Sgwrs Defnyddiwr:Duncan Brown

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Helo bawb sy yno. Dwi.n awyddus i wybod côd i ganiatau i mi gyfeirio at UN ddolen we allanol sawl tro yn y testun ond dim ond unwaith yn y cyfeiriadau. Mae 'Adam' wedi dangos sut i wneud rhywbeth tebyg efo cyfeiriadau at deitlau llyfrau, sydd wdi gweithio'n dda iawn, onddwi'n methu wneud iddo weitho efo dolenni. Faswn i'n ddiolchgar iawn am help.

Haia Duncan! A chroeso cynnes i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:13, 19 Ebrill 2017 (UTC)

Diolch am d'amynedd! Mi gei fil ffon o fama i Niwbwrch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:26, 20 Ebrill 2017 (UTC)

Diolch![golygu cod y dudalen]

Jyst deud fod dy erthygl yn edrych yn dda iawn! Melys moes mwy! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:17, 23 Ebrill 2017 (UTC)

Ref a chodio[golygu cod y dudalen]

Dyma ddolen i'r ddalen: Gwefan Llechwedd Fwyalchen; adalwyd 24 Ebrill 2027.

Efallai y bydd hwn hefyd o help:

Cymorth:Canllaw Pum Munud. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:32, 24 Ebrill 2017 (UTC)

Sain - gelli roi sain o fewn llinell (inline), drwy ddefnyddio {{Sain|TurdusTorquatusSongSlovakiaOlympusLS11file0206.ogg|testun}}, sy'n rhoi "Cymorth – Sain" testun . Mae wedi'i roi yn yr erthygl Mwyalchen y mynydd.


Croeso Duncs![golygu cod y dudalen]

Croeso Mr Edward Llwyd ei hun! Gwych cael d'arbenigedd! Welai di ym Mhlas Tan y Bwlch! Cell Danwydd (sgwrs) 00:10, 5 Mai 2017 (UTC)

Enwau aelodau'r gGweithdy[golygu cod y dudalen]

Faset ti ddim yn ychwanegu enwau rhai o'r rhai fu wrthi ym Mhlas Tan y Bwlch os g y n dda? Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur. Dau neu dri sydd yno, heb enwau. Diolch Duncan! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 14 Mai 2017 (UTC)

@Llywelyn2000: Wedi ei wneud

Llyffant - ond pa fath?[golygu cod y dudalen]

Mae @Lesbardd: wedi uwchlwytho llun broga, ond nid oes son pa fath. Unrhyw syniad? Mae wedi uwchlwytho llawer o rywogaethau dros y blynyddoedd. Cofia y medri eu rhoi ar eich Geiriadur Rhywogaethau, os y dymuni. Cell Danwydd (sgwrs) 19:14, 28 Gorffennaf 2017 (UTC)

Wedi chwilio am y llyffant ond yn ofer

Ffotograffydd gwych arall yn uwchlwytho ar Comin[golygu cod y dudalen]

Jyst rhag ofn nad wyt wedi'i weld: sbia ar stwff Morgan Owen ar Comin!!! Bril! Newydd roi ei lun o wyddfid ar yr erthygl gyfatebol. Ac mae'r erthyglau ti'n gweithio arnyn nhw hefyd yn gyfoethog iawn eu gwybodaeth! Mae pethe'n edrych yn dda ar erthyglau gan naturiaethwyr Cymru! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 2 Medi 2017 (UTC)

Mynyddfor a Mynydd Mawr[golygu cod y dudalen]

Haia @Duncan Brown: mae na stwff da yn yr erthygl Mynyddfor gen ti, a braw i mi oedd gweld nad oes erthygl ar gyfesurynnau grid! Mae Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn bod, fodd bynnag. Dw i'n meddwl fod na erthygl ar y mynydd hwn yn barod - gweler Mynydd Mawr ac felly bydd angen eu huno. Fedri di, neu wyt ti am i mi wneud? Gallem wedyn droi'r erthygl sbar yn ailgyfeiriad bach del. Cofion fil... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:53, 16 Ebrill 2018 (UTC)

Smai @Llywelyn2000: Diolch i ti. Wedi cyfuno'r ddau ond ddim yn gwybod sut i greu "ailgyfeiriad bach del"! Wnei di wneud hynny?