Rhif 29, Stryt Fawr, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Rhif 29, Stryt Fawr
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirWrecsam, Offa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr80.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.044951°N 2.992013°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhif 29, Stryt Fawr (a elwir hefyd yn "Adeilad Alliance Assurance" [1] ac "Adeilad Provincial Welsh Insurance").

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae rhif 29 Stryt Fawr yn sefyll ar ochr ddeheuol y stryd, ger y gyffordd â Stryt Yorke a Stryt Caer. Mae'r adeilad yn rhan o grŵp o adeiladau mawreddog, gyda gwesty'r Wynnstay Arms ar Stryt Yorke, hen fanc Midland (rhifau 14-15 Stryt Fawr) a Marchnad y Cigyddion.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd rhif 29 Stryt Fawr yn 1861 gan y pensaer Richard Kyrke Penson ar gyfer cwmni Provincial Welsh Insurance.

Rhwng 1874 a 1899, daeth yr adeilad yn eiddo i gwmni Alliance Assurance ac mae enw'r cwmni hwnnw i'w weld o hyd ar flaen yr adeilad.

Roedd swyddfeydd y cwmni yswiriant ar loriau uchaf yr adeilad, tra bo'r llawr gwaelod yn cael ei ddefnyddio gan Fanc Gogledd a Deheudir Cymru. Yna, defnyddid yr adeilad gan Provincial Welsh a'i olynwyr tan y nawdegau.

Heddiw mae'r adeilad rhestredig gradd II yn gartref i dafarn.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Adeilad trillawr yn arddull Palazzo yw rhif 29 Stryt Fawr. Ar ffasâd yr adeilad, mae'n dal yn bosib darllen yr arysgrif “Alliance Assurance Company”.

Mae lôn gul o'r enw The Ney yn rhedeg rhwng rhifau 27 a 29 Stryt Fawr i Res y Deml y tu ôl i'r Stryt Fawr, yn gyfagos i fynwent eglwys San Silyn. Yn y 19eg ganrif roedd The Ney yn ffordd agored gyda nifer o anheddau arni.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wrexham Town Heritage Trail" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-11-29. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2022.
  2. "29 High Street, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2022.
  3. Edwards, Annette. "The Ney, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-28. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2022.