r glaswellt, a dyna sut y caiff lleden fach yr iau fynedfa i’w pherfedd.
Beth sydd a wnelo hyn â’r gornchwiglen? Y mae’r aderyn yn bwyta cannoedd o’r malwod bob blwyddyn, a thrwy hynny yn difa’r wya niweidiol ac yn arbed y defaid rhag y aflwydd. Nid oes ryfedd yn y byd iddi felly ennill parch ac edmygedd y ffermwyr. Erbyn hyn, mae’r mwyafrif ohonynt yn sylweddoli mai ynfydrwydd yw codi gwn ati a dwyn ei hwyau; ond esgeulus yw amryw ohonynt o’i nyth pan yn hau a llyfnu tir âr.[5].

Diddordebau eraill[golygu | golygu cod]

  • Roedd gan Walker gariad mawr at y môr ac at longau. Roedd yn adnabod llawer o gapteniaid llongau a byddai'n teithio dramor gyda hwynt yn weddol rheolaidd.
  • Daeth y braslun-beiro (tudaen 2) hwn o Castell Tomar, Portiwgal gan yr adarydd, y llenor a’r athro o Fôn, TG Walker, i’r fei ar un o dudalennau cefn ei ddyddiadur sydd erbyn hyn yn eiddo i Wil Evans, Gwalchmai.[6]. Dyma ddywedodd TGW yn y dyddiadur y diwrnod y dyluniodd y llun ar y 31 Mawrth 1971:
A cloudy day, odd spots of rain. From Nazare to Leira, then to Fatima. From there to Tomar to stay the night. Hilly country, varied & lovely scenery all the way. Tomar itself is beautiful. Saw 3 small greenish birds, with prominent yellow rumps, on the fringe of a pinewood. Saw a kestrel. Examined contents of resin bowl 1/2 full of strong smelling clear liquid. Played billiards with H & got badly beaten!
  • Dyma fwy o ddyddiadur TGW, mae'n son am brynu Tegfan, dyma'r bynglo buo'n byw ynddo tan ei farwolaeth ar y 7fed o Fehefin 1984 , cofiaf gael galwad gan Peggy yn gofyn i mi fynd i siop yn Modffordd i brynu teledu "portable" iddo yn ei ystafell wely "because Whack wants to watch the Grand National and the Cup Final"[7]

Y Rhyfel[golygu | golygu cod]

Nododd Walker nifer o fân ddigwyddiadau am y rhyfel yn ei ddyddiadur:

Llangristiolus, Môn 2 Ion 1941: wintry..cold..a Jerry plane awoke me this morning at six [8]

Ei gylch[golygu | golygu cod]

Trwy lygaid ei gydnabod:

  • Wedi ymadael â'r ysgol yn 1946 cychwynnodd Ted Breeze-Jones ddwy flynedd o gwrs i athrawon yn y Coleg Normal, Bangor. Cyfarfu â Walker a'i wraig ar ddiwedd yr wythnos gyntaf yn y Coleg, ac yn ystod yr hydref a'r gaeaf dilynol arferai deithio ar y bws i Langefni, a cherdded y gweddill o'r daith i Ysgol yr Henblas, Llangristiolus, lle roedd Walker (Wack i'w gyfeillion) yn brifathro. Ni allasai'r un bachgen â diddordeb mewn byd natur gael mwy o anogaeth a charedigrwydd na'r brentisiaeth a gafodd Ted yng 'Ngholeg Bodorgan' y pryd hwnnw. Yn ystod pob ymweliad â'r caban pren ym Moelfre neu ag Ysgol Henblas, byddai agwedd newydd ar adarydda yn cael ei hymarfer a'i thrafod: rhwydo a thrapio adar i'w modrwyo; ffotograffiaeth natur; arlunio yng ngolau'r lamp baraffin; neu wylio adar ar gorsydd a thraethau Môn. Sylweddolodd Wack mai ffotograffau oedd y cyfrwng mwyaf boddhaol i ddylunio ei lyfrau natur, ac fe berswadiodd ei 'brentis' i brynu camera. Llyncodd Ted yr abwyd heb ei gnoi. Trwy Wack y daeth Ted i gysylltiad a Charles F. Tunnicliffe — yr arlunydd oedd wedi ymsefydlu ym Malltraeth. Galwent heibio Shorelands [cartref CFT] o bryd i'w gilydd ar ddiwedd diwrnod o adarydda. Yno caent groeso a chyfle i gyfnewid newyddion am drigolion adaryddol yr Ynys a chael golwg ar unrhyw luniau yn stiwdio‘r arlunydd. Mwynhâi ambell frechdan dwrci hefyd, a pha ryfedd hynny gan fod dogni yn dal mewn bri a bwyd coleg yn dra annigonol.[9]
  • Roedd fy nhad, William Evans[10] yn dipyn o ffrindia efo fo, ac ar ôl colli ei wraig Margot mi fydda fo’n dwad aton ni am swpar bob nos Fercher a Nos Sul. Dwi’n cofio mynd efo mam a dad i’w ddanfon at un o feddygon y ddafad wyllt ym Mhencaerau, Pen Llŷn fwy nag unwaith i gael triniaeth ar y ddafad wyllt oedd ganddo ar ei drwyn. Mi ddisgynnodd honno i ffwrdd gan adael pant go hegar yn ei drwyn![4]

TedBreeze Jones, Charles Tunnicliffe

Teulu[golygu | golygu cod]

Tras Seisnig. Priod a'i wraig Margot.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. G. WALKER British Birds XLIV
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 70
  3. Bwletin Llen Natur rhifyn 99
  4. 4.0 4.1 Sian Hughes
  5. erthygl wythnosol TG Walker o’r Herald Gymraeg (Rhag 1954)
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 18
  7. Derec Owen
  8. Dyddiadur TG Walker, Bwletin Llên Natur rhifyn 36
  9. Cyfrol goffa Ted Breeze-Jones: Ted Dyn yr Adar, Gol. Anwen Breeze Jones a Twm Elias (2000).
  10. recordiad gwefan Llên Natur yma