Neidio i'r cynnwys

Rwj Raj

Oddi ar Wicipedia
Rwj Raj
Dyddiad cynharafRhagfyr 1984
AwdurGari Williams, Gruffudd Jones a Mari Gwilym
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaPanto 85
Pwncpantomeim Cymraeg
Daeth i benChwefror 1985
GenrePanto Cymraeg
CyfansoddwrDilwyn Roberts

Pantomeim a grëwyd gan Gruffudd Jones, Mari Gwilym, Gari Williams a Dilwyn Roberts ym 1984, oedd Rwj Raj. Llwyfannwyd y panto gan y cwmni newydd Panto 85, yn bwrpasol ar gyfer creu, cynhyrchu a cyflwyno'r sioe ar gyfer plant Cymru, dros Aeaf 1984 a Gwanwyn 1985.[1]

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Hanes Neigwl y Dewin Dwl a'i wraig Neli sydd yn y stori, yn cwffio yn erbyn y Wrach Las a'i chymar Tony Twyll.

"Gobeithiwn y gwnewch fwynhau'r awr neu ddwy nesaf yn ein cwmni yng ngwlad Rwj Raj" ydi'r croeso yn Rhaglen y cwmni;[2] "Cewch chwerthin a mwynhau gyda Neigwl a Neli, Twm-Dic a Mari, a Mwynig y fuwch. Gyda'ch help chi byddant yn ceisio trechu'r Wrach Las a'i gwas Tony Twyll, ac yn cynorthwyo Hedd a Haf ddod a llewyrch a llwyddiant unwaith eto i Wlad Ffozz."[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben bu'n rhaid sefydlu cwmni dros-dro yn 1984, i greu a llwyfannu pantomeim blynyddol. Crëwyd y cwmni Panto 85 yn arbennig ar gyfer creu y panto Rwj Raj. Galwyd cyfarfod ym Mangor, a daeth Gruffydd Jones, Mari Gwilym, Gari Williams, Dilwyn Roberts, Susan Waters a Gwynfryn Davies at ei gilydd i greu'r sioe.

Noda rhaglen y cynhyrchiad y geiriau canlynol : "Fel cwmni dros dro, sydd wedi dod at ei gilydd i gyflwyno'r Pantomeim eleni, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth. Dymunwn flwyddyn newydd dda i bawb ohonoch a gobeithiwn y gwnewch fwynhau'r awr neu ddwy nesaf yn ein cwmni yng ngwlad Rwj Raj"

Gan fod y cwmni yn llwyfannu'r cynhyrchiad dros gyfnod y Nadolig ym 1984, rhaid cofio'r cyd-destun ehangach. Ym 1984, tynnwyd sylw'r Byd at y newyn erchyll yn Ethiopia. Dyma gyfnod rhyddhau'r record codi arian Do They Know It's Christmas?. Does ryfedd felly bod y cwmni wedi nodi'r canlynol : " Erbyn i chi weld y perfformiad hwn byddwch wedi cael Nadolig llawen, llond bol o dwrci a mins peis a chael lot fawr o anrhegion oddi wrth eich teulu a'ch ffrindiau. Mae miloedd ar filoedd o blant mewn gwledydd tlawd nad ydynt erioed wedi cael cyfle i fwynhau Nadolig fel ydan ni. Hoffai Cwmni Panto 85 ddiolch i chi am brynu'r rhaglen hon. Byddwn yn cyfrannu 5c am bob rhaglen a werthir trwy gydol y daith i Gronfa Achub y Plant."[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Neigwl y Dewin Dwl
  • Neli, ei wraig
  • Twm-Dic, ffarmwr
  • Mari'r Nyrs
  • Y Wrach Las
  • Tony Twyll
  • Hedd, negesydd o wlad Fozz
  • Haf, ei gariad
  • Mwynig - y fuwch

Y cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]
Llun o'r panto Rwj Raj 1985 gan Martin Morley
Llun o'r panto Rwj Raj 1985 gan y cynllunydd Martin Morley.
Cynllun gwisgoedd Martin Morley o'r panto Rwj Raj 1985

Llwyfannwyd y pantomeim gan Panto 85 ym 1984/85. Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts; cerddorion Nigel Taylor, Alec Wares a Mark Williams; cynllunydd Martin Morley; goleuo Peter Zygadlo; cast:

Dechreuwyd ymarfer y panto ar ddiwedd mis Tachwedd 1984. "Aeth yr ymarferion yn dda," meddai'r cyfarwyddwr cerdd a chyd-gyfansoddwr y sioe, Dilwyn Roberts; "a datblygodd yr actorion eu cymeriadau a dysgu'r caneuon yn sydyn iawn. Cynhaliwyd y rhediad technegol cyn y Nadolig, ac agorwyd y sioe ar 27 Rhagfyr".[1]

"Dwi'n cael fy synnu pa mor sydyn mae ymateb y gynulledifa yn ei gael ar berfformiad y panto. Mae ymateb y gynulleidfa yn tynnu rhywbeth ychwanegol o berfformiad yr actor. Ac nid yn unig yr unigolyn ond y berthynas rhwng yr actorion. Digwyddodd hyn efo Emyr [Gari Williams] a John [Pierce Jones]. Dros gyfnod y daith, datblygodd eu hamseru comedïol a'u hadnabyddiaeth yn fawr, ac roedd hi'n bleser eu gwylio yn cyd-weithio gyda'r gynulleidfa. Felly hefyd gyda'r berthynas rhwng Wyn Bowen Harris a Siân Wheldon [fel y dihirod]"[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Emyr and Elwyn's Story: Ep 06". Emyr and Elwyn's Story: Ep 06 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
  2. 2.0 2.1 2.2 Rhaglen Rwj Raj. 1984.