Sian Lloyd (cyflwynydd newyddion)
Sian Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1972 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr ![]() |
Newyddiadurwraig a chyflwynydd Cymreig yw Sian Lloyd (ganwyd 1968) sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfer BBC News fel eu Gohebydd Canolbarth Lloegr.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]
Ganwyd ym Mangor, Gwynedd,[1] ac roedd teulu ei thad yn dod o Gricieth, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i hafau. Magwyd Lloyd yn Wrecsam, yn siarad Cymraeg a Saesneg ac mae'n rhugl yn Ffrangeg.[2] Roedd ganddi swydd penwythnos yn ei harddegau yn Nhŷ Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Astudiodd Lloyd am radd LLB yn y gyfraith yn Ysgol Y Gyfraith, Caer oedd ar y pryd yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerlŷr, gan raddio yn 1993.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Hyfforddodd Sian fel cyfreithiwr gyda Lovell White Durrant yn Llundain a Hong Kong.[2]
Cychwynnodd ei gyrfa yn 1996 fel newyddiadurwr yng ngogledd Cymru fel gohebydd i BBC Cymru, ac yna, ar ôl symud i Gaerdydd aeth ymlaen i gyflwyno Good Evening Wales ar y radio, ac yna BBC Wales Today ar y teledu.[2]
Mae Sian wedi cymryd rhan mewn llawer o raglenni teledu Cymraeg S4C, gan gynnwys: her goginio Dudley: Pryd o Sêr; sioe siarad comedi Sioe Tudur Owen; rhaglen gylchgrawn Heno; a'r rhaglen i ddysgwyr Cymraeg Hwb. Roedd Sian yn rhan o dîm cyflwyno BBC Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011, ac mae wedi bod yn feirniad yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2012.[2]
Mae Sian yn gweithio ar gyfer BBC News fel gohebydd Canolbarth Lloegr.[2] Fel rhan o'i rôl gohebydd, mae Lloyd yn cyfrannu'n rheolaidd i raglen Crimewatch y BBC. Ers i nifer o raglenni'r BBC symud i MediaCityUK yn Salford Quays, Manceinion yn 2012, mae Sian wedi bod yn gyflwynydd cyflenwol rheolaidd ar raglen BBC Breakfast.
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Mae Sian yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i mab.[3]
Mae Sian yn cefnogi Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Dug Caeredin, ac yn llysgennad ar gyfer Gofal Hosbis George Thomas.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Don't mind your Ps and Qs: Sian Lloyd". walesonline.co.uk. 30 July 2011. Cyrchwyd 2 July 2015.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Sian Lloyd". Welsh Stars. Cyrchwyd 2009-08-06.
- ↑ "Gardening news with BBC Wales's Sian Lloyd". Lynne Allbutt. July 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-10. Cyrchwyd 2009-08-06.