Tafarndy Horse & Jockey, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
The Horse and Jockey
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr84.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.046104°N 2.994949°W Edit this on Wikidata
Cod postLL11 1BG Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethPunch Pubs Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Tafarndy gyda tho gwellt yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Horse & Jockey. Mae'r tafarndy'n un o adeiladau hynaf y ddinas, wedi'i adeiladu o bosib yn 16eg ganrif. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[1]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae'r tafarndy yn sefyll yng nghalon fasnachol Wrecsam, ar y groesffordd rhwng Stryt yr Hôb a Stryt y Priordy, yn gyferbyn i'r Argyle Arch.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Yr unig adeilad gydag ymddangosiad canoloesol ar Stryt yr Hôb yw'r Horse & Jockey. Mae'n adeilad bach a hir gyda tho gwellt yw'r tafarndy, sy'n wahanol iawn i'r adeiladau eraill ar y stryd. Mae'r talcen yn sefyll ar Stryt yr Hôb, ac mae'r adeilad yn estyn ar hyd Stryt y Priordy. [2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y tafarndy yn ôl pob tebyg fel tŷ neuadd yn yr 16g ond fe'i defnyddir fel tafarn ers canrifoedd. Cafodd o ei ymestyn yn yr ail ganrif ar bymtheg a'i rannu'n dri. Cafodd o ei ailfodelu'n sylweddol er mwyn dod yn dafarn.[3]

Yn 1938 cafodd y dafarn ei gwerthu i'r cwmni Wrexham Lager, a atgyweiriodd yr adeilad er mwyn atal ei ddymchwel.[3]

Enwyd y dafarn ar ôl y joci pencampwr Fictoraidd Fred Archer.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wrexham Town Centre Conservation Area Assessment and Management" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 6 September 2022.
  2. "Horse And Jockey Public House, 32 Hope Street, Wrexham - Coflein". Coflein. Cyrchwyd 6 Medi 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Horse and Jockey pub, Wrexham - history points". History Points. Cyrchwyd 6 September 2022.