Stryt yr Hôb, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia

Prif stryd fasnachol yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt yr Hôb (“Hope Street”).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Stryt yr Hôb yn cysylltu Stryt y Rhaglaw (“Regent Street”) â'r Stryt Fawr yng nghanol y ddinas. Mae'r stryd yn rhedeg o'r groesffordd gyda strydoedd Argyle, y Rhaglaw a'r Priordy, yn troi'r i'r de o flaen tafarndy'r Talbot (ar y gyffordd gyda Stryt y Syfwr), ac yn parhau tuag at y Stryt Fawr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Stryd i gerddwyr ar ei hyd cyfan yw Stryt yr Hôb. Mae'r stryd wedi cadw nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys y tafarndy Horse & Jockey, yr 'Argyle Arch', tafarndy'r Talbot, yr hen Fanc National Westminster ar gornel Stryt y Banc (adeiladwyd yn 1876 mewn arddull Eidalaidd), a mynedfa'r Arcêd Ganolog.[1] Ar ran y stryd sy'n arwain at y Stryt Fawr mae golygfa tuag at Eglwys San Silyn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r cyfeiriad cyntaf i Stryt yr Hôb (neu Stryd y Hopp) yn dyddio o 1553.[1] Fel nifer o strydoedd hynaf Wrecsam (Stryt Caer, Ffordd Rhiwabon), cafodd y stryd ei enwi ar ôl ei chyrchfan,[2] sef pentref Yr Hôb, Sir y Fflint.

Dros y blynyddoedd, roedd y stryd yn gartref i lawer o brif fusnesau teleuol y ddinas ac i siopau manwerthu mawr, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae rhai o'r olaf wedi symud i'r canolfan siopa Dôl yr Eryrod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 28 June 2022.
  2. "Explore Wrexham's Hope Street with vintage postcards". leaderlive.co.uk. Cyrchwyd 28 June 2022.


Oriel[golygu | golygu cod]