Neidio i'r cynnwys

Siôn Daniel Young

Oddi ar Wicipedia
Siôn Daniel Young
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Siôn Daniel Young (sillefir yn aml heb y to bach, Sion Daniel Young) a fagwyd yng Nghaerdydd ac sydd wedi ymddangos mewn sawl cyfres ddrama deledu a theatr yn y Gymraeg a gan fwyaf yn y Saesneg.[1] Bu'n perfformio mewn sawl gyfres ddrama gan gynnwys prif ran, Gabriel, yn y ddrama deledu yn 2024, Lost Boys & Fairies am gwpl hoyw yn mabwysiadu plentyn[2] gan Daf James.[3]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Magwyd Siôn yng Nghaerdydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Teledu a Ffilm[golygu | golygu cod]

Mae wedi actio mewn sawl cyfres ddrama. Ymysg y rhai Cymraeg eu hiaith mae'r Gwyll a'r fersiwn Saesneg, "Hinterland", gan Ed Thomas a chyfres ddrama Un Bore Mercher ("Keeping Faith" yn y fersiwn Saesneg) fel 'Gareth' (2020).

Daeth i sylw llawer o'r cyhoedd am ei rhan fel un o brif gymeriadau cyfres ddrama ditectif Deceit (Channel 4, 2021) sy'n seiliedig ar lofruddiaeth Rachel Nickell ar Gomin Wimbledon yn Llundain yn 1992. Chwaraeodd ran Colin Stagg, dyn a amheuwyd o lofruddio'r fam ifanc. Bu iddo dderbyn sylw a chlod am ei bortread o'r cymeriad anghynnes yma. Bu hefyd iddo ymddangos yn Private Peaceful (cymeriad Captain Bovey, (2012), cymeriad Gareth yn Keeping Faith, a chymeriad Gethin yn The Left Behind (2019). Ymhlith eu rannau eraill mae: Doc Martin (TV Series); Paint It Black (2019) George Pendrick; Morgan Hopkins yn Hinterland (2015); Our World War (TV Mini Series).[1]

Enwebwyd ef ar gyfer gwobr Bafta Cymru fel 'Agor Orau' am ei bortread o Gethin yn docu-ddrama y BBC, The Left Behind yn 2020.[4]

Yn 2024 ymddangosodd fel y cyd-brif ran, Gabriel, yn nrama deledu Lost Boys & Fairies gan Daf James a ddarlledwyd ar BBC y DU. Mae'r ddrama am gwpl hoyw yng Nghaerdydd sy'n mabwysiadu babi. Dyma'r ddrama deledu gyntaf i'w chomisiynu a'i darlledu ar draws Prydain gyda deialog Cymraeg a Saesneg naturiol ynddi.[5][6]

Theatr[golygu | golygu cod]

Mae wedi ymddangos yn The Radicalisation of Bradley Manning, Mametz, and The Village Social gan National Theatre Wales a On Bear Ridge gan Ed Thomas.[7]

Chwaraeodd rannau blaenallaw yn fersiwn lwyfan o War Horse a The Curious Incident of the Dog in the Night-time (ill dau yn y West End). Bu hefyd yn Nightfall (Bridge Theatre). He will next appear in Jellyfish (National Theatre).[7]

Bu hefyd yn actio ar lwyfan gyda'r National Theatre Live yn fersiwn theatre o War Horse (2014).

Gobaith am Scandi Noir Cymraeg[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad i bapur The Guardian yn Awst 2021, nododd Siôn fod ganddo obeithion uchel ar gyfer byd y ddrama Gymreig a chreu genre Nordic Noir Gymraeg, "Fy mreuddwyd, jyst fel mae Scandi noir wedi gwneud yn iawn i gynulleidfaoedd Prydeinig wylio dramâu wedi eu his-deitl, gall yr un peth ddigwydd fallai i ddramâu Cymraeg." Nododd y cyfwelydd fod rhannau Siôn yn nrama Y Gwyll a leolir yn ardal Aberystwyth ac Un Bore Mercher a leolir yn Sir Gâr yn rhan o'r freuddwyd honno. Esboniodd Siôn bod y dramâu'n cael eu saethu gefn wrth gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg, pan ofynnodd yr holwr a oedd yr actor yn cael dwbl y cyflog atebodd Young, “Erm, na. Jyst dwbl y gwaith. Nid 'mod i'n cwyno".[8]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Siôn Daniel Young". Bas Data IMDb. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
  2. "Lost Boys and Fairies writer proud of adoption drama". BBC Wales. 2 Mehefin 2024.
  3. "Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime". BBC Cymru Fyw. 4 Mehefin 2024.
  4. "Channel 4's Deceit: The Welshman playing wrongly-accused Colin Stagg in real-life drama about Rachel Nickell murder". Wales Online. 9 Awst 2021.
  5. "Lost Boys and Fairies writer proud of adoption drama". BBC Wales. 2 Mehefin 2024.
  6. "Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime". BBC Cymru Fyw. 4 Mehefin 2024.
  7. 7.0 7.1 "Sion Daniel Young, Cast - On Bear Ridge". Gwefan National Theatre Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-17. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
  8. "'A great responsibility': Sion Daniel Young on playing the man wrongly accused of killing Rachel Nickell". The Guardian. 13 Awst 2021.