Sylvia Nasar
Sylvia Nasar | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1947 Rosenheim |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, academydd, economegydd, cofiannydd |
Cyflogwr | |
Arddull | cofiant |
Gwobr/au | Berlin Prize, Cymrodoriaeth Guggenheim, National Book Critics Circle Award in Biography |
Gwefan | http://www.sylvianasar.com/ |
llofnod | |
Newyddiadurwr o'r Almaen yw Sylvia Nasar (ganwyd 17 Awst 1947) sydd fwyaf adnabyddus am ei bywgraffiad o John Forbes Nash, Jr, A Beautiful Mind. Derbyniodd Wobr Cylch Beirniaid y Llyfr Cenedlaethol am Fywgraffiadau. Mae hefyd yn academydd ac yn economegydd.
Mae ganddi dri o blant, Clara, Lily a Jack, ac yn 2019 roedd yn byw yn Tarrytown, Efrog Newydd. Ei gŵr yw economegydd Prifysgol Fordham, Darryl McLeod.
Yn 2011 cyhoeddodd Grand Pursuit: The Story of Economic Genius, Simon & Schuster, 13 Medi 2011; ISBN 978-0-684-87298-8.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Rosenheim i fam o Bafaria, yr Almaen ac i dad o Uzbek, Rusi Nasar, a ymunodd â'r CIA yn ddiweddarach fel swyddog cudd-wybodaeth. Ymfudodd ei theulu i'r Unol Daleithiau ym 1951, yna symudodd i Ankara, Twrci, ym 1960. Graddiodd gyda BA mewn Llenyddiaeth o Goleg Antioch ym 1970 ac enillodd radd Meistr mewn Economeg ym Mhrifysgol Efrog Newydd yn 1976. Am 4 blynedd, gwnaeth ei ymchwil dan oruchwyliaeth enillyd Gwobr Nobel, Wassily Leontief.[1][2][3]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ymunodd â Fortune magazine fel awdur staff yn 1983, daeth yn golofnydd i US News & World Report yn 1990, ac roedd yn ohebydd economaidd ar gyfer y New York Times o 1991 i 1999. Daeth yn athro prifysgol yn adran newyddiaduraeth Fusnes ym Mhrifysgol Columbia yn 2001.
Ym Mawrth 2013, aeth a'r brifysgol i'r llys am drosglwyddo $4.5 miliwn o arian dros y ddegawd cyn hynny o gronfa Knight.
Yn ôl y New York Times, "In her suit, Ms. Nasar said that after she complained about the misspent funds, [a Columbia University official] "intimidated and harassed" her by telling her that the Knight Foundation "was dissatisfied with her performance as Knight chair because Knight objected to her work on books."[4] [5]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Berlin Prize (2014), Cymrodoriaeth Guggenheim (2013), National Book Critics Circle Award in Biography (1998)[6] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015.
- ↑ HAUGHNEY, CHRISTINE (19 Mawrth 2013). "Journalism Professor Sues Columbia, Claiming Misuse of Endowment Funds". The New York Times. Cyrchwyd 20 Mawrth 2013.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.americanacademy.de/person/sylvia-nasar/.
- ↑ https://www.americanacademy.de/person/sylvia-nasar/.