Falcon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teulu o rocedi Falcon (Ch. i Dde): Falcon 1, Falcon 9 v1.0, 3 fersiwn o'r Falcon 9 v1.1, 3 fersiwn o'r Falcon 9 v1.2 (Full Thrust), a Falcon Heavy.

Teulu o rocedi gwennol (aml-ddefnydd) yw'r Falcon a gynhyrchir gan un o gwmniau Elon Musk: Space Exploration Technologies Exploration (neu SpaceX) ac aelwir yn 'rocedi lansio'. Yn 2017 roedd y rocedi a ddefnyddiwyd yn cynnwys y Falcon 1 a'r Falcon 9.

Lansiwyd y Falcon 1 lwyddiannus yn gyntaf ym Medi 2008, wedi sawl methiant blaenorol. Mae'r Falcon 9 (EELV)-class gryn dipyn yn fwy na'r Falcon 1 ac roedd ei thaith lwyddianus gyntaf i'r gofod ar ei lansiad cyntaf, sef ar 4 Mehefin 2010; defnyddiai gynllun 'gwennol', sef fod rhannau o'r roced yn dychwelyd i'r Ddaear er mwyn eu hailddefnyddio drachefn a thrachefn. Lansiwyd y Falcon Heavy, gyda thair rhan iddi am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018.

Ymhlith cynlluniau'r cwmni SpaceX mae gwladychu'r blaned Mawrth. Bwriada'r cwmni hefyd barhau i gynllunio, i gynhyrchu ac yna i lansio prosiect BFR, a wnaed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Medi 2017. Dyma'r teulu o rocedi a fydd, ryw ddydd, yn cymryd drosodd o deulu'r Falcon.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Nododd Elon Musk, Prif Weithredwr a sefydlydd SpaceX y galwyd y teulu hwn yn "Falcon" ar ôl y Millennium Falcon o'r gyfres ffilm Star Wars.[1]

Y rocedi cyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Falcon 9 "Full Thrust" v1.2[golygu | golygu cod y dudalen]

Uwchraddiwyd y Falcon 9 v1.2 (llysenw: "Full Thrust") o'r Falcon 9 V1.1 ac fe'i lansiwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf ar 22 Rhagfyr 2015 ar gyfer cludo ORBCOMM-2 o bad lansio SLC-40, Cape Canaveral. Yr uwchraddio oedd newid tanc y tanwydd hylif ocsigen i un llawer mwy: daeth hyn a chynydd o 33% ym mherfformiad "Full Thrust".[2]

Falcon Heavy[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel yr awgryma'r enw, mae'r roced yma'n medru cario prif-lwyth (payload) trwm. Addasiad ydyw o'r Falcon 9 ac mae'n cynnwys 3 Falcon 9 gyda'r tiwb canol wedi'i atgyfnerthu a dau bwstryr o'i bopty. Mae'r dair rhan wedi'u cynllunio er mwyn iddynt ddychwelyd i'r Ddaear a'u hail ddefnyddio dro ar ôl tro. Lansiwyd y Falcon Heavy am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018. Fel arfer, mewn arbrofion cychwynol fel hyn, cludir talp o goncrid fel prif-lwyth, ond y tro hwn, gyda synnwyr digrifwch arferol Elon Musk, cariwyd un o geir ei gwmni Tesla, sef y Tesla Roadster, a hynny i gyfeiliant Space Oddity, gan David Bowie.[3]

Rocedi na chaiff eu defnyddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Falcon 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i'r rocedi a ddaeth ar ei ôl, nid oedd defnydd gwennol, aml-ddefnydd i'r Falcon 1. Fe'u cynhyrchwyd gan SpaceX rhwng 2006–2009.[4] Ar 28 Medi 2008, daeth y Falcon 1 y cerbyd gofod preifat (tanwydd hylif) cyntaf i fynd i orbit o amgylch y Ddaear. Roedd ganddi ddwy ran a defnyddiai hylif ocsigen (LOX/RP-1) fel tanwydd, gydag un injan-roced Merlin ac yna un injan-roced Kestrel.

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Falcon 1e
Falcon 9 v1.0
Falcon 9 v1.1
Grasshopper

Gohiriwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gohiriwyd y prosiectau canlynol:

Falcon 5
Falcon 9 Air

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Joseph Gordon-Levitt at SpaceX". Youtube. p. timeindex 2:25. https://www.youtube.com/watch?v=hwMIAKabRng.
  2. SpaceX ORBCOMM-2 webcast
  3. "SpaceX Falcon Heavy launch successful". CBS News. 6 Chwefror 2018. https://www.cbsnews.com/news/watch-live-falcon-heavy-launch-spacex-online-stream-live-updates/. Adalwyd 6 Chwefror 2018.
  4. Engel, Max (2013-03-01). "Launch Market on Cusp of Change". Satellite Today. http://www.satellitetoday.com/via/satellitegetspersonal/Launch-Market-on-Cusp-of-Change_40648.html. Adalwyd 2013-02-15. "SpaceX is not the first private company to try to break through the commercial space launch market. The company, however, appears to be the real thing. Privately funded, it had a vehicle before it got money from NASA, and while NASA’s space station resupply funds are a tremendous boost, SpaceX would have existed without it."