Samuel Smith

Oddi ar Wicipedia
Samuel Smith
Ganwyd1836 Edit this on Wikidata
Dumfries a Galloway Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1906 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Samuel Smith (11 Ionawr 183629 Rhagfyr 1906) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Lerpwl o 1882 i 1885 ac Aelod Seneddol Sir y Fflint rhwng 1886 a 1906.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Smith yn fab hynaf James Smith, amaethwr o South Carleton, Borgue, Swydd Kirkcudbright (Dumfries and Galloway heddiw), yr Alban.

Cafodd ei addysgu yn Academi Brouge a Phrifysgol Caeredin, gyda'r bwriad o ymuno a'r weinidogaeth.

Ym 1864 priododd Melville, merch y Parch John Christionson o Biggar, Swydd Gaerhirfryn [1] bu iddynt un mab, James Gordon, bu farw ym 1898; sefydlodd Smith y Gordon Smith Institute for Seamen, yn Lerpwl er cof amdano.[2].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gan roi'r gorau i'w fwriad o fynd i'r weinidogaeth aeth Smith i weithio fel prentis i gwmni broceri cotwm Logan & Co yn Lerpwl tua 1854, gan godi i fod yn awdurdod ar safon cotwm ac yn arbenigwr yn y busnes o'i brynu a'i werthu. O ganlyniad i Ryfel Cartref America bu anawsterau mewnforio cotwm o'r UDA i'w drin ym melinau Caerhirfryn ond fe lwyddodd Smith i greu ffynhonnell o gotwm newydd trwy sicrhau cychwyniad nifer o blanhigfeydd cotwm newydd yn yr India.[3]

Ym 1864 sefydlodd Smith a James, ei frawd, eu cwmni brocer cotwm eu hunain yn Lerpwl, daeth hefyd yn bartner mewn cwmni cotwm o Glasgow, gan ennill ffortiwn fawr iddo'i hyn.

Gwaith dyngarol[golygu | golygu cod]

Roedd Smith yn gefnogwr brwd i achos ledaenu addysg ymysg plant y tlodion, yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas i Atal Creulondeb i Blant (NSPCC bellach) ac yn un o'r ymgyrchwyr cyntaf yn erbyn bywddifyniad (arbrofi ar anifeiliaid byw S: vivisection); roedd hefyd yn un o'r dynion cyntaf i dynnu sylw at anghyfiawnder deddfau oedd yn amddiffyn dynion rhag cael eu herlyn am drais yn y cartref yn erbyn eu gwragedd a'u plant.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1878 cafodd Smith ei ethol fel aelod Annibynnol o gyngor tref Lerpwl, gan gael ei ail ethol ym 1882, gan annog y cyngor i roi sylw arbennig i achos cyfradd marwolaethau isel y dref. Ym 1882 cafodd, hefyd, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf fel un o dri AS etholaeth Lerpwl mewn isetholiad a achoswyd gan ddyrchafiad un o'r cyn aelodau Ceidwadol i Dy'r Arglwyddi. Diddymwyd sedd Lerpwl ym 1885 a chredwyd naw sedd un aelod yn ei le. Safodd Smith yn aflwyddiannus yn etholaeth newydd Abercromby[4].

Wedi colli ei le yn y senedd aeth ar un o'i deithiau mynych i'r India, tra yno fe glywodd am isetholiad oedd i'w cynnal yn Sir y Fflint a achoswyd trwy ddyrchafiad Richard Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge i'r bendefigaeth, cafodd Smith ei enwebu fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol a thrwy ymgyrch a gynhaliodd trwy yrru telegramau o'r India llwyddodd i gael ei ethol gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1906.

Cafodd ei godi i'r Cyfrin Gyngor ym Mis Tachwedd 1906.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cofeb Samuel Smith, Sefton Park, Lerpwl

Ar 23in Tachwedd arweiniodd Smith ddirprwyaeth i'r India er mwyn ymweld â Chyngres Cenedlaethol India a 'r Mudiad Dirwest Eing-Indiaidd [6]; tra ar y daith bu farw o drawiad ar y galon yn ninas Calcuta.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "EX WELSH MPS DEATH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-12-31. Cyrchwyd 2015-07-03.
  2. Mersyside Maritime Museum Gordon Smith Institute [1] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
  3. "MR SAMUEL SMITH - The Chester Courant and Advertiser for North Wales". James Albert Birchall. 1907-01-02. Cyrchwyd 2015-07-03.
  4. "MRSAMUELSMITH - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1907-01-05. Cyrchwyd 2015-07-03.
  5. Y Goleuad 14 Tachwedd 1906 Y Gwir Anrhydeddus Samuel Smith [2] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
  6. Yr Herald Gymraeg 20 Tachwedd 1906 Y Gogledd [3] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
  7. Evening Express 31 Rhagfyr 1906 Ex Welsh MP's Death [4] adalwyd 3 Gorffennaf 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Is Iarll Sandon
Edward Whitley
Claud Hamilton
Aelod Seneddol Lerpwl
18821885
gyda: Edward Whitley
Claud Hamilton
Olynydd:
Dileu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
Richard Grosvener
Aelod Seneddol Sir y Fflint
18861906
Olynydd:
John Herbert Lewis