Gruffudd Jones (cyfarwyddwr)
| Gruffudd Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Gruff Jones |
| Ganwyd | Gruffudd Jones |
| Bu farw | 2013 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | Cyfarwyddwr theatr a dramodydd |
| Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws a Hwyl a Fflag |
Cyfarwyddwr theatr a dramodydd oedd Gruffudd Jones neu Gruffydd Jones (marw 2013). Bu'n ran blaenllaw o sefydlu Theatr Bara Caws ac yn cyfarwyddo sawl cynhyrchiad i Gwmni Theatr Cymru a Hwyl A Fflag.
Bu farw yn 2013 wedi cyfnod o salwch.[1] Dywedodd Linda Brown o Theatr Bara Caws: “Mae pawb yma yn drist iawn ar ôl clywed y newyddion am Gruff. Roedd ei gyfraniad i’r theatr a’r ddrama Gymraeg yn amhrisiadwy. Bu’n gweithio’n agos iawn â’r cwmni ar hyd y blynyddoedd a bydd colled enfawr ar ei ôl." Dywedodd Linda Brown fod nifer o actorion wedi ffonio’r cwmni yn talu teyrngedau i Gruffydd Jones a bod hyn ynddo’i hun yn adlewyrchu pa mor boblogaidd oedd. Ychwanegodd: “Roeddwn yn ymwybodol nad oedd wedi bod yn dda ers tro ond pan glywais y newyddion, roedd yn sioc fawr. Roedd yn ddyn annwyl yn ogystal â bod yn hynod alluog.”[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]
Theatr
[golygu | golygu cod]- Cymerwch, Bwytewch (1977) Cwmni Theatr Cymru cyfarwyddwr
- Jac Y Jyngl (1977/78) Cwmni Theatr Cymru cyfarwyddwr
- Hanner Munud (1978) Cwmni Theatr Cymru cyfarwyddwr
- Terfyn (1978) Theatr Yr Ymylon cyfarwyddwr
- Gwenith Gwyn (1979) Cwmni Theatr Cymru cyfarwyddwr
- Hwyliau'n Codi (1979) Theatr Bara Caws cyfarwyddwr
- Rasus Cymylau (1980/1981) Cwmni Theatr Cymru cyfarwyddwr
- Diwedd y Saithdegau (1983) Sgwâr Un cyfarwyddwr
- Newid Aelwyd (1987) Hwyl a Fflag - cyd-awdur
- William Jones (1995) Cwmni Theatr Gwynedd - cyd-awdur
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gruffydd Jones wedi marw". Golwg360. 2013-07-02. Cyrchwyd 2024-09-12.