Sgwatio
- Am y safle gorfforol, gweler cwrcwd. Am yr ymarfer i hyfforddi cryfder, gweler cyrcydu (ymarfer).
Meddiannu adeilad gwag (neu ran ohono) nad yw'r sgwatiwr yn ei berchen, yn ei rentu, na gyda chaniatâd i'w ddefnyddio yw sgwatio. Ers 1 Medi 2012, mae sgwatio mewn aneddiad yng Nghymru yn weithred anghyfreithlon. Amcangyfrifir fod dros biliwn o bobl yn sgwatio drwy'r byd[1] gan weithiau feddiannu ardaloedd cyfan, er enghraifft slymiau Mumbai neu Fafelas Rio de Janeiro.
Mae nifer helaeth o ganolfannau cymdeithasol a mannau cymunedol di-elw yn sgwatiau. Mae rhain eto (gan amlaf) yn ymwneud ag athrawiaethau gwleidyddol y sgwatiwr, fel arfer radical chwith, yn enwedig anarchiaeth. Enghreifftiau o'r math hyn o sgwatiau cymunedol yng Nghymru yw'r Ymbrela Coch a Du yng Nghaerdydd a'r prosiect Cwtch yn Abertawe.[2][3]
Y gyfraith yn y Deyrnas Unedig
[golygu | golygu cod]Ers 1977 yng Nghymru a Lloegr, roedd yn anghyfreithlon i fygwth neu i ddefnyddio trais er mwyn cael mynediad i adeilad lle yr oedd rhywun yn byw ac yn gwrthod i rywun arall cael mynediad. Pwrpas y ddeddf hon oedd i atal landlordiaid rhag defnyddio trais i ddadfeddiannu tenantiaid, ond enillodd yr enw "hawliau ysgwatwyr"[4] gan iddi gael ei defnyddio gan bobl nad oedd yn denantiaid. Hyd 2012, yr oedd sgwatio yn fater sifil ac yr oedd rhaid i berchennog yr adeilad ddwyn achos sifil a phrofi yr oedd y sgwatwyr yn tresmasu ar ei eiddo. Os oedd rhywun yn byw yn y tŷ cyn i'r sgwatwyr symud i mewn, ac wedi eu gwneud yn ddigatref, gallent mynd i mewn i'r adeilad a gorchymyn i'r sgwatwyr gadael. Yn yr achos hon, gall cyn-drigolion y tŷ galw ar yr heddlu i'w helpu.[5] Yn 2012 cafodd sgwatio mewn adeiladau preswyl ei wneud yn dramgwydd troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan ddod â therfyn i "hawliau ysgwatwyr".[6] Bellach gellir cosbi sgwatio gan ddirwy o £5000 a dedfryd o garchar am chwe mis. Dan y ddeddf newydd, nid yw tenantiaid sydd y tu ôl â'u rhent yn sgwatio,[7] ac nid yw'r gyfraith wedi newid parthed adeiladau dibreswyl.[5]
Cymru
[golygu | golygu cod]Ers 1 Medi 2012, mae sgwatio mewn adeilad yng Nghymru, fel gweddill gwledydd Prydain, yn weithred anghyfreithlon.
Mae'r rhan fwyaf o sgwatwyr yn ei wneud er mwyn cael cartref, ond nid sicrhau annedd yw'r unig gymhelliant. Sgwatiodd (neu 'meddiannodd) aelodau o Gymdeithas yr Iaith mewn tai drwy bentref Rhyd ger Borthmadog yn 1975 fel protest yn erbyn y ffaith mai tŷ haf oedd bron pob adeilad. Gwnaed hyn hefyd yn Nerwen Gam a nifer o dai haf ledled Cymru yn y 1970au a'r 80au. Dyma enghraifft o sgwatio fel gweithred wleidyddol uniongyrchol.
Yr Alban
[golygu | golygu cod]Yn yr Alban, mae sgwatio wedi bod yn anghyfreithlon ers y 19g.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Forum: Qualitative Social Research, Review: Shadow Cities
- ↑ "Radical Wales, New sqquatted social centre in Cardiff". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-15. Cyrchwyd 2012-05-22.
- ↑ "Radical Wales, Community squatting comes to Swansea". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-28. Cyrchwyd 2012-05-22.
- ↑ Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 176.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Q&A: Squatting laws. BBC (31 Awst 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Johnson, Wesley (31 Awst 2012). New law 'shuts door' on squatters. The Independent. Adalwyd ar 31 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Squatting set to become a criminal offence. BBC (31 Awst 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Alexander Vasudevan, The Autonomous City: A History of Urban Squatting (Llundain: Verso, 2017),