Overton Arcade, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Overton Arcade, Wrecsam

Arcêd siopa Fictoraidd yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Overton Arcade ("Arcêd Owrtyn"[1] neu “Arcêd Overton”).

Adeiladwyd yr arcêd yn 1869.[2] Mae'n cysylltu'r Stryt Fawr a Rhes y Deml ("Temple Row"), lôn sy'n rhedeg yn gyfochrog â mynwent Eglwys San Silyn.

Cafodd yr arcêd ei henwi ar ôl ei pherchennog, William Overton, hen faer Wrecsam, nid ar ôl y pentref Owrtyn (“Overton”) wedi'i leoli saith milltir o'r ddinas.[2]

Mae nifer o fusnesau lleol yn gweithio o'r arcêd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 8 June 2022.
  2. 2.0 2.1 "Overton Arcade in the 19th century". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-29. Cyrchwyd 8 June 2022.