Sgwrs Defnyddiwr:MathWilliams9

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, MathWilliams9! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,446 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 09:22, 22 Tachwedd 2021 (UTC)[ateb]

Otomeiddio'r data[golygu cod]

Pa hwyl? A chroeso i Wici! Tybed a wnei di edrych ar y golygiadau a wnes ar dy erthygl ar Snatchwood os gweli di'n dda? Mae'r boblogaeth yn dod yn otomatig o Wicidata, fel nad oes raid ei newid byth eto! Felly hefyd y swits yn y wybodlen - dwy swits sy'n rhoi enwau'r Aelod Senedd a'r Aelod Seneddol yn otomatig. Mae categoriau hefyd yn hanfodol, gan fod peidio a'u cynnwys fel rhoi llyfr ar silff yn y Llyfr Gen - heb gyfeirnod DEWEY! Gelli ganfod y categoriau ar erthygl debyg ee Torfaen, a'u copio. Diolch am dy waith! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:01, 2 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am eich cyngor! Byddaf yn gweithredu'r rhain o hyn ymlaen. MathWilliams9 (sgwrs) 11:26, 2 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]

Sillafiad Llandîmôr[golygu cod]

Bore da! Oes gen ti gyfeiriad at y sillafiad yma os gweli di'n dda? Anarferol iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:19, 21 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]

Helo. Ces i'r enw o'r Wikipedia Saesneg a roedd cyfeiriad ar bwys hynny ond dydw i ddim yn gallu darllen e. Mae'r enw ar Wikidata yn wahanol ond does dim cyfeiriad i'w weld ar gyfer hynny chwaith. Heb law am hynny, dw'i methu ffeindio ffynhonell allanol gyda'i enw yn Gymraeg. Diolch MathWilliams9 (sgwrs) 15:02, 21 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]

Blwyddyn Newydd Da![golygu cod]

Helo defnyddiwr:MathWilliams9, Blwyddyn newydd da! Dw'i newydd gael cip ar eich gwaith hyd yma a jyst eisiau dweud diolch yn fawr! Mae'n wych cael erthyglau newydd am leoedd yng Nghymru ac mae safon eich gwaith yn dda iawn. Dwi'n gweld o’r uchod bod ti'n llwyddo trafod efo'r gymuned yn ôl yr angen sydd yn wych. Cofiwch fod croeso i ti cysylltu’n uniongyrchol efo fi hefyd am unrhyw cymorth neu am sgwrs gyffredinol am y gwaith. Diolch eto, Jason.nlw (sgwrs) 14:09, 10 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Blwyddyn newydd da i chi hefyd! MathWilliams9 (sgwrs) 11:21, 17 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]