Neidio i'r cynnwys

Seisnigo

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Seisnigeiddio)
Un o brotestiadau'r Gymdeithas yn galw am arwyddion ffordd dwyieithog, 1972

Seisnigo neu Seisnigeiddio yw'r broses o ddisodli iaith frodorol a gosod y Saesneg yn ei lle.

Seisnigo yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Am ganrifoedd, mae dylanwad yr iaith Saesneg yng Nghymru wedi arwain at Seisnigo helaeth yn y wlad, yn bennaf mae wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg. Yn y 19g gorfodwyd y Saesneg ar drigolion mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwneud y Saesneg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth cyrff megis y Swyddfa Bost a chynghorau trefi a siroedd a holl ffurflenni cenedlaethol e.e. tystysgrifau geni a threth. Y Saesneg oedd iaith addysg hefyd a defnyddiwyd dulliau fel y Welsh Not i sicrhau na fyddai plant Cymru'n siarad Cymraeg yn ysgolion y wlad. Digwyddodd hyn yn ddiweddar mewn sawl ffordd: y mewnlifiad o Loegr i Gymru a thrwy'r cyfryngau Saesneg megis y teledu.

Gwelir effaith y Saesneg ar eiriau Cymraeg gyda thermau o darddiad Saesneg yn disodli hen eiriau Cymraeg, e.e. erbyn heddiw, defnyddir yr enw Lerpwl (Cymreigiad o Liverpool) llawer amlach na'r hen enw Llynlleifiad. Mae idiomau Saesneg hefyd wedi disodli llawer o'r idiomau cynhenid e.e. "cario mlaen" a glywir yn aml ar y cyfryngau yn hytrach na "dal ati". Mae'r Faner Newydd wedi bod yn flaenllaw yn eu hymgyrch i newid hyn.

Mae Seisnigo wedi arwain at ymateb tor-cyfraith gan rai Cymry, e.e. ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i beintio arwyddion uniaith Saesneg yn yr 1970au, a llosgi tai haf yn yr 1980au i atal perchnogaeth o ail dai.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Mae Rhywun Yn Gwybod, Alwyn Gruffydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)