Richard Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge
The Lord Stalbridge.jpg
Ganwyd 28 Ionawr 1837 Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Mai 1912 Edit this on Wikidata (75 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Tad Richard Grosvenor, 2nd Marquess of Westminster Edit this on Wikidata

Roedd Richard de Aquila Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge (28 Ionawr 183718 Mai 1912), a adweinid fel yr Arglwydd Richard Grosvenor rhwng 1845 a 1886, yn wleidydd a gŵr busnes. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel Rhyddfrydwr yn gwasanaethu yn llywodraeth William Ewart Gladstone fel Is-siambrlen yr Aelwyd rhwng 1872 a 1874 ac yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Trysorlys rhwng 1880 a 1885. Fodd bynnag, cafodd gweryl gyda Gladstone dros Ymreolaeth i'r Iwerddon ym 1886 ac ymunodd â'r Blaid Unoliaethol Ryddfrydol.[1]

Ieuenctid[golygu | golygu cod y dudalen]

Richard Grosvenor yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt

Roedd yr Arglwydd Richard yn drydedd a'r ieuengaf o feibion Richard Grosvenor, 2il Ardalydd Westminster a'r Foneddiges Elizabeth Mary, merch George Leveson-Gower , Dug Sutherland. Roedd Hugh Grosvenor, Dug 1af Westminster yn frawd hŷn iddo [2]. Cafodd ei addysgu yn Ysgol San Steffan a Choleg y Drindod, Caergrawnt[3]. Yn ystod ieuenctid anturus aeth ar daith trwy Gorllewin Gwyllt yr Unol Daleithiau ac roedd yn bresennol ystod Anrhaith Palas yr Haf ym Mheicin yn ystod yr Ail Ryfel Opiwm.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Grosvenor yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir y Fflint o 1861 hyd 1886[4]. Ym 1872 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor a benodwyd yn Is-siambrlen yr Aelwyd gan y Brif Weinidog William Ewart Gladstone, swydd y bu ynddi hyd i'r llywodraeth syrthio ym 1874. Pan ddychwelodd y Rhyddfrydwyr i rym ym 1880 fe gafodd ei benodi gan Gladstone yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Trysorlys. Arhosodd yn y swydd honno hyd 1885. Roedd yn anghytuno gyda Gladstone dros achos Ymreolaeth i'r Iwerddon ac ymddiswyddodd fel Aelod Seneddol mewn protest ym 1886[5]. Ar adeg ei ymddiswyddiad cafodd ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi gan ddwyn y teitl y Barwn Stalbridge, o Stalbridge yn Dorset. Daeth yn arweinydd y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi.

Bywyd y tu allan i'r Senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 15 Ebrill 1882, penodwyd Grosvenor yn gyrnol anrhydeddus o'r Dorset Yeomanry, swydd y bu ynddi hyd 1895. Ym 1891, penodwyd ef yn gadeirydd Rheilffyrdd Llundain a'r Gogledd Orllewin, cwmni y bu'n gyfarwyddwr arni ers 1870. Ym 1867 ef oedd pennaeth y pwyllgor rhyngwladol i hyrwyddo'r Twnnel y Sianel, a oedd yn ystyried adeiladu rheilffordd o dan Fôr Udd i gysylltu Prydain a Ffrainc blynyddoedd maith cyn i'r fath brosiect cael ei wireddu.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Arglwydd Stalbridge ddwywaith[6]. Ei wraig gyntaf oedd yr Anrh. Beatrice Charlotte Elizabeth Vesey, merch Thomas Vesey, 3ydd Is-iarll de Vesci, bu eu priodas ar 5 Tachwedd 1874. Bu hi farw ym 1876 yn fuan ar ôl genedigaeth eu hunig blentyn.

Priododd Eleanor Frances Beatrice Stubber (bu f. 1911) ei ail wraig ar 3 Ebrill 1879, ganwyd iddynt bump o blant.

Bu farw'r Arglwyddes Stalbridge ym mis Mawrth 1911, blwyddyn cyn marwolaeth ei gŵr ym mis Mai 1912. Olynwyd ef yn y Farwniaeth gan Hugh ei fab hynaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.thepeerage.com/p969.htm adalwyd Tachwedd 30 2014
  2. http://dx.doi.org/10.1093/ref:odnb/33593 Richard Grosvenor yn yr Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 30 Tach 2014
  3. "Grosvenor, Lord Richard de Aquila; afterwards Baron Stalbridge (GRSR855R)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt. 
  4. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  5. http://www.dorsetlife.co.uk/2008/03/the-fall-of-the-house-of-stalbridge/ adalwyd 30 Tach 2014
  6. https://red1st.com/axholme/getperson.php?personID=I7739105694&tree=Axholme adalwyd 30 Tach 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Lloyd-Mostyn
Aelod Seneddol dros Sir y fflint
18611886
Olynydd:
Samuel Smith