Rhes y Deml, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia

Lôn gul yng nghalon ganoloesol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n rhedeg yn gyfochrog â mynwent Eglwys San Silyn, yw Rhes y Deml (Saesneg: Temple Row).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Rhes y Deml yn un o nifer o strydoedd cefn â chymeriad canoloesol sy’n cysylltu mynwent Eglwys San Silyn a’r Stryt Fawr ag Allt y Dref yng nghanol Wrecsam.[1]

Mae'r lôn yn mynd o'r gorllewin i'r dwyrain o Gamfa'r Cŵn i Stryt Yorke a gellir ei chyrraedd o'r Stryt Fawr hefyd drwy Stryt yr Eglwys ac Arcêd Owrtyn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r enw "Rhes y Deml" yn un o nifer o enwau strydoedd eglwysig yng nghanol Wrecsam,[2] gyda Stryt yr Eglwys, Stryt yr Abad, Stryt y Priordy a College Street (yr enw Saesneg ar Gamfa'r Cŵn). Yn y gorffennol, rhannwyd Wrecsam rhwng Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron.[3]

Lluniau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 16 June 2022.
  2. Seal, Bobby. "Abbot and Regis: a tale of two townships". Psychogeographic Review. Cyrchwyd 16 June 2022.
  3. "Map of the town of Wrexham in the townships of Wrexham Abbot and Wrexham Regis". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 16 June 2022.