Starlink
| Enghraifft o: | clwstwr lloerenni Rhyngrwyd, ongoing project |
|---|---|
| Màs | 227 cilogram, 260 cilogram, 295 cilogram, 800 cilogram, 1,250 cilogram |
| Gwlad | |
| Rhan o | list of companies involved in the Gaza war, 2025–2026 Iranian protests |
| Dechrau/Sefydlu | Ionawr 2015 |
| Gweithredwr | Starlink |
| Gwneuthurwr | Starlink |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Dynodwyr | |
Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX,[1] sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff hefyd ei alw'n 'gysawd y rhyngrwyd'. Bydd y rhwydwaith hwn hefyd yn wasanaeth ffonau symudol ar raddfa byd-eang erbyn 2024.[2]
Dechreuodd SpaceX lansio lloerennau Starlink ym Mai 2019. Yn Nhachwedd 2023, roedd gan y cytser o loerenni'n dros 5,500 o loerenni bach (wedi'u masgynhyrchu) mewn orbit isel o'r Ddaear (LEO)[3] ac maent yn cyfathrebu â throsglwyddyddion ar y Ddaear. Bydd y nifer terfynol o loerenni'n nes at 12,000; ac mae ail gam y cynllun yn cynyddu'r nifer hwn ymhellach - i tua 42,000 lloeren. Cyhoeddodd SpaceX ei fod wedi cyrraedd mwy nag 1 miliwn o danysgrifwyr yn Rhagfyr 2022, 1.5 miliwn o danysgrifwyr ym Mai 2023, a 2 filiwn o danysgrifwyr m Medi 2023. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Rhyfel Rwsia-Wcráin.[4]
Lleolir cyfleuster datblygu lloerenno SpaceX yn Redmond, Washington sy'n gartref i'r ymchwil i'r dechnoleg, sy'n datblygu'r lloerenni o ddydd i ddydd, sy'n gweithgynhyrchu'r lloerenni ac yn rheoli'r cylchdroeon (orbits). Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm cost dylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser o leiaf US$10 biliwn.[5] Yn Ionawr 2017 amcangyfrifodd SpaceX y byddai'r refeniw blynyddol gan Starlink tua $12 biliwn erbyn 2022[6] ac yn fwy na $30 biliwn erbyn 2025.[7] Dywedwyd bod refeniw gwirioneddol o Starlink yn 2022 yn $1.4 biliwn.[8] Disgrifiwyd y perfformiad hwn fel "methiant" gan SpaceX.[8][9][10]
Mae seryddwyr wedi codi pryderon am yr effaith y gallai'r cytser ei chael ar seryddiaeth ar y Ddaear, a sut y bydd y lloerenni'n cyfrannu negyddol at amgylchedd orbital sydd eisoes yn orlawn.[11] Mae SpaceX wedi ceisio lliniaru pryderon seryddol gyda mesurau i leihau disgleirdeb y lloerennau. Byddant yn dad-orbitio yn otomatig ar ddiwedd eu hoes. Maent hefyd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau yn annibynnol ac yn llyfn yn seiliedig ar ddata tracio.[12]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn gynnar yn 2014, aeth Elon Musk a Greg Wyler ati i weithio gyda’i gilydd i gynllunio cytser o tua 700 o loerennau o’r enw WorldVu, a fyddai dros 10 gwaith maint y cytser o loerenni fwyaf ar y pryd, sef Iridium.[13] Fodd bynnag, daeth y trafodaethau hyn i ben ym Mehefin 2014, a ffeiliodd SpaceX gais ITU trwy Awdurdod Cyfathrebu Norwy o dan yr enw STEAM.[14] Cadarnhaodd SpaceX y cysylltiad mewn cais yn 2016 i drwyddedu Starlink gyda'r Comisiwn Cyfathrebu Ffederal (FCC) yn UDA. Sicrhaodd SpaceX yr nod masnach Starlink yn yr Unol Daleithiau[15] enw a ysbrydolwyd gan nofel John Green The Fault in Our Stars (2012).[16]
Cyfnod dylunio (2015-2016)
[golygu | golygu cod]
Dadorchuddiwyd Starlink yn gyhoeddus ym Ionawr 2015 pan agorwyd cyfleusterau datblygu lloerenni SpaceX yn Redmond, Washington. Yn ystod yr agoriad, dywedodd Musk fod galw sylweddol ledled y byd am Ryngrwyd band-llydan, cost isel.[17] ac y byddai Starlink yn cludo hyd at 50% o'r holl draffig cyfathrebu ôl-gludo, a hyd at 10% o draffig Rhyngrwyd lleol yn ninasoedd y byd.[18] Dywedodd Musk y byddai'r llif arian cadarnhaol o werthu gwasanaethau rhyngrwyd lloeren yn angenrheidiol i ariannu cynlluniau SpaceX i gyrraedd y blaned Mawrth.[19] At hynny, mae gan SpaceX gynlluniau hirdymor i ddatblygu a defnyddio fersiwn o'r system gyfathrebu lloeren ar blaned Mawrth.[20]
Erbyn Hydref 2016, roedd yr is-adran loerenni yn canolbwyntio ar gost mor isel a phosibl i'r defnyddiwr. Dywedodd Llywydd SpaceX, Gwynne Shotwell bryd hynny, fod y prosiect yn parhau yn y "cyfnod dylunio wrth i'r cwmni geisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost terfynell y defnyddiwr".[21]
Dechrau'r cyfnod datblygu (2016-2019)
[golygu | golygu cod]Yn Nhachwedd 2016, gwnaeth SpaceX gais gyda’r FCC am “system loeren orbit nad yw’n geosefydlog (NGSO) yn y gwasanaeth lloeren sefydlog gan ddefnyddio’r bandiau amledd Ku- a Ka-”.
Ym Medi 2017, dyfarnodd yr FCC fod yn rhaid i hanner y cytser fod mewn orbit o fewn chwe blynedd i gydymffurfio â thelerau trwyddedu, tra dylai'r system lawn fod mewn orbit o fewn naw mlynedd i ddyddiad y drwydded.[22]

Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm y gost datblygu ac adeiladu'r cytser yn agosáu at $10 biliwn.[23] Yng nghanol 2018, ad-drefnodd SpaceX yr is-adran datblygu lloerenni yn Redmond, a daeth swyddi sawl aelod o'r tim uwch reoli i ben.[24]
Lansiadau cyntaf (2019–2020)
[golygu | golygu cod]Ar ôl lansio dwy loeren brawf yn Chwefror 2018, lansiwyd y swp cyntaf o 60 lloeren gweithredol ym Mai 2019.[25]
Yn Nhachwedd 2020, agorwyd gwasanaeth rhyngrwyd beta Starlink i'r cyhoedd.[26] Adroddodd profwyr beta Starlink gyflymderau o dros 150 megabit yr eiliad, uwchlaw'r ystod a gyhoeddwyd ar gyfer y prawf beta cyhoeddus.[27]
Gwasanaeth masnachol (2021-presennol)
[golygu | golygu cod]
Agorwyd rhag-archebion i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau a Chanada yn gynnar yn 2021.[28]
Yn gynharach roedd yr FCC wedi dyfarnu gwerth $885.5 miliwn o gymorthdaliadau ffederal i SpaceX i gefnogi cwsmeriaid band eang gwledig mewn 35 o daleithiau UDA trwy Starlink [29] ond diddymwyd y pecyn cymorth $885.5 miliwn yn Awst 2022, gyda’r FCC yn nodi bod Starlink “wedi methu â dangos” ei allu i ddarparu’r gwasanaeth a addawyd.[30] Apeliodd SpaceX yn ddiweddarach yn erbyn y penderfyniad gan ddweud eu bod wedi bodloni neu ragori ar yr holl ofynion defnyddio RDOF a oedd yn bodoli yn ystod y cynnig a bod yr FCC wedi creu “safonau newydd na allai unrhyw gynigydd eu bodloni heddiw”.[31]
Yn 2022, cyhoeddodd SpaceX haen gwasanaeth Starlink Business, fersiwn perfformiad uwch o'r gwasanaeth. Mae'n darparu antena mwy a chyflymder rhestredig rhwng 150 a 500 Mbit yr eiliad gyda chost o $2,500 am yr antena a ffi gwasanaeth misol o $500.[32] Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cefnogaeth 24/7, wedi'i flaenoriaethu.[32][33] Cymeradwyodd yr FCC hefyd drwyddedu gwasanaethau Starlink i gychod, awyrennau a cherbydau.[34] Arweiniodd y prinder sglodion byd-eang 2020-presennol at ddim ond 5,000 o danysgrifwyr am ddau fis cyntaf 2022 ond cafodd hyn ei ddatrys yn fuan.[35]
Yn Chwefror 2022, cyhoeddodd Musk fod lloerennau Starlink wedi’u hactifadu dros Wcráin ar ôl cais gan lywodraeth y wlad i ddisodli gwasanaethau rhyngrwyd a ddinistriwyd yn ystod goresgyniad Rwsia o Wcráin yn 2022.
Ym Mai 2022, cyhoeddodd ymchwilwyr milwrol Tsieina erthygl mewn cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid yn amlinellu strategaeth ar gyfer dinistrio cytser Starlink os ydyn nhw'n bygwth diogelwch cenedlaethol Tsieina.[36][37][38] Mae'r ymchwilwyr yn tynnu sylw'n benodol at bryderon ynghylch galluoedd milwrol potensial Starlink. Datganodd Musk bod Starlink i'w ddefnyddio mewn modd heddychlon. Mae swyddogion Rwsia gan gynnwys pennaeth asiantaeth ofod Rwsia Dmitry Rogozin wedi rhybuddio Elon Musk y gallai Starlink ddod yn darged milwrol cyfreithlon yn y dyfodol.[39][40]
Ym Mawrth 2023, adroddodd y cwmni eu bod yn cynhyrchu chwe lloeren Starlink "V2 Mini" y dydd yn ogystal â miloedd o derfynellau defnyddwyr. Mae gan y V2 Mini nodweddion lloeren Gen2 Starlink ond mae angen defnyddio Starship gyda diametr o 9-metr ar loerennau Gen2 er mwyn eu lansio. Roedd gan uned fusnes Starlink un chwarter llif arian-positif yn ystod 2022.
Cyrhaeddodd nifer tanysgrifwyr Starlink ledled y byd 2.3 miliwn erbyn Rhagfyr 2023.[41]
| Mis | Tanysgrifwyr | Cyf |
|---|---|---|
| Chwefror 2021 | ≈ 10,000 | [42] |
| Mehefin 2021 | ≈ 100,000 | [43] |
| Chwefror 2022 | ≈ 250,000 | |
| Mai 2022 | ≈ 400,000 | |
| Mehefin 2022 | ≈ 500,000 | |
| Medi 2022 | ≈ 700,000 | [44] |
| Rhagfyr 2022 | ≈ 1,000,000 | [45] |
| Mai 2023 | ≈ 1,500,000 | [46] |
| Medi 2023 | ≈ 2,000,000 | [47] |
| Rhagfyr 2023 | ≈ 2,300,000 | [48] |
Lloerennau milwrol
[golygu | golygu cod]
Mae SpaceX hefyd yn dylunio, yn adeiladu ac yn lansio lloerenni milwrol wedi'u teilwra yn seiliedig ar amrywiadau o'r lloeren Starlink, a'r cwsmer mwyaf adnabyddus yw Asiantaeth Datblygu Gofod (SDA).
Rhaglen Starshield
[golygu | golygu cod]Yn Rhagfyr 2022, cyhoeddodd SpaceX raglen o'r enw Starshield, rhaglen i ymgorffori cargo milwrol neu lywodraethol ar Starlink Block v1.5 a thechnoleg v2.0.[49] Mae'r lloerennau hyn yn drymach, gyda dwywaith yr arwynebedd na Starlink v1.5 ac mae ganddyn nhw ddau bâr o baneli solar yn hytrach nag un ar Starlink Block v1.5.[50] Er bod Starlink wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd masnachol, mae Starshield wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd llywodraeth yr UD, gyda ffocws cychwynnol ar dri maes, sef, clustfeinio, cyfathrebu a chynnal llwythi.
Mae lloerennau Starshield yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gallu integreiddio amrywiaeth eang o lwythi, gan gynnig amlochredd unigryw i ddefnyddwyr. Bydd lloerennau Starshield yn gydnaws â, ac yn rhyng-gysylltu â, lloerennau masnachol presennol Starlink trwy ddolenni rhyng-loeren optegol.[51]
Ym mis Medi 2023, derbyniodd y rhaglen Starshield ei chontract cyntaf gan Lu Gofod yr UD i ddarparu lloerenni cyfathrebu wedi'u teilwra ar gyfer byddin yr UD.[52] Mae hyn o dan raglen “Proliferated Low Earth Orbit” ar gyfer lloerenni LEO, lle bydd Space Force yn dyrannu hyd at $900 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf. Er bod 16 o werthwyr yn cystadlu am wobrau, contract SpaceX yw'r unig un sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma.[52]
Cyfathrebu milwrol
[golygu | golygu cod]Yn 2019, dangosodd profion gan Labordy Ymchwil Llu Awyr yr Unol Daleithiau (AFRL) 610 gyswllt data 610 Mbit/s trwy Starlink i awyren Beechcraft C-12 Huron a oedd yn hedfan.[53] Yn ogystal, ar ddiwedd 2019, llwyddodd Awyrlu'r Unol Daleithiau i brofi'r cysylltiad â Starlink ar gunship AC-130 yn llwyddiannus.[54]
Rhyfel Rwsia-Wcráin
[golygu | golygu cod]
Cafodd Starlink ei actifadu yn ystod goresgyniad Rwsia o Wcráin, ar ôl cais gan Lywodraeth Wcráin.[55] Daeth byddin a llywodraeth Wcráin yn ddibynnol ar Starlink i gynnal mynediad i'r Rhyngrwyd dros nos.[56][57][58] Defnyddir Starlink gan Wcráin ar gyfer cyfathrebu, daearleoli taflegrau ac offer milwrol eraill, cadw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan a chadw'r seilwaith ynni i weithio.[59][60]
Defnyddir y gwasanaeth ar gyfer rhyfela drwy gysylltu dronau ymladd, dronau morol, systemau cydgysylltu magnelau ac ymosodiadau ar safleoedd milwrol Rwsia.[61][62] Mae SpaceX wedi mynegi amheuon ac wedi ceisio atal defnyddio Starlink gan at ddibenion milwrol Wcráin, hy y tu hwnt i gyfathrebu milwrol ac wedi cyfyngu ar dechnoleg cyfathrebu Starlink at ddefnydd milwrol a'u harfau.[63] Fodd bynnag, cadwodd SpaceX y rhan fwyaf o'u gwasanaethau yn Wcráin ar-lein.[64][65] Mae defnyddio Starlink i gynorthwyo ymosodiadau ar dargedau Rwsiaidd wedi cael ei feirniadu gan y Cremlin.[66]
Rhybuddiodd Musk bod y gwasanaeth yn costio $20 miliwn y mis,[67] ac ym Mehefin 2023 llofnododd Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau gontract gyda SpaceX i ariannu Starlink yn Wcráin.[68][69]
Rhyfel Israel yn erbyn y Palesteiniaid
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2023 yn dilyn gwrthdaro Israel-Hamas, rhannodd defnyddwyr yr hashnod #starlinkforgaza ar rwydwaith cymdeithasol X Elon Musk (Twitter yn flaenorol), gan fynnu ei fod yn actifadu Starlink yn Gaza ar ôl i Israel ddileu'r gwasanaeth Rhyngrwyd yn Gaza.[70] Atebodd Musk y byddai cysylltedd Starlink yn cael ei ddarparu ar gyfer grwpiau cymorth yn Gaza, a gwnaethpwyd hynny.[71][72]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Grush, Loren (15 Chwefror 2018). "SpaceX is about to launch two of its space Internet satellites – the first of nearly 12,000". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2019. Cyrchwyd 16 Chwefror 2018.
- ↑ Kolodny, Lora (25 Awst 2022). "SpaceX and T-Mobile team up to use Starlink satellites to 'end mobile dead zones'". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2022. Cyrchwyd 26 Awst 2022.
- ↑ McDowell, Jonathan (4 Mai 2023). "Starlink Launch Statistics". Jonathan's Space Pages. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 5 Mai 2023.
- ↑ Macias, Amanda; Sheetz, Michael (1 Mehefin 2023). "Pentagon awards SpaceX with Ukraine contract for Starlink satellite internet". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2023. Cyrchwyd 15 Medi 2023.
- ↑ Baylor, Michael (17 Mai 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2018. Cyrchwyd 22 Mai 2018.
The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.
- ↑ Bajwa, Arsheeya (13 Medi 2023). "SpaceX's Starlink falls short of growth expectations despite revenue surge - WSJ". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2023.
- ↑ Winkler, Rolfe; Pasztor, Andy (13 Ionawr 2017). "Exclusive Peek at SpaceX Data Shows Loss in 2015, Heavy Expectations for Nascent Internet Service". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 9 Chwefror 2018.
- ↑ 8.0 8.1 Maidenberg, Micah; Winkler, Rolfe (13 Medi 2023). "Starlink Surges but Is Still Far Short of SpaceX's Goals, Documents Show". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2023.
- ↑ "Starlink falls short of customer and revenue goals - IT World Canada". www.itworldcanada.com. 14 Medi 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2023.
- ↑ Vasani, Sheena (13 Medi 2023). "SpaceX's Starlink made $1.4 billion last year". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2023.
- ↑ "JASON Report on the Impacts of Large Satellite Constellations". National Science Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2021. Cyrchwyd 20 Hydref 2021.
- ↑ Krebs, Gunter. "Starlink Block v1.0". space.skyrocket.de. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2020.
- ↑ Winkler, Rolfe (7 Tachwedd 2014). "Elon Musk's Next Mission: Internet Satellites". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2017. Cyrchwyd 10 Medi 2021.
- ↑ Fernholz, Tim (24 Mehefin 2015). "Inside the race to create the next generation of satellite internet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2021. Cyrchwyd 10 Medi 2021.
- ↑ Boyle, Alan (19 Medi 2017). "SpaceX seeks to trademark the name "Starlink" for satellite broadband network". GeekWire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 13 Mai 2019.
- ↑ "How Indianapolis author John Green inspired one of Elon Musk's most grand ideas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 15 Mai 2019.
- ↑ Foust, Jeff (10 Hydref 2016). "Shotwell says SpaceX "homing in" on cause of Falcon 9 pad explosion". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2017. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
- ↑ Gates, Dominic (16 Ionawr 2015). "Elon Musk touts launch of "SpaceX Seattle"". The Seattle Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2015. Cyrchwyd 19 Ionawr 2015.
- ↑ Foust, Jeff (12 Mawrth 2018). "Musk reiterates plans for testing BFR". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ebrill 2020. Cyrchwyd 15 Mawrth 2018.
Construction of the first prototype spaceship is in progress. "We're actually building that ship right now", he said. "I think we'll probably be able to do short flights, short sort of up-and-down flights, probably sometime in the first half of next year".
- ↑ "SpaceX will build Starlink-like constellation around Mars, its president says". Futurism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2021. Cyrchwyd 28 Ebrill 2021.
- ↑ de Selding, Peter B. (5 Hydref 2016). "SpaceX's Shotwell on Falcon 9 inquiry, discounts for reused rockets and Silicon Valley's test-and-fail ethos". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mawrth 2017. Cyrchwyd 8 Hydref 2016.
- ↑ "Updating Rules for Non-Geostationary-Satellite Orbit Fixed-Satellite Service Constellations" (PDF). FCC. 7 Medi 2017. t. 44. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 Mai 2021.
- ↑ Baylor, Michael (17 Mai 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2018. Cyrchwyd 22 Mai 2018.
The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.
Baylor, Michael (17 Mai 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archived from the original on 18 Mai 2018. Adalwyd 22 May 2018.The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.
- ↑ Boyle, Alan (31 Hydref 2018). "SpaceX reorganizes Starlink satellite operation, reportedly with high-level firings". GeekWire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mai 2020. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2018.
- ↑ "Starlink Press Kit" (PDF). spacex.com. 15 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Mai 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
- ↑ Mathewson, Samantha (5 Tachwedd 2020). "SpaceX opens Starlink satellite internet to public beta testers". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 11 Mawrth 2021.
- ↑ "SpaceX's Starlink Internet speeds are consistently topping 150 Mbps — now Elon Musk says the biggest challenge is slashing the US$600 up-front cost for users". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2020.
- ↑ "SpaceX opens Starlink satellite Internet pre-orders to the public". Engadget. 10 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2021. Cyrchwyd 10 Chwefror 2021.
- ↑ "SpaceX's Starlink wins nearly US$900 million in FCC subsidies to bring Internet to rural areas". cnbc.com. CNBC. 9 Rhagfyr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2020.
- ↑ Fingas, J. (10 Awst 2022). "FCC rejects Starlink request for nearly $900 million in broadband subsidies". Engadget. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Awst 2022. Cyrchwyd 11 Awst 2022.
- ↑ "Starlink appeals FCC rejection of $886M grant, calls reversal "grossly unfair"". Ars Technica. 12 Medi 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2022. Cyrchwyd 15 Medi 2022.
- ↑ SpaceX (2 Chwefror 2022). "Starlink Business". Starlink. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 29 Mawrth 2022.
- ↑ Rainbow, Jason (31 Awst 2022). "Starlink secures first cruise line customer with Royal Caribbean". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 31 Awst 2022.
- ↑ "Starlink Deliveries Slow Amid Chip Shortage, FedEx Delays". PC Magazine. January 7, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2023. Cyrchwyd January 1, 2023.
- ↑ Stephen Chen (25 Mai 2022). "China military must be able to destroy Elon Musk's Starlink satellites if they threaten national security: scientists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2022. Cyrchwyd 18 Mehefin 2022.
- ↑ REN, Yuan-zhen; JIN, Sheng; LU, Yao-bing; GAO, Hong-wei; SUN, Shu-yan (2022). "The Development Status of Starlink and Its Countermeasures". Modern Defense Technology 50 (2): 11–17. doi:10.3969/j.issn.1009-086x.2022.02.002. https://www.xdfyjs.cn/EN/10.3969/j.issn.1009-086x.2022.02.002.
- ↑ Passant Rabie (27 Mai 2022). "Chinese Researchers Publish Strategy to Destroy Elon Musk's Starlink". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2022. Cyrchwyd 18 Mehefin 2022.
- ↑ "Russia warns West: We can target your commercial satellites". Reuters (yn Saesneg). 2022-10-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2022. Cyrchwyd 2023-09-27.
- ↑ Ed Browne (16 Medi 2022). "Fact Check: Did Kremlin Threaten to Destroy Starlink Satellites?". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2022. Cyrchwyd 18 Medi 2022.
- ↑ "SpaceX no longer taking losses to produce Starlink satellite antennas, a key step to improving profitability". CNBC. 13 Medi 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2023. Cyrchwyd 15 Medi 2023.
- ↑ "SpaceX says its Starlink satellite Internet service now has over 10,000 users". CNBC. 4 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2021. Cyrchwyd 5 Chwefror 2021.
- ↑ "SpaceX president says Starlink global satellite broadbrand service to be live by September". 23 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2021. Cyrchwyd 23 Mehefin 2021.
- ↑ "Starlink has 700,000 subs". 19 Medi 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2022. Cyrchwyd 23 Medi 2022.
- ↑ @ (19 Rhagfyr 2022). (Trydariad) https://twitter.com/ – drwy Twitter. Missing or empty
|title=(help)CS1 maint: numeric names: authors list (link)SpaceX [@SpaceX] (19 Rhagfyr 2022). "Starlink now has more than 1,000,000 active subscribers" (Tweet). Archived; adalwyd 30 Gorffennaf 2023 - ↑ @ (6 Mai 2023). (Trydariad) https://twitter.com/ – drwy Twitter. Missing or empty
|title=(help)CS1 maint: numeric names: authors list (link) - ↑ "Starlink Announces 2 Million Active Subscribers: Growth Going Geometric". BigTechWire. 24 Medi 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2023. Cyrchwyd 24 Medi 2023.
- ↑ @ (Dec 21, 2023). (Trydariad) https://twitter.com/ – drwy Twitter. Missing or empty
|title=(help)CS1 maint: numeric names: authors list (link)@Starlink (21 Rhagfyr 2023). "Starlink is connecting more than 2.3M people in over 70 countries, and in many more markets, all around the world 🛰️🌎❤️ Here are just a few of their stories → starlink.com/stories" (Tweet) – via Twitter. - ↑ "USA 320, ..., 323, 328, ..., 331". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ebrill 2023. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Starshield: Supporting National Security". SpaceX. 2 Rhagfyr 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ "SpaceX Releases 'Starshield' Satellite Services Designed for Government Use to Support National Security". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2022.
- ↑ 52.0 52.1 "Starlink's Starshield wins contract with US Space Force" (yn Saesneg). 2023-09-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2023. Cyrchwyd 2023-09-28.
- ↑ Erwin, Sandra (22 Hydref 2019). "SpaceX plans to start offering Starlink broadband services in 2020". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Hydref 2019. Cyrchwyd 17 Chwefror 2020.
- ↑ Insinna, Valerie (22 Ionawr 2020). "The Air Force tested its Advanced Battle Management System. Here's what worked, and what didn't". DefenseNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2020. Cyrchwyd 29 Medi 2020.
- ↑ Reese, Isaac (5 Mawrth 2022). "Can Elon Musk's Starlink Keep Ukraine Online?". reason.com. Reason. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mawrth 2022. Cyrchwyd 14 Mawrth 2022.
- ↑ "@elonmusk while you try to colonize Mars — Russia try to occupy Ukraine! While your rockets successfully land from space — Russian rockets attack Ukrainian civil people! We ask you to provide Ukraine with Starlink stations and to address sane Russians to stand". Twitter. 26 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2022. Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
- ↑ Sabbagh, Dan (2023-02-09). "Fury in Ukraine as Elon Musk's SpaceX limits Starlink use for drones". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2023-05-20.
- ↑ "How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2023. Cyrchwyd 2023-06-06.
- ↑ "How Elon Musk's Starlink satellite internet keeps Ukraine online". The Kyiv Independent (yn Saesneg). 2022-09-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mehefin 2023. Cyrchwyd 2023-06-06.
- ↑ Bajak, Frank (9 Chwefror 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2023. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.
- ↑ "Krieg in der Ukraine: Die Erfolgsgeschichte der ukrainischen Artillerie". YouTube. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2022. Cyrchwyd 19 Mehefin 2022.
- ↑ "How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2023. Cyrchwyd 2023-06-06."How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. Archived from the original on 23 Medi 2023. Adalwyd 6 June 2023.
- ↑ Hern, Alex (2022-10-16). "Elon Musk says SpaceX will keep funding Starlink internet in Ukraine". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Hydref 2022. Cyrchwyd 2023-06-06.
- ↑ Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mehefin 2023. Cyrchwyd 1 Mehefin 2023.
- ↑ ""Steven Seagal is calling" - circus on Russian television (Break the Fake)". TVP World. YouTube. 3 Chwefror 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2023. Cyrchwyd 10 Chwefror 2023.
- ↑ Bajak, Frank (9 Chwefror 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2023. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.Bajak, Frank (9 Chwefror 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archived from the original on 28 Ebrill 2023. Adalwyd 28 Ebrill 2023.
- ↑ Stone, Mike; Roulette, Joey (2023-06-01). "SpaceX's Starlink wins Pentagon contract for satellite services to Ukraine". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mehefin 2023. Cyrchwyd 2023-06-01.
- ↑ Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mehefin 2023. Cyrchwyd 1 Mehefin 2023.Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archived from the original on 1 Mehefin 2023. Adalwyd 1 Mehefin 2023.
- ↑ "'Starlink Internet For Gaza': Netizens Ask Elon Musk For Help Amid Israel Strikes". TimesNow (yn Saesneg). 2023-10-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2023. Cyrchwyd 2023-10-27.
- ↑ Rose, Emily; Kaur, Baranjot (2023-10-28). "Musk says Starlink will provide Gaza connectivity for aid groups". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 2023-11-01.
- ↑ "Archived copy". 29 Tachwedd 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2023.CS1 maint: archived copy as title (link)