Tafarndy'r Talbot, Wrecsam
| Math | tafarn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Wrecsam |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 83 metr |
| Cyfesurynnau | 53.045988°N 2.993738°W |
| Cod post | LL11 1AP |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
| Manylion | |
Adeilad neo-Duduraidd rhestredig Gradd II[1] yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, wedi'i ddylunio yn wreiddiol fel tafarndy a siopau, yw Tafarndy'r Talbot (Saesneg: Talbot Hotel).
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae gan y Talbot le amlwg yng nghanol Wrecsam ar y groesffordd rhwng Stryt yr Hôb a Stryt y Syfwr ym mhrif ardal fasnachol y ddinas.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y tafarndy yn 1904-1905 yn yr arddull neo-Duduraidd ar sail cynllun John H. Davies & Son, Caer,[2] i gymryd lle hen dafarn ar yr un safle.[3]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Dyluniwyd prif ran yr adeilad i sefyll ar gornel Stryt yr Hôb a Stryt y Syrfwr, sydd yn esbonio ei siâp anarferol. Mae ganddo do coch amlonglog, waliau sy'n hanner pren a phaneli terracotta.[1] Mae adain ychwanegol i'r adeilad yn yr un dull, sy'n estyn ar hyd Stryt y Syfwr.[2]
Cofrestrwyd y Talbot yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru â'r rhif NPRN 301218.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 21 Mehefin 2022.
- 1 2 3 "Talbot Hotel Public House; 48 & 49 Hope Street, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 21 Mehefin 2022.
- ↑ "Nos 1-3 Queen Street, Clwyd, Rhosddu, Wrexham". Cyrchwyd 21 Mehefin 2022.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Tafarndy'r Talbot - yr hen arwydd
- Estyniad o'r hen dafarndy ar Stryt y Syfwr
