Allt y Dref, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Allt y Dref
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.044731°N 2.994133°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd yng nghanol hanesyddol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, rhan o galon ganoloesol y ddinas, yw Allt y Dref (“Town Hill”).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Allt y Dref yn rhedeg o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain yng nghanol Wrecsam, i fyny'r bryn o ddyffryn Afon Gwenfro tuag at y gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt yr Hôb a Stryt yr Eglwys. Mae'r stryd yn rhan o galon ganoloesol y ddinas ac mae ynddi nifer o adeiladau hanesyddol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn yr Oesoedd Canol roedd Allt y Dref yn rhan o ganol masnachol y dref, yn yr ardal ger Eglwys San Silyn. Mae'r eiddo ar Allt y Dref wedi eu hadeiladau ar leiniau o dir cul hir, o bosibl o darddiad canoloesol. [1]

Dros y blynyddoedd collwyd llawer o adeiladau hanesyddol a arferai sefyll ar Allt y Dref gan gynnwys Hen Neuadd y Dref [1] a'r dafarn “yr Hand Inn”. [2]

Heddiw mae bywyd nos y ddinas i'w gael ar Allt y Dref a'r Stryd Fawr, lle ceir nifer o fwytai a thafarnau.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r stryd yn cynnwys nifer o adeiladau hanesyddol a rhestredi ac mae sawl adeilad canoloesol wedi goroesi ar Allt y Dref, yn arbennig y rhifoedd 5, 7 a 9. [1]

Mae'r stryd yn lledu o'r gyffordd gyda Stryt yr Abad i'r groesffordd gyda'r Stryd Fawr a Stryt yr Hôb. Yma roedd yn sefyll Hen Neuadd y Dref. Adeiladwyd neuadd y dref yn 1713 ond fe'i dymchwelwyd yn 1940.[1] 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 13 September 2022.
  2. "Hand Inn, Town Hill, Wrexham - Wrexham History". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-24. Cyrchwyd 13 September 2022.