Sebon Nabulsi

Oddi ar Wicipedia
Sebon Nabulsi
Enghraifft o'r canlynolcangen economaidd Edit this on Wikidata
MathSebon Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshalennau swlffad, olew olewydd Edit this on Wikidata
RhanbarthNablus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o sebon, tebyg i sebon Castile, Sbaen yw sebon Nabulsi (Arabeg: صابون نابلسي‎, ṣābūn Nābulsi ) a gynhyrchir yn ninas Nablus yn unig, sydd wedi'i leoli yn y Lan Orllewinol, Palesteina.[1] Ei brif gynhwysion yw olew olewydd gwyryfol (prif gynnyrch amaethyddol y rhanbarth), dŵr, a sodiwm alcalïaidd. Mae'r cynnyrch gorffenedig yn syml, o liw ifori ac nid oes ganddo lawer o arogl. Yn draddodiadol, roedd menywod yn ei wneud at ddefnydd y cartref, ac roedd wedi dod yn ddiwydiant sylweddol yn Nablus erbyn y 14g.

Ym 1907 roedd 30 o ffatrïoedd sebon yn ninas Nabulsi ac roedden nhw'n cyflenwi hanner y sebon ym Mhalestina. Dirywiodd y diwydiant yn ystod canol yr 20g yn dilyn y dinistr a achoswyd gan ddaeargryn Jericho yn 1927 a bomio dibendraw gan fyddin Israel. Yn 2008, dim ond dwy ffatri sebon oedd wedi goroesi yn Nablus. Mae hen ffatri sebon Arafat wedi'i throi'n Ganolfan Cyfoethogi Treftadaeth Ddiwylliannol.]

Bariau sebon Nabulsi wedi'u lapio

Hanes[golygu | golygu cod]

Nablus yn y 19g

Yn draddodiadol, roedd menywod yn gwneud sebon Nabulsi at ddefnydd y cartref, hyd yn oed cyn ymddangosiad ffatrïoedd gwneud sebon bach yn y 10g.[2][3] Roedd masnach gyda Bedowiniaid yn angenrheidiol er mwyn gwerthu'r sebon, yn Nablus a Hebron, gan mai nhw yn unig a allai ddarparu'r sodiwm alcalïaidd (qilw) sy'n angenrheidiol ar gyfer y broses o gynhyrchu'r sebon.[4] Erbyn y 14g roedd diwydiant gwneud sebon sylweddol wedi datblygu yn Nablus ac roedd hoff sebon y Frenhines Elizabeth I o Loegr,[2] yn cael ei allforio ledled y Dwyrain Canol ac i Ewrop.

Yn y 19g gwelwyd ehangu'r gweithgynhyrchu sebon yn Nablus, a ddaeth yn ganolfan cynhyrchu sebon ledled y Cilgant Ffrwythlon. Erbyn 1907, roedd 30 ffatri'r ddinas yn cynhyrchu bron i 5,000 tunnell o sebon Nabulsi yn flynyddol, dros hanner yr holl gynhyrchu sebon ym Mhalesteina.[5][6] Ysgrifennodd John Bowring am sebon Nabulsi yn y 1830au ei fod yn “uchel ei barch yn y Lefant ,” ac ysgrifennodd Muhammad Kurd Ali, hanesydd o Syria, yn y 1930au mai “sebon Nablus yw’r sebon gorau ac enwocaf heddiw, a'r gyfrinach yw ei fod yn bur, ac wedi'i gynhyrchu'n dda."[7][8]

Sebon Nabulsi wedi'i bentyrru i'w sychu. Llun wedi'i dynnu rhwng 1900-1920

Dechreuodd y diwydiant sebon yn Nablus ddirywio yng nghanol yr 20g, a achoswyd yn rhannol gan drychinebau naturiol, yn enwedig daeargryn 1927, a ddinistriodd lawer o Hen Ddinas Nablus, ac yn rhannol gan feddiannaeth filwrol Israel. Dinistriodd cyrchoedd milwrol Israel yn ystod yr Ail Intifada sawl ffatri sebon yn y rhan hanesyddol o Nablus. Mae sawl ffatri sebon o hyd yn Nablus; ac yn 2021 roedd y cynnhyrch yn cael eu gwerthu yn bennaf i drigolion Palestiena a'r gwledydd Arabaidd, gyda rhai allforion masnach deg i Ewrop a thu hwnt. Dywedodd [9] Rheolwr Cyffredinol ffatri sy'n eiddo i deulu Touqan yn 2008:

Cyn 2000, arferai ein ffatri gynhyrchu 600 tunnell o sebon yn flynyddol. Oherwydd y rhwystrau corfforol ac economaidd sy'n ein hwynebu nawr oherwydd goresgyniad Israel - ac yn enwedig y checkpoints - rydym yn cynhyrchu llai na hanner y swm hwnnw heddiw.[2]

Yn ôl Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydlynu Materion Dyngarol, mae’r checkpoints a’r rhwystrau ffordd a sefydlwyd gan byddin Israel ledled y Lan Orllewinol wedi creu problemau enfawr wrth gludo cyflenwadau a deunydd i’r ffatrïoedd ac oddi yno yn ogystal â’i gwneud yn anodd i weithwyr fynd o'r ffatrïoedd ac o'r cartrefi i'r ffatrïoedd.[2] Fodd bynnag, mae sebon Nabulsi yn dal i gael ei werthu'n eang yn Nablus a'r Lan Orllewinol. Caiff hefyd ei allforio i ddinasoedd yr Iorddonen, Kuwait, ac dinasoedd Arabaidd yn Israel, fel Nasareth.[2][10]

Caiff y diwydiant sebon ei ystyried yn agwedd bwysig ar dreftadaeth ddiwylliannol Nablus, lle mae cadwraeth y diwydiant gwneud sebon wedi bod yn ganolbwynt i sawl prosiect lleol, gan gynnwys adfer a throsi hen ffatri sebon Arafat yn Ganolfan Cyfoethogi Treftadaeth Ddiwylliannol. Mae gan y ganolfan gyfleusterau ymchwil ac arddangos ac mae'n cynnwys ffatri sebon fodel fach sy'n gwneud sebon Nabulsi gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Mae Project Hope a sefydliadau anllywodraethol lleol eraill yn marchnata'r sebon yn y Gorllewin i godi arian ar gyfer eu prosiectau cymunedol eraill.[2]

Proses gynhyrchu[golygu | golygu cod]

Fel sebon Castile, prif gynhwysion sebon Nabulsi yw olew o'r olewydd gwyryfol, dŵr, a -*sodiwm alcalïaidd. Gwneir y cyfansoddyn trwy gymysgu lludw y planhigyn barila (qilw), sy'n tyfu ar hyd glannau Afon Iorddonen, gyda chalch (sheed) a gyflenwir yn lleol. Yna caiff y sodiwm ei gynhesu â dŵr ac olew'r olewydd mewn casgenni copr mawr dros byllau eplesu. Mae hydoddiant dŵr a sodiwm yn dod yn fwyfwy dwys mewn cyfres o 40 cylch sy'n cael eu hailadrodd dros wyth diwrnod. Yn ystod yr amser hwnnw, defnyddir teclyn pren siâp rhwyf a elwir yn dukshab i droi'r sebon hylif yn barhaus. Yna caiff y sebon hylif ei wasgaru mewn fframiau pren i galedu. Ar ôl iddo galedu, caiff ei dorri i mewn i siâp ciwb clasurol sebon Nabulsi a'i stampio â sêl nod masnach y cwmni. Yna mae'r ciwbiau sebon yn mynd trwy broses sychu a all bara rhwng tri mis a blwyddyn ac sy'n cynnwys eu pentyrru mewn strwythurau uchel i'r nenfwd, sy'n debyg i gonau gyda llefydd gwag yn y caol, sy'n caniatáu i'r aer symud o gwmpas y darnau sebon.[11]

Mae'r cynnyrch gorffenedig o liw ifori ac nid oes ganddo lawer o arogl. Ni ddefnyddir persawr byth mewn sebon Nabulsi. Cyn gadael y ffatri, mae'r ciwbiau unigol sydd i'w gwerthu'n lleol yn cael eu lapio â llaw mewn papur sydd wedi'i gwyro ar un ochr. Mae ciwbiau sydd i fod i gael eu hallforio yn cael eu gadael heb eu lapio ac fel arfer yn cael eu hanfon mewn sachau stiff i'w hamddiffyn rhag difrod.[11]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Palestinian Industries". Piefza.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-14. Cyrchwyd 2008-03-28.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Michael Phillips (March 11, 2008). "Nablus' olive oil soap: a Palestinian tradition lives on". Institute for Middle East Understanding (IMEU). Cyrchwyd 2008-03-27.
  3. "Craft Traditions of Palestine". Sunbula. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 21, 2008. Cyrchwyd 2008-04-18.
  4. Krämer, 2008, p. 50.
  5. Philipp and Schäbler, 1998, p. 284.
  6. Doumani, 1995, Rediscovering Palestine
  7. "Nablus Soap: Cleaning Middle Eastern Ears for Centuries". Suburban Emergency Management Project. September 20, 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-26. Cyrchwyd 2008-03-27.
  8. Le Strange, 1890, p. 513
  9. Wiles, Rich (8 April 2016). "Crafting traditional olive oil soap in Palestine". Cyrchwyd 20 December 2016.
  10. "Simple Pleasures". Al-Ahram Weekly. 8–14 June 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 May 2008. Cyrchwyd 2008-03-27.
  11. 11.0 11.1 Rawan Shakaa (March 2007). "Natural ... Traditional ... Chunky!". This Week in Palestine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-07. Cyrchwyd 2008-03-27.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato