Neidio i'r cynnwys

Roedd Catarina o Gwmpas Ddoe

Oddi ar Wicipedia
Roedd Catarina o Gwmpas Ddoe
Dyddiad cynharaf1970
AwdurRhydderch Jones
CyhoeddwrChristopher Davies
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1974
Argaeleddallan o brint
ISBN0715401343
GenreDramâu Cymraeg

Drama lwyfan Gymraeg gan Rhydderch Jones yw Roedd Catarina o gwmpas ddoe a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970, ac wedyn ar daith. Cyhoeddwyd y ddrama ym 1974.[1]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Lleolir y digwydd mewn "caffi cyffredin nid nepell o'r môr" yng Nghymru, dros gyfnod o bythefnos. Ond yn gefndir cwbl angenrheidiol i'r cyfan ydi'r helynt gwleidyddol a ddigwyddodd yng ngwlad Groeg rhwng 1967 a 1974.

Yn Ebrill 1967, fe orchfygodd un o swyddogion y Fyddin yn Groeg, Georgios Papadopoulos, y Llywodraeth ddemocrataidd gan sefydlu grŵp milwrol (jwnta) a fu'n rheoli'r wlad tan 1974. Adwaenir y digwyddiad fel coup d'etat. Goruchwiliodd Papadopoulos lywodraeth awdurdodaidd, gwrth gomiwnyddol a gor-genedlaetholgar a roddodd ddiwedd, yn y pen draw, i'r Frenhiniaeth Roegaidd gan sefydlu Gweriniaeth gydag ef ei hun fel Llywydd. Ym 1973, cafodd ei orchfygu gan ei gyd-fwriadwr Dimitrios Ioannidis.

Cawn ein cyflwyno yn gyntaf i ddau gwsmer cwynfanllyd sy'n dadlau am ddiffyg arian, tra'n gamblo a bod ar y dôl. Mae'r ddau Gymro yn adleisio'r corws mewn trasiedi Roegaidd, neu'r cymeriadau Rosencrantz a Guildenstern o drasiedi fawr Shakespeare, Hamlet. Dychwela'r ddau drwy gydol y ddrama i gwyno am eu stad o dlodi a'r "fforinars" [y Groegwyr sy'n byw yng Nghymru] sy'n siarad iaith ddieithr yn eu cwmni.

Y Roeges ifanc a deniadol Catarina sydd yng ngofal y caffi, ac mae ei gŵr sy'n hŷn o lawer, yn wael a llesg yn ei wely. Mae Catarina yn cael cynnig dychwelyd i Groeg, trwy nawdd ariannol gan yr henwr, Mr Theophilos, sy'n hiraethu am yr henwlad. Wrth edrych dros luniau o Groeg, mae Theophilos yn datgan: "'Dydi lluniau del yn golygu dim. Temlau, theatrau, olion, traddodiadau, gorffennol. Dim. Os nad ydi hi'n rhydd, 'dydi hi ddim yn wlad."[1]

Cyn derbyn ei gynnig, mae Catarina yn cyfaddef ei bod hi'n feichiog o ganlyniad i'w pherthynas â'r Cymro, Morgan. Bwriad Theophilos drwy gynnig y tocyn unffordd a'r arian, ydi sicrhau mai Groeges fydd Catarina am byth, ac nid troi'n Gymro fel wnaeth ei brawd academaidd Cleophon. Mae Alexandros, y brawd arall "ar goll" heb fedru penderfynu os mai Groegwr ta Cymro ydio. Dienyddwyd eu tad gan yr awdurdodau yng Ngroeg, a barodd i'w mam a Mr Theophilos, ddianc o'r wlad. Ond yn ystod y ddrama, datgelir gan yr Alex sur mai'r unig reswm am help yr henwr Theophilos ydi ei euogrwydd o fod wedi bradychu eu tad. Roedd Theophilos yn un o'r rhai a gynllwynodd i ladd eu tad, a threfnu bod eu mam a'r plant yn dianc i Gymru, gan ddod yn "ail dad" i'r teulu.

"Doeddwn i ddim eisio dweud hyn, ond dyma'r gwir, a rhaid i ti i wynebu." ebe Alex.

"Cael un ohonon ni yn ôl i wlad Groeg i'w gynrychioli o, dyna fwriad Nikos Theophilos. 'Does arna i byth eisio gweld y lle ar ôl be wnaed i tada. Mae Cleophon wedi dewis ffordd arall. (Wrth Cleophon.) Ti oedd i fod i fynd. (Wrth Catarina.) A rwan, does neb ond ti ar ôl... Doedd gen i ddim dewis ond dweud wrtha ti. Mi dwedodd wrtha i unwaith, y talai o i William [gŵr Catarina] a mi hyd nes byddai un ohonon ni'n tri yn mynd yn ôl i wlad Groeg." [1]

Cawn eglurhad llawnach gan yr henwr Theophilos yn y drydedd Act, wrth egluro'r stori'n llawn wrth Cleophon, tra bod Catarina ar goll. Yn yr hanes, ceir awgrym o'r cyd-destun gwleidyddol yng Ngroeg a Chymru ar ddechrau'r 1970au:

"Pan oeddwn i'n ifanc, 'roeddwn i'n llawn syniada am y dyfodol, yn llawn breuddwydion a gobeithion. Roedd y wlad, yr iaith a'r gorffennol yn holl bwysig i mi. 'Roeddan ni'n griw bach sicr o'n daliada, argyhoeddedig o'n dyletswydd tuag at ein gwlad. Yn y penboethni ifanc hwnnw mi sefydlon ni fudiad—mudiad comiwnyddol. Y mudiad hwnnw oedd i achub y wlad. Mi hysgubwyd ni'n deimladol ag ymenyddol i gredu mai chwyldro, ymladd, lladd oedd yr unig ffordd... 'Roedd dy dad a minna'n ffrindia yn y Coleg yn Athen, yn ffrindia mawr. 'Roedd ynta'n caru'i wlad, yn ei charu gymaint a minna. 'Roedd ein syniada ni am y genedl mor debyg i'w gilydd. Ar ôl dyddia Coleg, gwahanu. Y tro nesa i mi ei weld oedd yn erbyn wal. Wyddwn i ddim mai fo oedd yno, nes tynnwyd yr hances oddi ar ei wyneb. Roedd ym mhlaid y Frenhiniaeth, yn teimlo'r un mor ddwfn a minna. A dyna lle'r oeddem, yn lladd ein gilydd. Y bore hwnnw mi geisiais ymddiswyddo o'r mudiad. Bradwr wyt ti meddan nhw. Bradwr oeddwn i o'r dechra o safbwynt y blaid Frenhinol. Bradwr wedyn yng ngolwg fy mhlant fy hun. 'Roedd ffolineb, creulondeb, anhegwch yr holl ymgyrch anwaraidd honno... Dyna sut deuthum yma i Gymru, o'r golwg, o afael y ddwy blaid. A dyna sut y gofynnais i dy fam ddod a chi yma. 'Roeddwn i'n gobeithio y byddai dy dad a minna'n medru uno ynoch chi, dod a'i ddelfryda a'i obeithion ef a minna at ei gilydd ynoch chi. Oedd Cleophon, 'roedd gen i fy rhan ym marwolaeth dy dad, a dy fam hefyd. Mi gynigais ei phriodi, ond fedra hi ddim. Anfonais ati i'r ysbyty ddiwrnod neu ddau cyn ei marw yn cyfaddef fy rhan i yn y digwyddiad, a gofyn am ei maddeuant. Mi gafodd Alexander afael ar y llythyr hwnnw."[1]

Wedi'r datgelu, cyhoeddir bod corff Catarina wedi'i ganfod ar waelod y dibyn, ger y môr.

Cefndir byr

[golygu | golygu cod]

"Yn Caterina [Roedd Catarina o gwmpas ddoe] mae Rhydderch [Jones] wedi dewis y thema oesol honno i'w ddrama sef y berthynas rhwng y 'lleiafrif' a'r 'mwyafrif' mewn cymdeithas", yn ôl Gwenlyn Parry, "a'r tro hwn Groegwyr yw'r 'lleiafrif gwahanol' a'r Cymry yw'r 'mwyafrif dylanwadol'. Gyda llaw mae'n fwriadol wedi llunio ei ddrama fel y bo ei ffurf yn adlais o'r hen ddrama Roegaidd glasur," ychwanegodd.[1]

Dyma'r ddrama gyntaf i ymddangos mewn print gan Rhydderch Jones, er ei fod wedi cyfansoddi tair drama ar gyfer y sgrin cyn hynny.[1] "Felly nid gwaith rhyw brentis bach yn cyflwyno ei ymdrech gyntaf sydd yma," yn ôl Gwenlyn Parry yn y Rhagair i'r ddrama, "ond cynnyrch awdur sydd yn barod wedi cael cryn dipyn o brofiad a mesur helaeth iawn o lwyddiant."[1]

"Ym mhob un o'i ddramâu yr un yw ei destun, sef y broblem o 'berthyn', boed y 'perthyn' hwnnw i genedl, iaith neu ddiwylliant, ac i drosglwyddo ei bregeth mae bob amser yn dewis stori hollol syml gyda chymeriadau hollol naturiol. Mae'n fwriadol yn ymwrthod ag unhyw elfen ddamhegol gymhleth a 'does dim rhaid crafu pen i gymhwyso, dadansoddi na dehongli ei neges".[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Y Cwsmer Cyntaf
  • Yr Ail Gwsmer
  • Catarina
  • Mr Theophilos
  • Alexandros
  • Nyrs
  • Cleophon
  • Catrin
  • Cwsmeriaid eraill

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama wreiddiol gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970, ac wedyn ar daith. Cyfarwyddwr Beryl Williams; cynllunydd Martyn Hebert.

Addaswyd a darlledwyd y ddrama ar BBC Radio Cymru yn y 2000au.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Jones, Rhydderch (1974). Roedd Catarina O Gwmpas Ddoe. Christopher Davies. ISBN 07154 0134 3.