Sbectrwm awtistiaeth

Oddi ar Wicipedia
Sbectrwm awtistiaeth
Mae pentyrru gwrthrychau (ee caniau bwyd) neu leinio gwrthrychau'n daclus, neu mewn trefn, a hynny dro ar ôl tro, yn gysylltiedig a'r sbectrwm awtistiaeth.
Enghraifft o'r canlynolanhwylder niwroddatblygol, anabledd, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder datblygiadol hydreiddiol Edit this on Wikidata

Mae sbectrwm awtistiaeth yn derm ymbarél sy’n cwmpasu ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol y cyfeirir atynt fel anhwylder ar y sbectrwm awtistig (neu yn Saesneg, autism spectrum disorder; ASD). Diffinnir y gair sbectrwm yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol i gwmpasu grŵp ehangach o gyflyrau a gwahaniaethau yn y math o symptomau a'u difrifoldeb, tuedd a ddatblygwyd yn y 1980au;[1][2] mae term arall, cyflyrau sbectrwm awtistiaeth wedi'i ddefnyddio gan rai i osgoi negyddiaeth canfyddedig sy'n gysylltiedig â'r gair anhwylder.[3][4]

Mae syndrom Asperger wedi'i gynnwys yn y term anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae'r 11eg Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-11), a ryddhawyd yn Ionawr 2021,[5] yn nodi diffygion megis gallu'r unigolyn i ddechrau sgwrsio ac ymddygiad cyfyngedig neu ailadroddus sy'n anarferol i oedran neu sefyllfa'r unigolyn. Er bod y diffygion hyn yn gysylltiedig â phlentyndod cynnar, gall y symptomau ymddangos yn hwyrach, ond gyda mymryn mwy o ryngweithio cymdeithasol. Gall diffygion achosi rhwystrau mewn sefyllfaoedd personol, teuluol, cymdeithasol, addysgol a galwedigaethol; mae'r rhai sy'n cael diagnosis o ASD yn amrywio o'r annibynnol a'r dawnus i'r rhai hynod heriol ac anghenus sydd angen ymyrraeth a chymorth hirdymor.[6][7][8][9] Yn gysylltiedig ag ASD mae'r ffenoteip awtistiaeth eang (BAP), lle mae gan unigolion rai o symptomau ASD, ond nifer annigonol neu ddwysedd symptomau i gyfiawnhau diagnosis ASD; Mae BAP yn arbennig o gyffredin ymhlith perthnasau-gwaed agos unigolion ag ASD.[10]

Gellir canfod symptomau cyn bod y plenty yn ddwyflwydd oed a gall ymarferwyr profiadol roi diagnosis dibynadwy erbyn yr oedran hwnnw. Fodd bynnag, efallai na fydd diagnosis yn digwydd tan lawer hŷn: pan fyddant yn oedolion. Gall arwyddion person gydag ASD gynnwys:

  • ymddygiadau penodol neu ailadroddus,
  • sensitifrwydd uchel i ddeunyddiau,
  • cynwrf gan newid trefn,
  • ymddangos fel petaent yn dangos llai o ddiddordeb mewn eraill,
  • osgoi cyswllt llygad a chyfyngiadau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chyda chyfathrebu llafar.

Pan ddaw rhyngweithio cymdeithasol yn bwysicach, ac os yw'r cyflwr wedi'i anwybyddu, yna ceir allgáu cymdeithasol (yr unigolyn yn cael ei anwybyddu, neu'n ynysig) ac maent yn fwy tebygol o fod â chyflyrau meddyliol a chorfforol sy'n cydfodoli.[11][12] Gall problemau hirdymor gynnwys anawsterau mewn bywyd bob dydd megis rheoli amserlenni, gorsensitifrwydd (ee i fwydydd, sŵn, gwead ffabrig), cychwyn a chynnal perthynas a chynnal swydd.[13][14]

Mae achos sbectrwm awtistiaeth yn parhau i fod yn ansicr. Ceir astudiaethau genetig a niwrowyddonol lle nodir patrymau risg, ond heb fawr ddim sydd o fudd ymarferol ar hyn o bryd.[15][16] Mae ymchwil ar efeilliaid yn dangos mwy o debygolrwydd o etifeddu'r cyflwr dros ffactorau amgylcheddol, ond ni wyddus pam. Mae astudiaethau sy'n cymharu data o sawl gwlad hefyd yn nodi cysylltiad genetig.[17][18][19] Gall ffactorau risg gynnwys hanes teuluol o ASD, bod â rhiant hŷn, rhai cyflyrau genetig a rhai cyffuriau a ragnodwyd (hy a roed ar bresgripsiwn) yn ystod beichiogrwydd.[20][21][22][23][24]

Mae diagnosis yn seiliedig ar arsylwi ymddygiad a datblygiad. Mae'n bosibl bod llawer, yn enwedig merched a'r rhai sydd â sgiliau llafar da, wedi cael diagnosis anghywir o gyflyrau eraill. Gall asesu plant gynnwys: gofalwyr, y plentyn os yw’n alluog, meddygon a thîm craidd o weithwyr proffesiynol gan gynnwys pediatregwyr, seiciatryddion plant, therapyddion lleferydd ac iaith a seicolegwyr clinigol neu addysgol.[25][26][27] Ar gyfer oedolion, mae clinigwyr yn nodi hanes niwroddatblygiadol, ymddygiad, anawsterau cyfathrebu, diddordebau cyfyngedig a phroblemau mewn addysg, cyflogaeth a pherthynas cymdeithasol. Gellir asesu ymddygiad heriol drwy ddadansoddiad swyddogaethol i nodi'r sbardunau sy'n ei achosi.[28]

Ystyrir sbectrwm awtistiaeth yn gyflwr gydol-oes heb unrhyw brawf na gwellhad syml.[29][30] Ychydig iawn o'r gwahanol driniaethau sydd wedi'u gwerthuso'n wyddonol ac yn annibynnol. Ond gellir cefnogi'r unigolyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys: addysgu sgiliau cymdeithasol ac ymddygiadol, monitro, cynnwys amodau sy'n cydfodoli, ac arweiniad i ofalwyr, teulu, addysgwyr a chyflogwyr.[31] Nid oes meddyginiaeth benodol ar gyfer ASD; gellir rhagnodi cyffuriau ar gyfer symptomau fel gorbryder ond mae risgiau sylweddol. Canfu astudiaeth yn 2019[32] fod rheoli ymddygiad heriol yn gyffredinol o ansawdd isel, heb fawr o gefnogaeth i ddefnydd hirdymor o gyffuriau seicotropig, a phryderon am eu presgreibio'n amhriodol.[33][34] Credir fod ymchwil genetig wedi gwella dealltwriaeth o lwybrau moleciwlaidd mewn ASD ac mae ymchwil mewn anifeiliaid wedi tynnu sylw at wrthdroadwyedd ffenoteipiau, ond dim ond megis dechrau mae'r astudiaethau hyn.[35]

Mae nifer yr achosion o ASD, yn fyd-eang yn amrywio, ac mae mynediad, ymchwil, casglu data, offer asesu, cyflawnder cofnodion, a chwmpas daearyddol, yn ogystal â gwahaniaethau diwylliannol a chyllid yn effeithio arnynt, heb lawer o gysondeb.[36][37][38] Daw'r rhan fwyaf o'r data o wledydd incwm uchel; mae prinder data o Affrica[39][40] a De America.[41] Dangosodd astudiaeth yn 2019 o blant yn Nenmarc, y Ffindir, Gwlad yr Iâ a Ffrainc raddfa o 1.26%, 0.77%, 3.13% a (hyd at) 0.73% yn Ffrainc gydag ASD yn y drefn honno. [42] Roedd gan UDA (2016) raddfa cymedrig o 1.9% (3.0% o fechgyn a 0.7% o ferched)[36] a Chanada (yn 2018) gyda 1.5% (2.39% o fechgyn a 0.6% o ferched).[43] Dangosodd amcangyfrifon Gwyddelig (yn 2018) fod gan 1.5% ASD, yn debyg i Gymru, Norwy a'r Eidal ond yn is na De Corea ar 2.64%.[44] Rhoddodd meta-ddadansoddiad o Tsieina (2016) gymedr isel o 0.39%, o bosibl oherwydd gwahanol offer sgrinio.[45] Mae cynnydd ymddangosiadol yn nifer yr achosion o ASD wedi'i briodoli i newidiadau mewn arferion o fesur ac adrodd.[46][47] Mae gwrywod yn cael diagnosis o ASD tua phedair gwaith yn amlach na menywod.[48][49] Ni wyddus pam, gydag awgrymiadau’n cynnwys lefel testosterone uwch yn y groth, cyflwyniad gwahanol o symptomau mewn merched (gan arwain at gamddiagnosis) neu ragfarn rhywedd yn unig.[50][51]

Mae grwpiau eiriolaeth wedi dod i'r amlwg, rhai fel rhan o'r mudiad hawliau awtistiaeth, gan gynnig cymorth a herio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.[52][53][54] Mae'r grwpiau'n cwmpasu'r rhai o blaid neu yn erbyn triniaeth cyffuriau, ymchwil biogenetig, therapi ymddygiad, newid addysgol a chymdeithasol neu gredoau am docsinau-amgylcheddol. Mae termau fel niwroamrywiaeth (neurodiversity) a niwro -nodweddiadol (neurotypical) wedi'u poblogeiddio a'u defnyddio weithiau mewn llenyddiaeth feddygol. Mae beirniaid, gan gynnwys y rhai ar y sbectrwm, wedi cwyno am wreiddiau barn rhai grwpiau. [53] [55] [56] [57] Yn y broses hon, datgelwyd anghytundebau sylweddol yn y dehongliad o ASD gan arbenigwyr o wahanol wledydd, a rhai'n galw'r newidiadau diagnostig ers 2000 yn "ffenomen Americanaidd".[52]

Arwyddion a symptomau[golygu | golygu cod]

Mae clinigwyr yn ystyried asesiad ar gyfer ASD pan fydd claf yn dangos:

  • anawsterau rheolaidd mewn rhyngweithio cymdeithasol neu gyfathrebu
  • ymddygiadau cyfyngedig neu ailadroddus, a elwir yn aml yn "stimming"
  • gwrthwynebiad i newidiadau neu fuddiannau cyfyngedig

Fel arfer caiff y nodweddion hyn eu hasesu gyda’r canlynol, pan fo’n briodol:

  • problemau o ran cael neu gynnal cyflogaeth neu addysg
  • anawsterau wrth gychwyn neu gynnal perthynas gydag unigolion neu o fewn cymdeithas
  • cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl neu anabledd dysgu
  • hanes o gyflyrau niwroddatblygiadol (gan gynnwys anableddau dysgu ac ADHD ) neu gyflyrau iechyd meddwl.[29][58]

Mae llawer o arwyddion yn gysylltiedig ag ASD, gan gynnwys:[59]<[30]

Rhai arwyddion sy'n gysylltiedig ag ASD
  • dim neu ychydig iawn o iaith-plentyn ("ma-ma-ma-mw" ayb)
  • ddim yn pwyntio i ddangos diddordeb neu ddim yn dangos diddordeb pan fydd rhywbeth yn cael ei nodi
  • sgiliau iaith cyfyngedig e.e. cael llai o eirfa na chyfoedion neu anhawster mynegi eu hunain mewn geiriau
  • wedi lleihau diddordeb mewn plant eraill neu ofalwyr, o bosibl gyda mwy o ddiddordeb mewn gwrthrychau
  • cael trafferth deall teimladau eraill neu siarad am eu teimladau eu hunain
  • dangos diddordeb mewn eraill, ond ddim yn gwybod sut i chwarae gyda nhw nac uniaethu â nhw
  • osgoi chwarae gemau smalio
  • defnydd anarferol neu gyfyngedig o deganau
  • osgoi cyswllt llygad
  • eisiau bod ar eu pen eu hunain
  • mwy o sensitifrwydd i arogl, gwead, sain, blas neu olwg pethau
  • cael eu cynhyrfu gan newidiadau mewn trefn, o bosibl gyda thrafferth addasu i'r newidiadau hynny
  • osgoi cofleidio / cwts / hygs, ac eithrio pan fyddan nhw eu heisio
  • anhawster mynegi anghenion gan ddefnyddio geiriau neu weithredoedd bob dydd
  • ailadrodd geiriau neu ymadroddion, neu eu defnyddio yn lle iaith arferol
  • ailadrodd gweithredoedd dro ar ôl tro
  • gwneud symudiadau, ymadroddion, symudiadau neu ystumiau anarferol
  • hunan-niweidio

Yn ogystal, gall canran fechan o bobl ag ASD arddangos gallu nodedig, er enghraifft mewn mathemateg, cerddoriaeth neu waith atgynhyrchu artistig, y cyfeirir ato mewn achosion eithriadol fel syndrom savant.[60][61]

Cwrs datblygiadol[golygu | golygu cod]

Dywed y rhan fwyaf o rieni fod symptomau awtistiaeth yn dechrau yn ystod y flwyddyn gyntaf.[62][63] Mae dau gwrs datblygiadol posibl o ASD. Mae un cwrs datblygiad yn fwy graddol ei natur, lle mae rhieni yn adrodd am bryderon ynghylch datblygiad yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywyd a gwneir diagnosis tua 3-4 oed.  Mae rhai o arwyddion cynnar ASD yn y cwrs hwn yn cynnwys llai o edrych ar wynebau, methu â throi pan fydd enw'n cael ei alw, methu â dangos diddordebau trwy ddangos neu bwyntio, ac gohirio'r cyfnod o chwarae dychmygus.[64]

Mae ail gwrs o ddatblygiad yn cael ei nodweddu gan ddatblygiad normal neu bron yn normal cyn dechrau gam yn ôl (sef atchweliad, regression), neu golli sgiliau. Mae un patrwm o atchweliad yn digwydd yn y 15 mis cyntaf i 3 blynedd.[65][66] Mae rhai sy'n credu mai awtistiaeth sy'n dechrau'n gynnar yw awtistiaeth atchweliadol a gafodd ei adnabod yn hwyr. Cynhaliodd ymchwilwyr astudiaethau i bennu a yw awtistiaeth atchweliadol yn is-set amlwg o ASD. Dros y blynyddoedd, mae canlyniadau'r astudiaethau hyn wedi gwrth-ddweud ei gilydd. Creda rhai ymchwilwyr nad oes unrhyw dystiolaeth fod gwahaniaeth biolegol diffiniol rhwng awtistiaeth sy'n dechrau'n gynnar ag awtistiaeth atchweliadol.[67] Nodweddir patrwm arall, sef anhwylder dadelfennol plentyndod (childhood disintegrative disorder; diagnosis DSM-IV sydd bellach wedi’i gynnwys o dan ASD yn DSM-5), gan atchweliad ar ôl datblygiad normal yn y 3 i 4 blwyddyn cyntaf, neu hyd yn oed hyd at y 9 mlynedd cyntaf.[68]

Sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu[golygu | golygu cod]

Mae namau mewn sgiliau cymdeithasol yn cyflwyno llawer o heriau i unigolion awtistig. Gall diffygion mewn sgiliau cymdeithasol arwain at broblemau gyda chyfeillgarwch, perthynas rhamantus, bywyd bob dydd, a llwyddiant galwedigaethol.[69] Canfu un astudiaeth a archwiliodd ganlyniadau oedolion awtistig, o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, fod y rhai ag ASD yn llai tebygol o briodi, ond nid yw’n glir a oedd y canlyniad hwn oherwydd diffygion mewn sgiliau cymdeithasol neu nam deallusol, neu ryw reswm arall.[70]

Cyn 2013, ystyriwyd bod diffygion mewn swyddogaeth gymdeithasol a chyfathrebu yn ddau symptom ar wahân o awtistiaeth.[71] Mae'r meini prawf presennol ar gyfer diagnosis awtistiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion fod â diffygion mewn tri sgil cymdeithasol:

  1. dwyochredd cymdeithasol-emosiynol,
  2. cyfathrebu di-eiriau, a
  3. datblygu a chynnal perthynas.[11]

Sgiliau cymdeithasol[golygu | golygu cod]

Mae rhai o'r symptomau sy'n gysylltiedig â dwyochredd cymdeithasol yn cynnwys:

  • Diffyg rhannu diddordebau: mae’n well gan lawer o blant awtistig beidio â chwarae na rhyngweithio ag eraill.
  • Diffyg ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o feddyliau neu deimladau pobl eraill: gall plentyn ddod yn rhy agos at gyfoedion heb sylwi bod hyn yn eu gwneud yn anghyfforddus.
  • Ymddygiadau annodweddiadol wrth geisio sylw: gall plentyn wthio cyfoedion i gael sylw cyn dechrau sgwrs. [72]

Mae symptomau sy'n gysylltiedig â pherthynas yn cynnwys y canlynol:

  • Diffygion wrth ddatblygu, cynnal a deall perthynas.
  • Anawsterau addasu ymddygiad i gyd-fynd â chyd-destunau cymdeithasol.[73]

Sgiliau cyfathrebu[golygu | golygu cod]

Mae diffygion cyfathrebu yn deillio o broblemau gyda sgiliau cymdeithasol-emosiynol fel sylw ar y cyd a dwyochredd cymdeithasol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Asperger's syndrome: a clinical account". Psychological Medicine 11 (1): 115–129. Chwefror 1981. doi:10.1017/s0033291700053332. PMID 7208735. https://archive.org/details/sim_psychological-medicine_1981-02_11_1/page/115.
  2. "Lorna Wing obituary". www.theguardian.com. 22 Mehefin 2014. Cyrchwyd 25 Hydref 2021.
  3. "Subgrouping the autism "spectrum": reflections on DSM-5". PLOS Biology 11 (4): e1001544. April 2013. doi:10.1371/journal.pbio.1001544. PMC 3635864. PMID 23630456. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3635864.
  4. "What is Autistic Spectrum Disorder/Condition (ASD/C)?". psychiatry-uk.com. Cyrchwyd 25 Hydref 2021.
  5. "WHO releases new International Classification of Diseases (ICD 11)". www.who.int. Cyrchwyd 29 Hydref 2021.
  6. "Autism Spectrum Disorder". icd.who.int. Cyrchwyd 22 Hydref 2021.
  7. "What is Autism Spectrum Disorder?". www.cdc.gov. 25 Mawrth 2020. Cyrchwyd 24 Hydref 2021.
  8. American Psychiatric Association (2013). "Autism Spectrum Disorder. 299.00 (F84.0)". Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders, Fifth Edition (DSM-5). Arlington, VA: American Psychiatric Publishing. tt. 50–59. doi:10.1176/appi.books.9780890425596. ISBN 978-0-89042-559-6.
  9. "Brief report: DSM-5 "levels of support:" a comment on discrepant conceptualizations of severity in ASD". Journal of Autism and Developmental Disorders 44 (2): 471–476. Chwefror 2014. doi:10.1007/s10803-013-1882-z. PMC 3989992. PMID 23812664. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3989992.
  10. Losh, Molly; Adolphs, Ralph; Piven, Joseph (2011). Amaral, David; Geschwind, Daniel; Dawson, Geraldine (gol.). The Broad Autism Phenotype (yn Saesneg). Oxford University Press. tt. 457–476. doi:10.1093/med/9780195371826.003.0031. ISBN 978-0-19-537182-6. Cyrchwyd 2022-03-04.
  11. 11.0 11.1 American Psychiatric Association (2013). "Autism Spectrum Disorder. 299.00 (F84.0)". Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders, Fifth Edition (DSM-5). Arlington, VA: American Psychiatric Publishing. tt. 50–59. doi:10.1176/appi.books.9780890425596. ISBN 978-0-89042-559-6.American Psychiatric Association (2013). "Autism Spectrum Disorder. 299.00 (F84.0)". Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders, Fifth Edition (DSM-5). Arlington, VA: American Psychiatric Publishing. pp. 50–59. doi:10.1176/appi.books.9780890425596. hdl:2027.42/138395. ISBN 978-0-89042-559-6.
  12. CDC (13 Mawrth 2020). "Screening and Diagnosis | Autism Spectrum Disorder (ASD)". Centers for Disease Control and Prevention (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Medi 2020.
  13. "Autism spectrum disorder in adults: diagnosis and management". www.nice.org.uk. Cyrchwyd 24 Hydref 2021.
  14. Fundamentals of Abnormal Psychology. New York: Worth/Macmillan. 2019.
  15. "The genetic landscapes of autism spectrum disorders". Annual Review of Genomics and Human Genetics 14: 191–213. 2013. doi:10.1146/annurev-genom-091212-153431. PMID 23875794.
  16. "Autism spectrum disorder". Lancet 392 (10146): 508–520. Awst 2018. doi:10.1016/S0140-6736(18)31129-2. PMC 7398158. PMID 30078460. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7398158.
  17. "Heritability of autism spectrum disorders: a meta-analysis of twin studies". Journal of Child Psychology and Psychiatry, and Allied Disciplines 57 (5): 585–95. Mai 2016. doi:10.1111/jcpp.12499. PMC 4996332. PMID 26709141. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4996332.
  18. "Heritability of Autism Spectrum Disorder in a UK Population-Based Twin Sample". JAMA Psychiatry 72 (5): 415–23. Mai 2015. doi:10.1001/jamapsychiatry.2014.3028. PMC 4996332. PMID 26709141. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4996332.
  19. "Association of Genetic and Environmental Factors With Autism in a 5-Country Cohort". JAMA Psychiatry 76 (10): 1035–1043. 1 Hydref 2019. doi:10.1001/jamapsychiatry.2019.1411. PMC 6646998. PMID 31314057. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6646998.
  20. "Lessons learned from studying syndromic autism spectrum disorders". Nature Neuroscience 19 (11): 1408–1417. Hydref 2016. doi:10.1038/nn.4420. PMID 27786181.
  21. "Screening for autism spectrum disorders in children with Down syndrome: population prevalence and screening test characteristics". Journal of Developmental and Behavioral Pediatrics 31 (3): 181–191. Ebrill 2010. doi:10.1097/DBP.0b013e3181d5aa6d. PMC 4419691. PMID 20375732. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4419691.
  22. "Advanced parental age and the risk of autism spectrum disorder". American Journal of Epidemiology 168 (11): 1268–1276. Rhagfyr 2008. doi:10.1093/aje/kwn250. PMC 2638544. PMID 18945690. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2638544.
  23. "Perinatal and neonatal risk factors for autism: a comprehensive meta-analysis". Pediatrics 128 (2): 344–355. Awst 2011. doi:10.1542/peds.2010-1036. PMC 3387855. PMID 21746727. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3387855.
  24. Christensen, Jakob; Grønborg, Therese Koops; Sørensen, Merete Juul; Schendel, Diana; Parner, Erik Thorlund; Pedersen, Lars Henning; Vestergaard, Mogens (24 Ebrill 2013). "Prenatal Valproate Exposure and Risk of Autism Spectrum Disorders and Childhood Autism". JAMA (American Medical Association (AMA)) 309 (16): 1696. doi:10.1001/jama.2013.2270. ISSN 0098-7484. https://archive.org/details/sim_jama_2013-04-24_309_16/page/1696.
  25. "Autism spectrum disorder in under 19s: recognition, referral and diagnosis". www.nice.org.uk. Cyrchwyd 24 Hydref 2021.
  26. "Autism Spectrum Disorder". www.nimh.nih.gov. Cyrchwyd 24 Hydref 2020.
  27. "Autism spectrum disorder in adults: diagnosis and management". www.nice.org.uk. Cyrchwyd 24 Hydref 2021."Autism spectrum disorder in adults: diagnosis and management". www.nice.org.uk. Retrieved 24 Hydref 2021.
  28. "Autism spectrum disorder". Lancet 392 (10146): 508–520. Awst 2018. doi:10.1016/S0140-6736(18)31129-2. PMC 7398158. PMID 30078460. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7398158.Lord C, Elsabbagh M, Baird G, Veenstra-Vanderweele J (Awst 2018). "Autism spectrum disorder". Lancet. 392 (10146): 508–520. doi:10.1016/S0140-6736(18)31129-2. PMC 7398158. PMID 30078460. S2CID 51922565[dolen marw].
  29. 29.0 29.1 "Autism spectrum disorder in adults: diagnosis and management". www.nice.org.uk. Cyrchwyd 24Hydref 2021."Autism spectrum disorder in adults: diagnosis and management". www.nice.org.uk. Adalwyd 24 Hydref 2021
  30. 30.0 30.1 "What is Autism Spectrum Disorder?". www.cdc.gov. 25 Mawrth 2020. Cyrchwyd 24 Hydref 2021."What is Autism Spectrum Disorder?". www.cdc.gov. 25 Mawrth 2020. Adalwyd Hydref 2021.
  31. "What Are the Treatments for Autism?". Nichd.NIH.gov. 19 Ebrill 2021. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2021.
  32. Glover G., Williams R., Branford, D., Avery, R., Chauhan, U., Hoghton, M. and Bernard, S. Prescribing of psychotropic drugs to people with learning disabilities and/or autism by general practitioners in England. Public Health England. (2015)
  33. "Psychotropic drugs and people with learning disabilities or autism: introduction". www.gov.uk. Cyrchwyd 25 HydrefHydref 2021. Check date values in: |access-date= (help)
  34. "Pharmacological therapies for autism spectrum disorder: a review". P & T 40 (6): 389–397. Mehefin 2015. PMC 4450669. PMID 26045648. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4450669.
  35. "Lessons learned from studying syndromic autism spectrum disorders". Nature Neuroscience 19 (11): 1408–1417. Hydref 2016. doi:10.1038/nn.4420. PMID 27786181.Sztainberg Y, Zoghbi HY (Hydref 2016). "Lessons learned from studying syndromic autism spectrum disorders". Nature Neuroscience. 19 (11): 1408–1417. doi:10.1038/nn.4420. PMID 27786181. S2CID 3332899.
  36. 36.0 36.1 "Prevalence of Autism Spectrum Disorder Among Children Aged 8 Years - Autism and Developmental Disabilities Monitoring Network, 11 Sites, United States, 2016" (yn en-us). Morbidity and Mortality Weekly Report. Surveillance Summaries 69 (4): 1–12. Mawrth 2020. doi:10.15585/mmwr.ss6904a1. PMC 7119644. PMID 32214087. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7119644.
  37. "A comparison of autism prevalence trends in Denmark and Western Australia". Journal of Autism and Developmental Disorders 41 (12): 1601–1608. Rhagfyr 2011. doi:10.1007/s10803-011-1186-0. PMID 21311963.
  38. "Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness 30 (1): 76–96. Ionawr 2008. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID 18254834.
  39. "Autism Spectrum Disorders in Africa: Current Challenges in Identification, Assessment, and Treatment: A Report on the International Child Neurology Association Meeting on ASD in Africa, Ghana, April 3-5, 2014". Journal of Child Neurology 31 (8): 1018–1026. Gorffennaf 2016. doi:10.1177/0883073816635748. PMC 6858866. PMID 26979098. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6858866.
  40. "Why autism remains hidden in Africa". www.spectrumnews.org. 13 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 27 Hydref 2021.
  41. "Hablando del Autismo: Autism Coverage in South America". scholarship.rollins.edu. Cyrchwyd 29 Hydref 2021.Luengo, Silvia, "Hablando del Autismo: Autism Coverage in South America" (2018). Honors Program Theses. 73.
  42. Delobel-Ayoub, M.; Saemundsen, E.; Gissler, M.; Ego, A.; Moilanen, I.; Ebeling, H.; Rafnsson, V.; Klapouszczak, D. et al. (2019-12-07). "Prevalence of Autism Spectrum Disorder in 7–9-Year-Old Children in Denmark, Finland, France and Iceland: A Population-Based Registries Approach Within the ASDEU Project". Journal of Autism and Developmental Disorders (Springer Science and Business Media LLC) 50 (3): 949–959. doi:10.1007/s10803-019-04328-y. ISSN 0162-3257.
  43. "Autism Spectrum Disorder among Children and Youth in Canada 2018". www.canada.ca. 29 Mawrth 2018. Cyrchwyd 24 Hydref 2021.
  44. "Estimating Prevalence of Autism Spectrum Disorders (ASD) in the Irish Population: A review of data sources and epidemiological studies" (PDF). assets.gov.ie. Cyrchwyd 24 Hydref 2021.
  45. "The prevalence of autism spectrum disorders in China: a comprehensive meta-analysis". International Journal of Biological Sciences 14 (7): 717–725. 12 May 2018. doi:10.7150/ijbs.24063. PMC 6001678. PMID 29910682. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6001678.
  46. "Explaining the increase in the prevalence of autism spectrum disorders: the proportion attributable to changes in reporting practices". JAMA Pediatrics 169 (1): 56–62. Ionawr 2015. doi:10.1001/jamapediatrics.2014.1893. PMID 25365033.
  47. "Autism spectrum disorders in young children: effect of changes in diagnostic practices". International Journal of Epidemiology 38 (5): 1245–1254. Hydref 2009. doi:10.1093/ije/dyp260. PMID 19737795.
  48. Fundamentals of Abnormal Psychology. New York: Worth/Macmillan. 2019.Comer RJ, Comer JS (2019). Fundamentals of Abnormal Psychology. New York: Worth/Macmillan.
  49. "10 Facts about Autism Spectrum Disorder (ASD)". Early Childhood Development | ACF (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Tachwedd 2019.
  50. "Thousands of autistic girls and women 'going undiagnosed' due to gender bias". The Guardian (yn Saesneg). 14 Medi 2018. Cyrchwyd 14 Hydref 2021.
  51. "Study on 'extreme male brain' theory of autism draws critics". www.spectrumnews.org. 25 Awst 2014. Cyrchwyd 25 Hydref 2021.
  52. 52.0 52.1 "Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness 30 (1): 76–96. Ionawr 2008. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID 18254834.Chamak B (Ionawr 2008). "Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness. 30 (1): 76–96. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID 18254834.
  53. 53.0 53.1 "The Autism Rights Movement". nymag.com. Cyrchwyd 26 Hydref 2021.
  54. "Autism as a natural human variation: reflections on the claims of the neurodiversity movement". Health Care Analysis 20 (1): 20–30. Mawrth 2012. doi:10.1007/s10728-011-0169-9. PMID 21311979. http://urn.kb.se/resolve?urn=urn:nbn:se:liu:diva-72172.
  55. "Autism spectrum disorder: difference or disability?" (yn en). The Lancet Neurology 15 (11): 1126. 1 Hydref 2016. doi:10.1016/S1474-4422(16)30002-3. ISSN 1474-4422.
  56. "Fieldwork on Another Planet: Social Science Perspectives on the Autism Spectrum" (yn en). BioSocieties 3 (3): 325–341. 1 Medi2008. doi:10.1017/S1745855208006236. ISSN 1745-8560.
  57. "A medical condition or just a difference? The question roils autism community". Washington Post (yn Saesneg). 3 Mai 2019. ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 15 Hydref 2021.
  58. "About autism spectrum disorder (ASD)". www.canada.ca. 18 Ionawr 2016. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2021.
  59. "What are the signs and symptoms of ASD?". www.canada.ca. 18 Ionawr 2016. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2021.
  60. "[Neurobiological mechanisms of autistic savant and acquired savant]". Sheng Li Xue Bao 70 (2): 201–210. Ebrill 2018. PMID 29691585.
  61. "Savant syndrome has a distinct psychological profile in autism". Molecular Autism 9: 53. Hydref 2018. doi:10.1186/s13229-018-0237-1. PMC 6186137. PMID 30344992. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6186137.
  62. "Clinical assessment and management of toddlers with suspected autism spectrum disorder: insights from studies of high-risk infants". Pediatrics 123 (5): 1383–91. Mai 2009. doi:10.1542/peds.2008-1606. PMC 2833286. PMID 19403506. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2833286.
  63. "Follow-up of two-year-olds referred for possible autism". Journal of Child Psychology and Psychiatry, and Allied Disciplines 36 (8): 1365–82. Tachwedd 1995. doi:10.1111/j.1469-7610.1995.tb01669.x. PMID 8988272. https://archive.org/details/sim_journal-of-child-psychology-and-psychiatry-and-allied-disciplines_1995-11_36_8/page/1365.
  64. "Autistic spectrum disorders in preschool children". Canadian Family Physician 47 (10): 2037–42. Hydref 2001. PMC 2018435. PMID 11723598. http://www.cfp.ca/content/47/10/2037.abstract.
  65. "Autism spectrum disorders in young children". Child and Adolescent Psychiatric Clinics of North America 18 (3): 645–63. Gorffennaf 2009. doi:10.1016/j.chc.2009.02.002. PMC 3166636. PMID 19486843. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3166636.
  66. "Variation in early developmental course in autism and its relation with behavioral outcome at 3-4 years of age". Journal of Autism and Developmental Disorders 35 (3): 337–50. Mehefin 2005. doi:10.1007/s10803-005-3301-6. PMID 16119475. https://archive.org/details/sim_journal-of-autism-and-developmental-disorders_2005-06_35_3/page/337.
  67. "Regression in autistic spectrum disorders". Neuropsychology Review 18 (4): 305–319. Rhagfyr 2008. doi:10.1007/s11065-008-9073-y. PMID 18956241. https://archive.org/details/sim_neuropsychology-review_2008-12_18_4/page/305.
  68. "Autism spectrum disorder – childhood disintegrative disorder: MedlinePlus Medical Encyclopedia". medlineplus.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2020.
  69. "Outcomes in adults with Asperger syndrome". Focus on Autism and Other Developmental Disabilities 22 (2): 116–126. 2007. doi:10.1177/10883576070220020301.
  70. "Adults with autism spectrum disorders". Canadian Journal of Psychiatry 57 (5): 275–83. Mai 2012. doi:10.1177/070674371205700502. PMID 22546059.
  71. "Social Skills Deficits in Autism Spectrum Disorder: Potential Biological Origins and Progress in Developing Therapeutic Agents". CNS Drugs 32 (8): 713–734. Awst 2018. doi:10.1007/s40263-018-0556-y. PMC 6105175. PMID 30105528. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6105175.
  72. "Autism spectrum disorder: Clinical features". UpToDate. Cyrchwyd 22 Mawrth 2020.
  73. CDC (29 Mehefin 2020). "Diagnostic Criteria | Autism Spectrum Disorder (ASD)". Centers for Disease Control and Prevention (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Chwefror 2021.