SpaceX
![]() | |
Math | Diwydiant awyrofod |
---|---|
Sefydlwyd | 14 Mawrth 2002 |
Sefydlydd | Elon Musk |
Pencadlys | |
Pobl allweddol | Elon Musk (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Falcon |
Perchnogion | Elon Musk (unknown) |
Nifer a gyflogir | 7,000 (Awst 2020) |
Gwefan | https://www.spacex.com ![]() |
Mae'r Space Exploration Technologies Corporation, neu SpaceX, yn gwmni awyr-ofod a chludiant a sefydlwyd gan Elon Musk yn 2002 er mwyn gwladychu planed Mawrth drwy ddatblygu rocedi a thechnoleg newydd. Sefydlwyd pencadlys SpaceX yn Hawthorne, Califfornia.
Mae SpaceX yn gyfrifol am nifer o rocedi gan gynnwys y teulu Falcon, yn ogystal â'r capsiwl gofod Dragon ac mae'r cwmni'n cynllunio i goloneiddio'r blaend Mawrth. Ym Mai 2012, yn dilyn lawnsiad llwyddiannus y Dragon cyntaf i'r orsaf (heb griw), dechreuodd NASA ei defnyddio er mwyn cludo deunyddiau i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol.[1]

Llwyddodd SpaceX i danio roced a yrrwyd gan danwydd allan o afael y ddaear ac i'r gofod (Falcon 1 in 2008), ac yn ei ôl yn gyfan (Dragon yn 2010).[2]. Dyma'r tro cyntaf i rocedi preifat gwbwlhau'r campau hyn yn llwyddiannus. SpaceX hefyd yw'r unig gwmni preifat hyd yma (2018) i yrru roced i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (Dragon yn 2012)[3] a hyd at 2018 roedd wedi gwneud hynny ddeg o weithiau ar gytundeb masnachol gyda NASA.[4].Rhoddodd NASA gytundeb arall i SpaceX yn 2011 - i gludo pobl i'r orsaf a'u dychwelyd yn ddiogel i'r Ddaear. [5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Kenneth Chang (September 27, 2016). "Elon Musk's Plan: Get Humans to Mars, and Beyond". New York Times. Cyrchwyd 27 Medi 2016.
- ↑ Stephen Clark (28 Medi 2008). "Sweet Success at Last for Falcon 1 Rocket". Spaceflight Now. Cyrchwyd 1 Mawrth 2017.
- ↑ Kenneth Chang (25 Mai 2012). "Space X Capsule Docks at Space Station". New York Times. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
- ↑ William Graham (13 Ebrill 2015). "SpaceX Falcon 9 launches CRS-6 Dragon en route to ISS". NASASpaceFlight. Cyrchwyd 15 Mai 2015.
- ↑ Kirstin Brost (19 Ebrill 2011). "SpaceX Wins NASA Contract to Complete Development of Successor to the Space Shuttle". SpaceX. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.