Llu Gofod yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Llu Gofod yr Unol Daleithiau
Sêl Llu Gofod yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynolspace force Edit this on Wikidata
Rhan oLluoedd Arfog yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Rhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSpace Operations Command Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadChief of Space Operations Edit this on Wikidata
Gweithwyr2,501 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadUnited States Department of the Air Force Edit this on Wikidata
PencadlysY Pentagon Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthArlington County Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.spaceforce.mil/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llu milwrol sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd Unol Daleithiau America yn y gofod yw Llu Gofod yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Space Force, USSF) sydd yn un o chwe changen Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau. Er nad yw'n rhan o Awyrlu'r Unol Daleithiau, fe'i rheolir gan Adran Awyrlu'r Unol Daleithiau. Hon yw'r gangen leiaf o'r lluoedd arfog Americanaidd, a chanddi 8,600 o aelodau yn Ionawr 2023.[1] Sefydlwyd yr USSF ar 20 Rhagfyr 2019 wedi i'r Arlywydd Donald Trump arwyddo'r Ddeddf i Awdurdodi Amddiffyn Cenedlaethol ar gyfer Blwyddyn Gyllidol 2020.[2]

Rhennir yr USSF yn dair prif adran: Rheolaeth Ymgyrchoedd Gofod (SpOC), sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd yn y gofod, gan gynnwys rheoli lloerennau, rhybuddio am daflegrau, cadw golwg ar sbwriel sy'n cylchdroi'r Ddaear, ac amddiffyn rhag ymosodiadau'r gelyn o'r gofod; Rheolaeth Systemau Gofod (SSC), sy'n cynhyrchu, comisiynu a datblygu systemau gofod, gan gynnwys lloerennau, cerbydau lansio, a gorsafoedd rheolaeth o'r ddaear; a Rheolaeth Hyfforddiant a Pharodrwydd Gofod (STARCOM), sy'n gyfrifol am hyfforddiant, addysg, a datblygiad proffesiynol aelodau'r Llu Gofod.

Hwn ydy un o chwe llu gofod cenedlaethol yn y byd, a'r unig un sydd yn annibynnol ar ganghennau eraill y lluoedd arfog—mae lluoedd tebyg yn Ffrainc, Iran, Rwsia, a Sbaen ynghlwm wrth yr awyrlu neu gangen awyrofod, ac mae llu gofod Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rhan o'r Llu Cefnogol Strategol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Air Force, U.S. (18 Ionawr 2023). "Department of the Air Force FY 2023 Budget Overview" (PDF). U.S. Air Force (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mawrth 2023.
  2. Ryan Browne (20 Rhagfyr 2019). "With a signature, Trump brings Space Force into being". CNN. Cyrchwyd 21 Ionawr 2020.