Sandra Day O'Connor

Oddi ar Wicipedia
Sandra Day O'Connor
Yr Ustus Sandra Day O'Connor ym 1982.
Ganwyd26 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
El Paso, Texas Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
o gorddryswch, clefyd y system resbiradol Edit this on Wikidata
Phoenix Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Austin High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddAssociate Justice of the Supreme Court of the United States Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Margaret Brent Award, 48 Arizona Women, Women of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfreithwraig, barnwr a gwleidydd Americanaidd oedd Sandra Day O'Connor (26 Mawrth 19301 Rhagfyr 2023) a wasanaethodd yn un o ustusiaid Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau o 1981 i 2006, y fenyw gyntaf i eistedd ar fainc y llys.

Ganed Sandra Day yn El Paso, Texas, a chafodd ei magu ar fferm wartheg ger Duncan, Arizona. Aeth i Galiffornia i astudio ym Mhrifysgol Stanford yng Nghaliffornia, ac yno enillodd ei gradd baglor ym 1950 a'i gradd yn y gyfraith ym 1952. Priododd ag un o'i chyd-fyfyrwyr, John Jay O'Connor III (1930–2009), ar fferm ei theulu ychydig ddyddiau cyn y Nadolig ym 1952. Ni châi lwyddiant wrth chwilio am waith yn y sector preifat oherwydd ei rhyw, felly cychwynnodd ar ei gyrfa yn ddirprwy erlynydd sirol San Mateo County, Califfornia. Cafodd John ei alw i'r fyddin, fel aelod o Gorfflu'r Barnwr-Adfocad Cyffredinol, a symudant i Orllewin yr Almaen. Yno, o 1954 i 1957, gwasanaethodd Sandra yn gyfreithwraig sifil i'r fyddin.

Wedi iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau ac ymsefydlu ym Maricopa County, Arizona, cawsant dri mab, ac aeth Sandra yn gyfreithwraig breifat ym maestref Maryvale, ger Phoenix. Gwasanaethodd yn is-dwrnai cyffredinol Arizona o 1965 i 1969. Fel aelod o'r Blaid Weriniaethol, cafodd ei dewis gan Lywodraethwr Arizona i lenwi swydd wag yn y senedd daleithiol ym 1969, a phenderfynodd O'Connor i ymgyrchu am y sedd. Enillodd yr etholiadiau seneddol ym 1970 ac ym 1972, ac ym 1973 daeth O'Connor yn y fenyw gyntaf i wasanaethu yn Arweinydd y Mwyafrif mewn unrhyw un o seneddau taleithiol y wlad. Wedi dau dymor llawn yn Senedd Arizona, penderfynodd beidio ag ymgyrchu eto ym 1974. Trodd ei sylw yn ôl i fyd y gyfraith, a fe'i etholwyd yn farnwr y llys uwch ym Maricopa County ym 1975. Daliodd y swydd honno hyd at ei phenodiad i Lys Apêl Arizona, yn Phoenix, ym 1979.

Yng Ngorffennaf 1981, cafodd O'Connor ei henwebu gan Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i lenwi'r sedd wag ar fainc y Goruchaf Lys yn sgil ymddeol yr Ustus Potter Stewart. Cadarnhawyd yr enwebiad gan Senedd yr Unol Daleithiau heb yr un bleidlais yn ei herbyn, a thyngodd hi lw'r Goruchaf Lys ar 25 Medi 1981, dan weinyddiaeth y Prif Ustus Warren E. Burger. Byddai'n gwasanaethu ar y Goruchaf Lys am 25 mlynedd, dan arweinyddiaethau'r Prif Ustusiaid Burger (hyd at 1986), William Rehnquist (1986–2005), a John Roberts (2005–06). Yng nghyfnod Rehnquist, daeth O'Connor a'i chyd-ustus Anthony Kennedy, un arall a enwebwyd gan Reagan, i'r amlwg fel pleidleisiau gogwydd y llys, dau geidwadwr cymhedrol a fyddai'n aml yn troi'r fantol wrth ddyfarnu ar yr achosion o'u blaen. Daeth O'Connor yn nodedig am ei hagwedd bragmataidd tuag at y gyfraith, gan geisio penderfynu ar sail rhinweddau'r achos unigol yn hytrach nag unrhyw ideoleg gyfansoddiadol.[1]

Ymddeolodd O'Connor o'r Goruchaf Lys yn 2006, a dewisiodd yr Arlywydd George W. Bush geidwadwr arall, Samuel Alito, i'w holynu. Derbyniodd Fedal Rhyddid yr Arlywydd oddi ar yr Arlywydd Barack Obama yn 2009.[2] Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys yr hunangofiant Lazy B (2002) gyda'i brawd H. Alan Day, a'r llyfrau i blant Chico (2005) a Finding Susie (2009).[3] Cyhoeddodd O'Connor yn 2018 ei bod yn dioddef camau cyntaf dementia, a bu farw pum mlynedd yn ddiweddarach, yn Phoenix, yn 93 oed.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Sandra Day O’Connor, lawyer who became the first woman to sit on the US Supreme Court – obituary", The Daily Telegraph (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Rhagfyr 2023.
  2. (Saesneg) Sheryl Gay Stolberg, "Obama Gives Medal of Freedom to 16 Luminaries", The New York Times (12 Awst 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Rhagfyr 2023.
  3. (Saesneg) Sandra Day O'Connor. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2023.
  4. (Saesneg) Linda Greenhouse, "Sandra Day O’Connor, First Woman on the Supreme Court, Is Dead at 93", The New York Times (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Rhagfyr 2023.