Stryt Yorke, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia

Prif stryd yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Yorke (Saesneg: Yorke Street). Cyfieithir enw'r stryd yn ogystal fel Stryt Efrog, ond enwyd y stryd ar ôl y teulu Yorke o Blas Erddig.[1]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Stryt Yorke yn disgyn y bryn o'r groesffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Siarl, ger gwesty'r Wynnstay Arms, yng nghanol Wrecsam, i'r gyffordd gyda Stryt y Bryn a Stryt y Twtil ger tafarn y Nag's Head a simnai Bragdy Border.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ynghyd â Stryt Caer, roedd Stryt Yorke yn un o brif lwybrau de-gogledd trwy ganol y dref. Buodd y stryd yn llawn siopau a thafarndai ar y ddwy ochr, ond cafodd ochr orllewinol y stryd, ger Eglwys San Silyn, ei dymchwel fel rhan o gynllun lledu ffordd a thirlunio’r ardal.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae gwesty'r Wynnstay Arms, un o adeiladau mwyaf amlwg Wrecsam, yn eistedd ar Stryt Yorke, gyferbyn â'r Stryt Fawr. Ei ffasâd o'r 18fed ganrif yw'r unig ran o'r strwythur hanesyddol a oroesodd.[2] I lawr y bryn, mae golygfeydd o adeiladau eiconig eraill, sef Eglwys San Silyn ar yr ochr orllewinol i fyny arglawdd agored gwyrdd a simnai Bragdy Soames i'r de ar Stryt y Twtil.

Mae'r stryd wedi'i chysylltu hefyd â Rhes y Deml trwy risiau sy'n arwain i fyny'r arglawdd i gyfeiriad Eglwys San Silyn ac â chanolfan siopa Dôl yr Eryrod dros bont droed sy'n dechrau ger gwesty'r Wynnstay Arms.

Mae cymeriad Stryt Yorke wedi newid dros y blynyddoedd, yn enwedig ar ei hochr orllewinol, a gafodd ei ddymchwel yn y saithdegau,[3] ond mae'r stryd wedi cadw nifer o adeiladau hanesyddol eraill, fel tafarndy'r Union Tavern (1906) [4] a'r Foundry (1853).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, W. Alister (2010). The encyclopaedia of Wrexham. Bridge Books. ISBN 9781844940677.
  2. 2.0 2.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 7 July 2022.
  3. "The changing view of Yorke Street". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-29. Cyrchwyd 7 July 2022.
  4. "Charles BATE - Union Brewery". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-30. Cyrchwyd 7 July 2022.
  5. "What is the Foundry". The Foundry Wrexham. Cyrchwyd 7 July 2022.


Oriel[golygu | golygu cod]